Barn 78 (Hydref 2014)

Ar ôl digwyddiadau gwleidyddol y gwledydd hyn yn ddiweddar, mae nifer yn credu’n daer fod angen trallwysiad o waed ifanc arnom.  Calonogol, felly, oedd darllen y bydd Tony Wyss-Coray a’i dîm yn Ysgol Feddygol Stanford yn gwneud yr union beth y mis hwn.  Defnyddio plasma gwaed cyfranwyr o dan 30 oed a’i trallwyso i wirfoddolwyr hŷn ag iddynt arlliw o’r clefyd Alzheimer. Cred Wyss-Coray y gwelir gwellhad ar unwaith yng nghyflwr y cleifion. Gwaith a wnaed ym Mhrifysgol Cornell yn y 1950au fu’r ysgogiad i’r arbrawf hynod hwn.   Drwy broses sy’n atgoffa dyn o ffilmiau Hammer y cyfnod, cyd-gysylltwyd cylchrediad gwaed dwy lygoden; un hen ac un ifanc. Yn fuan ar ôl cychwyn yr arbrawf roedd gewynnau’r hen lygoden yn ymddangos yn ifancach. Tra oedd meinweoedd, megis cyhyrau, y llygoden ifanc yn heneiddio.  Erbyn 2005 roedd arbrofion yn Stanford yn dangos bod y gwaed ifanc yn adfer bôn-gelloedd afu a chyhyrau hen lygod i’r fath raddau fel bod eu cyhyrau yn gwella o anafiadau cyn gyflymed â rhai llygod ifanc. Yn 2012, bu grŵp o Harvard yn cyfnewid gwaed parau o lygod lle roedd yr hynaf yn dioddef o galon chwyddedig. Ar ôl pedair wythnos ‘roedd y calonnau wedi lleihau i’w maint ifanc, iach. Yn yr arbrawf hwn darganfuwyd mai protein yn y gwaed, GDF11, oedd yn gyfrifol am ran helaeth o’r ymateb. Roedd chwistrelliad beunyddiol o hwn bron cystal a’r trallwysiad llawn. Gwelwyd, hefyd, bod lefelau GDF11 yn gostwng gydag henaint. Llynedd, cyhoeddodd  Wyss-Coray a’i dîm erthygl yn Nature Medicine yn dangos bod gwellhad, hefyd, ar briodoleddau’r meddwl a dyfalbarhad corfforol.  Ar ôl dangos bod gwaed ifanc dynol yn cael effaith tebyg ar hen lygod penderfynwyd symud ymlaen i’r arbrawf presennol.  Does neb yn awgrymu defnyddio gwaed ifanc ar lefel eang os bydd yn llwyddiannus, a hynny  am resymau moesol ac ymarferol ond gobeithir, drwy ddarganfod y ffactorau GDF11 a’u bath, y bydd modd datblygu cyffuriau sy’n eu hefelychu. Gobeithio y bydd modd cael llond gwlad ohonynt !

Nid dim ond pobl, sy’n gallu dysgu oddi wrth ei gilydd.  Dros yr hanner canrif ddiwethaf gwelwyd cyfres o anifeiliaid ac adar yn taro ar sut i ddefnyddio erfyn o ryw fath, ac yna dysgu’r grefft i eraill.  Y cocatŵ Goffin yw’r diweddaraf i gael ei ddisgrifio yn Proceedings of the Royal Society. Yn 2012 sylwodd Alice Auresperg o Brifysgol Vienna ar un o’r adar yma, o’r enw Figaro, yn defnyddio darn o bren i geisio symud carreg fechan tuag ato. Yn brawf ar ei ddoniau, rhoddwyd cneuen ychydig allan o’i afael tu allan i’w gawell. Gwelwyd Figaro yn torri darn priodol o bren a’i ddefnyddio i gipio’r gneuen. Aeth Auresperg ati i weld a oedd modd i unigolion eraill ddysgu’r peth.  Caniataodd i chwech cocatŵ weld Figaro yn gwneud ei gamp, tra chafodd chwech arall “wers” lle symudwyd y darn pren â magnet er mwyn symud y gneuen.  Ni lwyddodd yr un aderyn yn yr ail grŵp i ddysgu dim, tra y bu i dri o grŵp Figaro ddysgu defnyddio erfyn – gyda dau ohonynt hefyd yn dysgu sut i wneud erfyn pren drostyn eu hunain. Gobeithio y caf yr un llwyddiant wrth ddysgu sgiliau labordy i fyfyrwyr Bangor y tymor hwn !

