Barn 75 (Mehefin 2014): Robin Ddu Ynys Chatham, Hendrikje van Andel-Schipper, DNA newydd

Anodd ar y gorau yw cadw pethau i lifo’n wastad mewn bywyd ond mae gan gadwraethwyr bywyd gwyllt sialens arbennig o anodd wrth i’r byd newid o’u cwmpas.  Mewn stori a ailadroddwyd yn ddiweddar ar dudalennau’r New Scientist dadlennwyd pa mor bwysig yw iddynt gofio’r gair “naturiol” yn Namcaniaeth Darwin. Dechreuodd yr hanes arbennig hwn yn ôl yn 1976 pan aeth Gwasanaeth Bywyd Gwyllt Seland Newydd ati i geisio achub Robin Ddu Ynys Chatham. Yn dilyn gweithgaredd dyn, erbyn dechrau’r ganrif ddiwethaf, credid bod yr aderyn hwn wedi diflannu o’r ynysoedd, a’r byd, tua diwedd yr 1880au. Yna, er syndod, yn 1938 darganfuwyd ryw 30 ohonynt ar ynys greigiog o’r enw y Mangere fach, 500 milltir o’r tir mawr. Y robin hwn oedd un o adar prinnaf y byd ac yn dipyn o eicon cadwraethol. Ond erbyn y 70au roedd cynefin y Mangere fach yn newid a’r aderyn unwaith eto mewn perygl. Saith yn unig oedd yn weddill – gyda dim ond dwy iâr. Mewn ymgyrch tebyg i ddringo creigiau’r Guns of Navarone achubwyd y rhain a’u symud i ynys Mangere a oedd ychydig yn fwy a’i chynefin mewn gwell cyflwr.  Ar y dechrau roedd popeth yn edrych yn dda a dosbarthwyd rhai o’r 100 aderyn oedd yno erbyn 1990 i ynys arall, Rangatira.  Erbyn 1998, a’r boblogaeth bellach yn 200, daeth y prosiect cadwraeth i ben.  Gan fod Rangatira yn gymharol hawdd ei chyrraedd, dechreuodd Melanie Massaro, ecolegydd sydd bellach yn gweithio yn Awstralia, ymweld â’r lle i astudio’r robinod du. Gwelodd ar unwaith bod arwyddion mewnfridio gyda nifer o’r cywion wedi’u camffurfio. Ond y ffenomen fwyaf annisgwyl oedd gweld nifer sylweddol o’r adar yn dodwy a gadael wyau ar ymyl y nyth, lle nad oeddynt yn debygol o ddeor.  Gofynnodd i’r cadwraethwyr cynharaf am hyn a chlywodd eu bod hwythau, hefyd, wedi sylwi ar yr arfer a welwyd am y tro cyntaf yn 1984. Ond gan fod pob ŵy yn bwysig iddynt, roeddynt wedi gwthio pob ŵy felly i waelod y nyth.    Erbyn 1990 roedd dros hanner yr ieir yn dodwy o leiaf un ŵy ym mhob nythaid felly. Heb y gwthiad achubol ‘roeddynt yn marw. Gydag amser byddai hyn wedi arwain at ddiwedd y rhywogaeth.

Yn y cylchgrawn PloS One  llynedd adroddodd Massaro sut yr aethpwyd ati i ddarganfod tarddiad y mwtaniad ymddygiad yma. Gyda chymorth mathemategydd a genetegydd, llwyddwyd i ddarganfod tarddiad y gennyn trechol (dominant) yn y ceiliog o’r unig bar bridio a oedd ar ôl erbyn 1979.  Roedd ymddygiad y cadwraethwyr i achub yr wyau wedi sicrhau bod y gennyn marwol wedi goroesi a lledaenu’n helaeth drwy’r boblogaeth. Enghraifft glasurol o ddethol annaturiol sydd hefyd wedi’i ddisgrifio yn llyfr mawr Darwin.  Cael a chael fu hi i ddod â’r arfer hon i ben. Petai un copi o’r gennyn trechol wedi cyrraedd pob iâr yn y boblogaeth byddai wedi bod yn amhosib cael gwared arno.  Bellach dim ond 9% o’r ieir sy’n dodwy wyau ar ymyl y nyth ac mae gobaith y bydd dethol naturiol yn arwain unwaith eto at boblogaeth o adar iach.

