Barn 79 (Tachwedd 2014)

Gyda’r firws Ebola yn troi o fod yn fygythiad i fod yn realiti i ni yn y Byd Datblygedig, dadlennol iawn oedd darllen am fanylion hanes y pandemig diwethaf hwnnw – HIV-AIDS –  yn y cylchgrawn Science  ddechrau Hydref. Ynddo mae digon sy’n berthnasol – ac yn rhybudd –  am y sefyllfa bresennol.  Technoleg dadansoddi DNA sy’n gynhorthwy i’r hanesydd y tro hwn. Trwy ei fesur mewn rhyw 800 dogn o waed a oroesodd o’r cyfnod rhwng 1959 a’r 1980au, bu modd ail greu cart achau’r clefyd ymhell cyn y cyfnod hwnnw. Yn fwy diddorol fyth yw’r modd y gosodwyd yr hanes ar fap – ac yna’i gysylltu â datblygiadau’r Affrig ar ddechrau’r ganrif diwethaf. Mae yma rybudd-heb-ateb i ni heddiw.  Ymddengys i heliwr yn fforestydd y Camerŵn o gwmpas y flwyddyn 1884, ladd tsimpansî a oedd yn dioddef o fersiwn mwnci’r clefyd. Wrth ei drin, aeth diferyn o waed yr anifail i glwyf yn nghroen yr heliwr. Y foment gyntaf dyngedfennol yn y broses a fyddai’n lladd miliynau.  Troi ymysg aelodau tylwythau bach y jwngl y bu’r clefyd am sawl degawd cyn i un ohonynt, tua’r flwyddyn 1920, gymryd y fferi ar hyd yr afon Sangha  i Kinshasa (Leopoldville) yn y Congo. Yno dechreuodd ledaenu wrth i’r ddinas dyfu, ac yno yn 1959 y bu farw’r claf cyntaf y gwyddom i sicrwydd amdano. Fe’i hadwaenir fel ZR59, a chynhwyswyd dogn o’i waed yn yr arolwg diweddar. Ond ymhell cyn hynny, roedd trefedigaethwyr o Wlad Belg wedi agor mwyngloddiau copr mil a mwy o filltiroedd i’r de – yn ardal Likashi (Jadotville) a Lubumbashi (Elisabethville) – ar ffin Nyasaland a Rhodesia. (Rwy’n ailadrodd yr enwau ymerodraethol – drwg-enwog i’r rhai o’m cenhedlaeth i –  i danlinellu’r rhan yma o’r hanes.)  Megis yng Nghymru hanner canrif ynghynt, roedd angen mwyngloddwyr ac adeiladwyd rheilffordd yno yr holl ffordd o ardal Kinshasa i’w cludo.  Ar y trên cyrhaeddodd HIV galon yr Affrig tua 1937.  I gyfeiriad y gogledd, heb y rheilffordd, arafach oedd y daith ar hyd afon Congo. Ond erbyn 1953 ‘roedd wedi cyrraedd Kisangani (Stanleyville – dinas ein cyd-wladwr enwog). Mae’n debyg yn ystod y cyfnod hwn mai rhyw dri neu bedwar cwsmer yr wythnos fu gan buteiniaid Kinshasa. Ar ôl annibyniaeth anniben y wlad yn 1960 cynyddodd hyn i bymtheg. Mae gweddill yr hanes yn gyfarwydd.

Flwyddyn neu ddwy yn ôl, yn y golofn hon, fe soniais am ddarn arall o DNA a oedd yn cynorthwyo’r hanesydd – neu o leiaf ei chwaer yr archeolegydd.  Credir i ymddangosiad y gennyn FOXP2  yng nghromosomau ein cyndadau tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl ganiatáu ein defnydd o iaith –gan arwain, yn weddol sydyn at ymddangosiad olion hanesyddol dynoliaeth fodern. Yn PNAS ddiwedd yr haf adroddodd Ann Graybiel o MIT yn Boston ganlyniadau arbrofion lle gosodwyd fersiwn dynol FOXP2 yng nghelloedd llygod ac yna brofi eu deallusrwydd. Y prawf oedd dysgu mordwyo drysfa i gyrraedd gwobr o fwyd.  Roedd y canlyniadau yn drawiadol.  Cymerodd ddeuddeg diwrnod i lygod cyffredin feistroli’r dasg, ond dim ond wyth i’r llygod traws-genig. Hyd yn hyn aneglur iawn yw’r modd mae FOXP2 yn gweithio. Yr awgrym blaenorol oedd ei fod yn ymwneud a rheolaeth yr ymennydd dros y gwddf a’r safn – ond anodd deall sut bod hynny’n cyd-fynd â’r broses o ddysgu’n gynt.

