O’i gymharu â chasineb personol rhyfeloedd Rwanda, Gaza a Syria mae’r llif beunyddiol o hanesion eleni am y Rhyfel Mawr yn peri iddo ymddangos fwyfwy fel lladdedigaeth ddiwydiannol ddi-emosiwn. Gêm o wyddbwyll farwol. Er hynny, ychydig iawn yw’r mân sylwadau am y dwylo a symudodd y darnau ond nid oes modd dianc rhag pathos yr hanesion am werin y bwrdd. Un o’r hanesion yma a ddaliodd fy sylw i yn ystod wythnos y Cofio. Bu’r Preifat Ernest Cable farw o ddysentri ger ffosydd Ffrainc ar Fawrth 13 1915 yn 28 oed. Roedd yn aelod o Ail Fataliwn Catrawd Dwyrain Surrey. Nid oes iddo ddisgynyddion nac unrhyw gysylltiad teulu sy’n dal yn fyw. Am a wn i, mae ei weddillion wedi hen droi’n llwch ym mynwent Wimereux, Ffrainc. Ond wrth ymchwilio i gofnodion ysbyty wledig gerllaw, canfu’r Dr Alison Mather o’r Athrofa Sanger gofnod i’r ffaith mai o’i gorff y daeth y sampl gyntaf i Gasgliad Cenedlaethol bacteria Gwledydd Prydain. Dyma NCTC1 – Shigella flexneri – y gyntaf o’r 5100 sydd yno heddiw. Ymddangosodd dau bapur amdani yn Y Lancet ac mae’r Athrofa wedi gosod ffilm ar YouTube am y modd y darganfuwyd mai o gorff Ernest y daeth y sampl a labelwyd yn syml, mewn copor-plêt inc, yn “Cable”. Gwyddoniaeth fodern yr hanes yw fod Athrofa Sanger wedi darllen dilyniant DNA y bacteriwm fel rhan o’i hymchwil i esblygiad y clefyd drwy gymharu dognau a gasglwyd dros y ganrif. Nid oedd, ac nid oes hyd yma, frechiad rhag y Shigella sy’n lladd 100,000 o blant y flwyddyn yn y trydydd byd. Er i Cable farw cyn i Fleming ddarganfod Penisilin yn 1928, o’r dilyniant DNA mae modd gwybod na fyddai hynny wedi bod o gymorth iddo yntau ychwaith. Roedd ei Shigella eisioes yn ei wrthsefyll, fel y byddai wedi gwrthsefyll y gwrthfiotig Erythromycin, a ddarganfuwyd yn 1949. Bellach, er ei fod yn dal i fod 98% yr un fath â NCTC1, mae DNA Shigella ganrif yn ddiweddarach wedi symud ymlaen yn y Rhyfel Mawr clinigol ac yn gwrthsefyll nifer o’r antibiotigion diweddaraf yn ogystal.
Hanes arall, pur wahanol, am golli gwaed ymddangosodd yr un mis yn y cylchgrawn PLoS One, ar ôl i grŵp ymchwil o Brifysgol Linköping yn Sweden fynd ati i ddarganfod beth sy’n gyfrifol am yr arogl sy’n nodweddiadol o waed ffres. Recriwtiodd Matthias Laska dîm o flaswyr proffesiynol i roi eu barn ar un sylwedd anwedd ar ôl y llall a oedd wedi’i buro o waed. Yr un a ddewiswyd oedd traws-4,5-epocsi-(E)-2-decenal. Disgrifir yr arogl fel un metelig ac ymffurfia wrth i frasterau anifeiliaid ymdreulio yn y corff. Un peth oedd plesio’r beirniaid proffesiynnol – rhaid oedd hefyd plesio’r cwsmeriaid. I weld eu hymateb, taenodd Laska y cemegyn ar ddarnau o bren ym Mharc Bywyd Gwyllt Kolmården a’u gosod yng nghewyll teigr o Siberia a thair rhywogaeth o gi gwyllt o’r Affrig. Dotiodd yr anifeiliaid ac aethant ati i gnoi’r pren ag afiaith. Yn wir, roedd yn well gan y cŵn y pren â’i arogl na’u gwaed ceffyl go-iawn arferol. Gwell imi beidio â dweud wrth fy hoff gigydd ar Stryd Fawr Bangor, neu fe fydd y ciwiau aros am gig y Nadolig yno yn hwy nag y maent eisioes.