Hanes nifer bach o oroeswyr eraill, oddi mewn i gorff creadur y tro hwn, oedd testun erthygl yn Genome Research ddechrau Mai.  Yn 2005 bu farw Hendrikje van Andel-Schipper yn 115 oed.  Yn yr Iseldiroedd yr oedd yn byw a hi oedd un o wragedd hynaf y byd. Tan y diwedd roedd ei meddwl a’i chylchrediad yn holliach. Gadawodd ei chorff i’w astudio.  Oherwydd hynny bu modd i Henne Holstege a’i thîm o Amsterdam ddarganfod gryn dipyn am sut mae meinweoedd y corff yn newid gydag oed. Bu cryn sôn dros y blynyddoedd diwethaf am fôn gelloedd. O’r rhain mae holl gelloedd y corff yn tarddu.  Er enghraifft, mae gennym, ar ein genedigaeth, ryw 20,000 o fôn gelloedd gwaed, gyda thua 1000 yn eplesu a chreu celloedd ar unrhyw adeg.  Pan fu farw, roedd dau draean celloedd gwaed van Andel-Schipper yn tarddu o ddwy fôn gell yn unig.  Ar y llaw arall ‘roedd y ddwy yma yn rhydd o mwtaniadau niweidiol.  Rhywsut roedd ei chorff wedi llwyddo i gynnal rhagflaenyddion y celloedd arbennig hyn. Efallai mai dyma ran o gyfrinach hirhoedledd y wraig. Un awgrym yw y byddai cymryd stôr o waed ifanc a’i chwistrellu yn ôl flynyddoedd yn ddiweddarach yn ailfywiocáu’n gwaed.  Dadl eraill, ysywaeth, yw efallai bod y ddwy gell weithredol yn drechol mewn ryw fodd ac yn diffodd y gweddill. Byddent yn dal i wneud hynny hyd yn oed pe cyflwynid gwaed ifanc.

Celloedd o fath hollol newydd a gyhoeddwyd yn Nature ganol mis Mai.  Bedair blynedd yn ôl i’r un mis cyhoeddodd Craig Venter, biocemegydd lliwgar a chyfoethog o’r Unol Daleithiau, ei fod wedi creu’r gell artiffisial gyntaf.  Er mai copi agos o gell bacteriwm a oedd eisoes yn bodoli oedd gan Venter, teg oedd ei honiad mai hon oedd y gell gyntaf heb riant byw ers dechrau bywyd.  Er hynny copi ydoedd.  Yr hyn sy’n hynod am waith newydd tîm o Athrofa Ymchwil Scripps yw bod celloedd eu bacteriwm E. coli nhw yn cynnwys math newydd o DNA – lleoliad yr holl wybodaeth sy’n pennu strwythur celloedd.  Mae DNA holl bethau byw’r ddaear wedi’i wneud o bedwar bas – G,C,T,A.  Rhain yw llythrennau “iaith” y genynnau. Mae tri ohonynt yn cyfuno i greu pob “gair” (GGC, GTA, AAA ac ati, 64 i gyd).  Cyfieithir y geiriau yma yn ddilyniant o asidau amino a elwir yn broteinau.  I bob pwrpas, yr un côd genetig a ddefnyddir gan holl fywyd y ddaear. Bellach,  mae biolegwyr moleciwlar y Scripps wedi creu celloedd byw sy’n defnyddio dwy lythyren ychwanegol – X a Y. Nid yn unig roedd yn rhaid creu DNA a oedd yn cynnwys y basau hyn, ond bu rhaid adeiladu o’r newydd yr holl gyfundrefn i gyfieithu’r geiriau newydd sbon fel bod modd eu cynnwys. Cod geneteg newydd sbon, nas gwelwyd erioed o’r blaen, yn cynnwys 216 o “eiriau” tair llythyren.  Cam arall i’r cyfeiriad o greu ffurfiau o ficrobau hollol artiffisial a allai fod o gymorth i brosesau meddygol a diwydiannol.  Mae cryn bellter i fynd cyn defnyddio’r fath hon o dechnoleg ond efallai y bydd yn rhan o’r sialens o gadw yr hyn sydd gennym mewn byd sy’n brysur newid, fel yn achos y robin ddu a’r hen wraig iach.


Pynciau: Robin Ddu Ynys Chatham, Hendrikje van Andel-Schipper, DNA newydd