Efallai y daw ychydig oleuni ar y mater o bapur gan Susan Lingle o Winnipeg yn yr American Naturalist. Cyn dysgu siarad, mae pob babi iach yn cyfathrebu yn hollol bendant ac eglur â’u mamau (a’u tadau) trwy grio.  Pa gyfathrach a all fod yn fwy creiddiol ? Sylw annisgwyl Lingle oedd bod mamau ceirw gwyllt (Odocoileus hemionus) yn ymateb nid yn unig i’w hepil eu hunain ond i grio babis morloi, marmotau, cŵn, cathod  a phobl.  Yn y gorffennol credwyd bod perthynas debyg rhwng pobl a’u hanifeiliaid anwes yn rhan o’r broses o ddomestigeiddio.  Ond trwy chwarae recordiadau dros y paith darganfuwyd bod hyd yn oed crio uwchsain ystlumod bach, ar ôl suddo’u traw i lefel sain ceirw, yn creu’r un ymateb. Nid oedd synau eraill anifeiliaid nac adar yn ennyn yr un ymateb. Ymddengys bod  ambell agwedd o gri’r creaduriaid bach diymadferth wedi goroesi 90 miliwn o flynyddoedd o esblygiad. Wrth ymateb i’r papur yn y New Scientist, dywed Jaak Panksepp, niwrobiolegydd o Brifysgol Taleithiol Washington, bod hyn yn dangos dawn y carw i ganfod stad emosiynol aelod o rywogaeth arall. Yr awgrym yw bod tebygwydd rhwng y stadau emosiynol hyn ymhlith y gwahanol anifeiliaid ac, wrth gwrs, ni ein hunain.

Ond ym myd y molecylau fe welwyd pethau hollol estron yn digwydd. Yn Science ym mis Medi disgrifiodd tîm o wyddonwyr o Darmstadt ymddygiad cemegolion wedi’u gwneud o un o’r elfennau trymaf – Seaborgiwm. Yn pwyso 106 uned, dyma un o’r elfennau traws-wranig sy’n bodoli am ychydig eiliadau yn unig o fewn labordai. Llwyddodd Christoph Düllmann a’i gydweithwyr i greu digon o atomau o’r elfen i’w adweithio gyda monocsid carbon i ffurfio moleciwl. Am ryw 10 eiliad ar y tro roedd modd dadansoddi ymddygiad cemegol (yn hytrach na niwclear) y moleciwl. Oherwydd maint yr elfen drom roedd electronau’r moleciwl yn symud hyd at 80% cyflymder goleuni – ac yn ymddwyn yn berthynolaidd (chwedl y Briws), hynny yw yn ôl damcaniaeth Einstein.  Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn moleciwl – yn hytrach na mewn atomau. Erys y gobaith o greu atomau sylweddol fwy a fydd, o bosib, yn gymharol sad. Byddai’r effaith berthynolaidd hwn yn fwy amlwg yn yr atomau mwy. Pe bai modd creu sylweddau molecylaidd o’r rhain byddai modd cychwyn mathau newydd sbon o gemeg traws-wranig.

Mae dynoliaeth wedi symud yn bell iawn o’r foment traws-rywogaeth yn fforest y Camerŵn yn 1884, ond ‘rydym o hyd yn ysglyfaeth i ddylanwad ein genynnau FOX sy’n ein galluogi i greu cymdeithasau mwy a mwy – sydd yn y pen draw yn dangos ymddygiadau berthynolaidd annisgwyl – megis lledaeniad Ebola. Ni allwn ond gobeithio bod yr un ffactorau yn ein galluogi i gydweithio i greu byd tecach o glywed cri pob babi bach.