Efallai yr hoffech wybod y daethpwyd gam yn nes at esbonio tarddiad y lleuad fis Mehefin eleni. Anodd credu, wrth edrych ar ei hwyneb crwn soled ar noson leuad lawn, y bu unwaith yn ddim ond bentwr o rwbel poeth cyn i ryw wres mawr ei doddi ac asio’r rwbel yn belen. Cytuno ar hynny y mae seryddwyr – ond heb gytuno am darddiad y “rwbel” ? Mae cytundeb hefyd bod y lleuad ryw 4.5 mil miliwn o flynyddoedd oed – tua chan miliwn o flynyddoedd yn iau na chyfundrefn yr haul a’r planedau. (Mae’n debyg mai ryw gwta 3 i 10 miliwn o flynyddoedd a gymerodd y planedau a’r haul cynnar i ffurfio o’r cwmwl nifylaidd.) Hyd at 80au’r ganrif ddiwethaf, un gred boblogaidd oedd bod y ddaear wedi herwgipio un o’r planedynau cynnar a ffurfiwyd o’r llwch gwreiddiol. Damcaniaeth arall oedd bod y ddaear a’r lleuad wedi ffurfio’n gyfuniad dwbl o’r un llwch. Syniad arall, a ddysgwyd rywbryd i mi yn yr ysgol, oedd mai talp o’r ddaear a luchiwyd, rywsut, i’r gofod oedd y lloer – ac mai’r Môr Tawel oedd y graith a adawyd ar ôl. Ond wrth i fanylion coreograffi’r ddwy ddod yn fanylach (nid oes ochrgamu yn y nefoedd) – ynghyd â gwybodaeth am gyfansoddiad cyffredinol y ddwy ddaearen – ciliodd y sicrwydd am yr holl esboniadau hyn. Ar flaen ras yr esboniadau ar hyn o bryd y mae damcaniaeth “Gwrthdrawiad y Cewri”. Yn ôl y ddamcaniaeth hon, tarawodd planedyn tua maint y blaned Mawrth yn erbyn y broto-Ddaear, ryw 90% o’i maint heddiw. Enwyd y blanedyn ddamcaniaethol hon gan Alex Halliday yn 2000, yn Theia, ar ôl mam Selene, duwies Lleuad y Groegiaid. Maluriwyd y ddwy yn y broses, ond wrth i ddisgyrchiant ailuno’r teilchion ffurfiwyd y Ddaear a’r Lloer. Byddai egni’r gwrthdrawiad yn ddigon i doddi’r darnau. Amcangyfrifir y byddai rhannau o’r ddaear wedi cyrraedd 10,000 gradd Celsius. Mae hyn yn boeth wrth ystyried bod y rhan fwyaf o greigiau’r ddaear yn toddi cyn cyrraedd 1600 gradd. Mae’r llwybrau presennol yn unol â’r syniad yma – a thrwy eu cyfrifo gwelir bod y rhan fwyaf o’r Theia wreiddiol wedi dod yn rhan o’r Lleuad heddiw. A dyna oedd asgwrn y gynnen cyn mis Mehefin. Wrth ddadansoddi nifer o greigiau gofod-deithiau Apollo’r 70au nid oedd unrhyw dystiolaeth o’r gwahaniaeth disgwyliedig yng nghyfansoddiad cemegol y Ddaear a’r Lleuad. Bellach mae Daniel Herwartz a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Cwlen, mewn papur yn Science, wedi dangos gwahaniaeth bychan yn lefel isotop ocsigen-17 y maent yn honni sy’n dystiolaeth bod rhannau o gorff Theia wedi goroesi. Nid yw pob gwyddonydd planedau yn cytuno – ac mae’n debyg y bydd yn rhaid inni aros am deithiau eraill i’r Lleuad cyn sicrhau’r gwir.