Gobeithio nad ydych yn tynnu gwaed wrth gosi. Ond os ydych mae Zhou-Feng Chen o Brifysgol, Washington, St Louis gam yn nes at ddeall pam. Mae’n debyg eich bod yn gyfarwydd â’r sefyllfa. Y pen yn cosi, ‘rydych yn ei grafu. Llonyddwch am ysbaid ac yna mae’r cosi yn dychwelyd – yn gryfach. Rhaid ei gosi eto. Ers rhai blynyddoedd mae Chen wedi ymchwilio i swyddogaeth y niwrodrosglwyddydd Serotonin yn y broses. Poen y crafu sy’n llesteirio’r cosi (a rhoi’r boddhad) ac mae Serotonin yn cyflyru’r unigolyn i grafu’r cosi. Profwyd hyn drwy ddefnyddio llygod GM nad oedd yn cynhyrchu Serotonin. Nid oeddynt yn crafu. Mae’r Serotonin, hefyd, yn lleddfu’r boen, felly roedd yn ymddangos bod y broses yn “gweithio”. Ond yn y cylchgrawn Neuron mae Chen a’i dîm wedi dangos bod y sefyllfa’n fwy cymhleth. Yn yr ymennydd mae nerfau arbennig sy’n adweithio i Serotonin drwy ddwysau y teimlad o gosi ond nid yw llygod GM sydd heb y nerfau yma’n crafu ar ôl derbyn dogn o Serotonin. Mae’n debyg, felly, bod y niwrodrosglwyddydd yn ein hysgogi i grafu’r cosi, gan leddfu’r boen wrth grafu ond hefyd gryfhau’r cosi – sy’n arwain at yr angen am fwy o grafu. Mae darllen am hyn eisioes wedi fy ngyrru i i gosi a chrafu. Os yw’ch mamgu yn digwydd bod acw dros yr ŵyl, rydych bellach yn gwybod yn union beth i’w wneud a pham.
Ond cyn eich gadael i bendwmpian o flaen y tân, hoffwn rannu un o luniau gwyddonol mwyaf hanesyddol y flwyddyn â chi. Efallai nad yw’r llun ei hun mor drawiadol – cyfres o gylchoedd niwlog oren a melyn. Ond mae’r modd y cynhyrchwyd ef yn rhyfeddod. Dyma un o ddelweddau cyntaf ALMA, telesgop cyfansawdd ag iddo 66 dysgl a adeiladwyd yn uchel yn anialwch sych yr Atacama yn Chile – man sycha’r byd. Drwy ddefnyddio tonfeddi’r is-goch a radio mae ALMA wedi llwyddo i edrych drwy gymylau llwch sy’n gorchuddio’r seren ifanc HL Tauri, ryw 450 blwyddyn goleuni i ffwrdd. Lliwiau “ffug” yw’r oren a melyn, ond nid ffug y ddelwedd sy’n dangos am y tro cyntaf erioed y ddisgen lwch sy’n ffurfio planedau o amgylch sêr. Y cylchoedd a’r bylchau yw’r mannau lle mae’r llwch eisoes wedi dechrau ceulo ar ei ffordd i ffurfio planed neu leuad. Am y tro cyntaf mae modd gweld, yn hytrach na dyfalu, sut oedd gwedd system ein haul ni wrth iddo ffurfio 4.57 biliwn o flynyddoedd yn ôl.
Yn nhreigl amser, braf fyddai meddwl mai er lles ac er rhyfeddod yn unig y bydd trigolion planedau eu dyfodol hwy yn medru defnyddio technoleg gan osgoi casineb a chyflafanau mecanyddol ein byd ni. Blwyddyn Newydd Dda i bawb o bob blaned.
Pynciau: Shigella, Arogl gwaed, Cosi, HL Tauri