Un peth sydd wedi bod yn anodd iawn ei ddysgu yn gyffredinol yw gwirionedd gwresogi byd eang. Aeth y wers yn anoddach i’w dysgu yn ddiweddar pan sylweddolwyd bod graddfa y cynhesu wedi arafu – er bod lefelau nwyon tŷ gwydr yn dal i gynyddu. Defnyddiwyd hyn gan y rhai sy’n gwrthod derbyn bod yna broblem i ddadlau dros eu safbwynt. Dechreuodd y cyfnod hwn yn 1997 pan ddechreuodd gwyntoedd cryfion anghyffredin dros y Môr Tawel yrru’r dŵr cynnes i’r dyfnderoedd lle nad oedd yn cael effaith ar yr hinsawdd. Bellach mewn erthygl yn Nature Climate Change mae Masahiro Watanabe wedi ceisio gwahaniaethu rhwng y ffactorau byrhoedlog a’r rhai hirhoedlog. Yn yr 1980au roedd newidiadau byrhoedlog (“naturiol”) yn gyfrifol am hanner y newidiadau tymheredd.  Erbyn degawd cyntaf y mileniwm newydd, gostyngodd hyn i chwarter. Yn Geophysical Research Letters y mis diwethaf defnyddiodd Matthew England o Brifysgol De Cymru Newydd ddata tebyg i ddadlau y gwelwn lai a llai o’r “seibiannau” rhagluniaethol hyn yng nghynnydd tymheredd y byd yn y dyfodol. Erbyn 2030 byddant wedi peidio yn llwyr. Byddai ffenomen megis echdoriad folcanig o faint Krakatoa, hyd yn oed, ddim yn ddigon i gychwyn seibiant a fyddai’n para deng mlynedd. Ar yr ochr gadarnhaol, os dysgir y gwersi, a dechrau allyrru llai o nwyon tŷ gwydr erbyn 2040, bydd y cyfnodau hir araf yma yn fwy tebygol ar ôl 2100.

Os ydych yn ceisio dihangfa o’r holl argyfyngau a siomedigaethau bywyd drwy fynychu eich Ffynnon Goffi leol, newyddion da a ddaeth i’ch bro. Mae gwyddonwyr wedi datgelu dilyniant DNA coffi (o’r math robusta) a’i gyhoeddi yn Science mis Medi.  Trwy wneud hynny mae nifer o enynnau sydd wrth gefn gwneud caffein a’i arogleuon hudolus wedi dod i’r amlwg.  Ers blynyddoedd bu bridwyr coffi yn ceisio dod o hyd i’r mathau sydd â’r blas gorau, ond gyda lefelau isel o gaffein ar gyfer y rhai sy’n methu cysgu. Bellach daethpwyd gam mawr yn nes. Yn ôl y New Scientist, mae Christopher Hendon o Brifysgol Bath sy’n astudio coffi yn ei amser sbâr,  yn edrych ymlaen at gynyddu caffein robusta. Trwy wneud hyn, ni fydd angen defnyddio cymaint ohono ef, a’i flas salach, wrth ei gymysgu â’r Coffea arabica  gwannach ond mwy blasus. Ar raddfa mwy amaethyddol, gobeithir defnyddio’r wybodaeth i ddatblygu mathau o goffi sy’n gwrthsefyll plâu ac sy’n fwy tebygol o oroesi newidiadau hinsawdd. Y mae’r ffaith bod Coffea Arabica yn tyfu o fewn ystod gyfyng iawn o dymheredd yn hynod o bwysig. Wrth i’r byd gynhesu mae’r coedlannau coffi yn symud yn uwch i fyny llethrau’r mynyddoedd, lle mae llai o dir iddynt. Gobeithir y bydd modd trosglwyddo’r wybodaeth am robusta i’r coffi blasus hwn ac ymestyn ei gynefin unwaith eto.

Ond gyda’r gobaith am waed ifanc, efallai na fydd angen cymaint o’r hylif du i ysgogi’r peiriant wedi’r cwbl.


Pynciau:  Gwaed, Figaro, Newid Hinsawdd, Coffi