Mae hel gwybodaeth gywir am y bydysawd hefyd yn bwysig i Wenyn Mêl. Efallai nad oes a wnelo hyn â tharddiad a chyfansoddiad y Lleuad , ond mae tarddiad a chyfansoddiad paill a neithdar o’r pwysigrwydd mwyaf iddynt. Bydd darllenwyr cyson y golofn hon yn gwybod fy mod wedi dechrau cadw gwenyn yn ddiweddar. Un wefr aruthrol a gefais llynedd oedd gweld am y tro cyntaf y ddawns ffigwr-wyth enwog. (Lle mae’r weithwraig yn dilyn cyngor y Dr. Steve Eaves ac yn siglo ei ***.) Yn y 60au’r ganrif ddiwethaf profodd yr etholegydd Ellmynig, Karl von Frisch mai swyddogaeth y ddawns hon oedd cyfleu cyfeiriad a phellter ffynhonnell fras o fwyd i’r cwch. Yn y cylchgrawn Current Biology yn ddiweddar mae Margaret Couvillon a’i chydweithwyr ym Mhrifysgol Sussex yn esbonio sut yr aethpwyd ati i ddefnyddio ymwybyddiaeth y gwenyn o’u hamgylchedd at ddibenion cadwraeth. Holodd Couvillon a fyddai modd dadansoddi iechyd y tirwedd o gwmpas y nyth trwy “ddarllen” negeseuon y gwenyn. Ffilmiodd 5484 ddawns o dri chwch gerllaw nifer o gynlluniau cadwraeth. Mynegodd y creaduriaid hoffter pendant o un warchodfa natur llawn blodau – ac yr oeddynt yn weddol ganmoliaethus eu barn am ffermydd cynllun Stiwardiaeth Lefel Uwch, lle cedwir peth tir yn wyllt. Ond nid oeddynt yn dawnsio mor aml i gyhoeddi lleoliad ffermydd Stiwardiaeth Mynediad Organig – lle mae torri gwair cyson yn lleihau nifer y blodau. Sylw Lars Chittka, o Brifysgol Llundain, yn y New Scientist, oedd bod angen gofal wrth ddehongli’r dawnsio. Efallai nad yw tirwedd sydd wrth fodd y gwenyn o anghenraid yn dda i weddill byd natur.
Yn sicr, mae dwy wedd ar rywbeth yn well nag un. Rydym ni’r Cymry yn hoffi, gobeithio, pwysleisio manteision dwyieithrwydd i’n cyd-drigolion unieithog. Os oedd unrhyw amheuaeth am hyn, cyhoeddwyd y dystiolaeth gryfaf eto am gyswllt unieithrwydd â chlefyd Alzheimer a dirywiad y meddwl ym mis Mehefin yn yr Annals of Neurology. Trôdd Thomas Bak a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Caeredin at arolwg a wnaethpwyd yn yr ardal honno yn 1947 pan brofwyd sgiliau gwybyddiaeth ryw 1100 o blant a anwyd yn 1936. Roeddynt i gyd yn uniaith Saesneg ar y pryd. Yn ddiweddar, daeth Bak o hyd i 853 ohonynt, bellach yn eu 70au cynnar. Darganfu bod bron i draean ohonynt wedi dysgu siarad o leiaf un iaith arall yn y cyfamser, gyda 65 ohonynt wedi gwneud hynny ar ôl eu pen-blwydd yn 18. Ail brofwyd eu medrau gwybyddiaeth a chymharu’r canlyniadau gyda’r rhai blaenorol. Canfuwyd bod y grŵp dwyieithog yn sgorio yn sylweddol well mewn sawl agwedd – yn arbennig yn eu deallusrwydd cyffredin a’u darllen. Eglura Bek, ac hefyd Ellen Bialystok o Brifysgol York yng Nghanada, a oedd y gyntaf i weld y cysylltiad rhwng dirywiad meddwl ac unieithrwydd, mai cryfder yr archwiliad arbennig hwn yw natur homogenaidd yr unigolion a astudiwyd. Yng ngwaith cynharach Bialystok roedd cymysgedd cefndir y rhai a astudiwyd yn codi problemau dehongli’r data a awgrymodd fod unigolion dwyieithog yn osgoi symptomau clefyd Alzheimer am bedwar i bum mlynedd o’i gymharu. Yn astudiaeth Bek gwelwyd bod siarad mwy nag un iaith mor llesol ag ymarfer corff neu beidio ag ysmygu, hyd yn oed. Newyddion da i gyhoeddwyr Barn, felly. Fe ddylai fod modd iddynt gadw eu darllenwyr yn ffyddlon am flynyddoedd yn hwy na rhai’r rhan fwyaf o gylchgronau Saesneg ein gwlad !
Pynciau: Y Lleuad, Gwenyn, Dwyieithrwydd