Barn 74 (Mai 2014): Glo Tsieina, DNA Wynebau, Tonnau disgyrchiant

Ddechrau mis Ebrill fe dreuliais benwythnos yn un o’m hoff lecynnau – Neuadd Gregynog, ym mherfeddion Trefaldwyn. Cynhadledd flynyddol Gymdeithas Astudiaethau Enwau Prydain ac Iwerddon oedd yr achlysur, a minnau yno yng nghysgod Megan y wraig, sydd â diddordeb arbennig yn y pethau hyn. Ar y noson gyntaf roedd yr Athro Emeritws Prys Morgan yn olrhain hanes perchnogion  y safle dros y canrifoedd.  Y rhai olaf ar y rhestr oedd David Davies, Llandinam a’i  ddisgynyddion.  Wrth godi a symud glo yr enillodd Davies yr Ocean ei gyfoeth enfawr. Bellach mae prif ffynhonnell y cyfoeth hwnnw wedi gadael tir Cymru a symud i Tsieina. Yn ei hanterth yn y flwyddyn 1913 tynnwyd 57 miliwn tunnell ohono o dir Cymru. Yn 2013, can mlynedd yn union wedi hynny, cynhyrchodd Tsieina  3.6 biliwn tunnell o’r mwyn du. Heddiw mae’r wlad honno yn llosgi mwy ohono na holl wledydd eraill y byd gyda’i gilydd ac, o’r herwydd,  yn arwain ymgyrch llygru’r awyr.  Yn ôl John Dodson a’i dîm, mewn erthygl ddiweddar yn y cylchgrawn The Holocene, trigolion Tsieina oedd y cyntaf yn y byd i ddechrau ar y daith “lygredig” hon. A hynny dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl.  Wrth gloddio olion cynnar y diwydiant efydd ym Mongolia a Shaanxi daethant o hyd i ddarnau o lo yn hytrach na’r golosg disgwyliedig yn gymysg â’r slag. Yn eironig, er ei fod wedi’i wneud o garbon, nid oedd modd dyddio’r gwaith trwy‘r dechneg radio-garbon adnabyddus.  Dyddiad creu’r glo filiynau o flynyddoedd ynghynt fuasai’r nodwedd honno.  Yn lle hynny dadansoddwyd carbon olion hadau planhigion ymysg y talpau. Dyddia’r rhan fwyaf o tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, ond daw’r hynaf – o safle tŷ yn Xiahe yn Shaanxi – o tua 3490 cyn Crist. Ar ôl edrych ar archaeoleg y tirwedd cyfagos, damcaniaeth Dodson yw y bu i drigolion yr ardal gorffen clirio holl fforestydd yr ardal yn y cyfnod hwn. Heb olosg bu rhaid troi at lo ar gyfer y diwydiant metel. Roedd y gofaint efydd cynnar hyn yn ffodus. Yn yr ardal yma mae digonedd o lo brig – ac nid oedd angen iddynt gloddio amdano.

Go brin y byddai archeolegwyr wedi disgwyl canfod pryd a gwedd y diwydianwyr cynnar hyn, heb ddarganfod penglogau cyfain. Ond mae papur diweddar yn PLoS Genetics gan Peter Claes o Brifysgol Leuven  ac eraill yn awgrymu y bydd modd gwneud hyn yn rheolaidd yn y dyfodol.  Unwaith eto, i ddarllenwyr cyson y golofn hon, datblygiad ym myd DNA sydd wrth wraidd eu papur. Yn 2012 darganfu tîm o Brifysgol Rotterdam bum gennyn a oedd yn dylanwadu ar ffurf wyneb mewn modd dealladwy, megis perthynas y llygaid â blaen y trwyn. Dyma oedd y dechrau. Yn awr mae tîm Leuven wedi tynnu lluniau tri dimensiwn o wynebau 600 gwirfoddolwr sydd ag achau cymysg o Ewrop ac Affrica. Cofnodwyd yn fanwl safle dros 7000 o leoliadau ar eu hwynebau.  Yna aethpwyd ati i gymharu’r patrymau ag amrywiadau 76 o enynnau a oedd eisoes wedi’u cysylltu â phryd a gwedd gan fod mwtanau ynddynt yn arwain at gamffurfiadau amlwg.  Y canlyniad oedd darganfod 24 amrywiad mewn 20 gennyn gwahanol. Nid yw hyn yn ddigon da eto i ddisodli’r “Ffotoffit” cyfarwydd – ond mae un o’r tîm, sy’n dod o Bennsylvania, yn cydweithio â heddlu’r dalaith honno wrth geisio datrys o leiaf un achos o drais. Y datblygiad nesaf fydd ychwanegu llawer mwy o fesuriadau o boblogaeth fwy ac ehangach o unigolion. Cred Claes y bydd digon o wybodaeth i ail greu wyneb o ddadansoddiad DNA yn unig mewn ryw ddeng mlynedd.  Yn ogystal â bod yn gymorth fforensig, y mae hyn yn agor pob math o bosibiliadau i haneswyr ac archeolegwyr. Ar hyn o bryd, mae ein syniadau am bryd a gwedd ein perthynas agos, dyn y Neanderthal, yn lled fympwyol.  Mae gennym nifer o benglogau cyfain, ond beth oedd hyd eu trwynau neu led eu clustiau, er enghraifft ?  Nid oes gennym lawer mwy na dau ddant ac esgyrn bys o’n perthynas diweddaraf i’w darganfod – y Denisofiaid. Eto mae gennym gryn dipyn o’i DNA. Rhywfaint ohono wedi goroesi yn DNA Homo sapiens heddiw, lle y bydd modd ei gynnwys yn y gymhariaeth wyneb â gennyn. Pwy a ŵyr pa mor bell yn ôl y bydd modd mynd wrth i’r dechnoleg aeddfedu ?

Ond nid o DNA y daeth darganfyddiad mwyaf cynhyrfus y mis, ond o ddechrau amser. Ni chafodd darganfyddiad olion tonnau disgyrchiant yr un sylw yn y wasg â’r gronyn Higgs. Diolch, efallai, i anallu’r cyfryngwn i fathu term megis “Gronyn Duw” amdanynt – neu’r ffaith bod ofn y byddai Rwsia yn ymosod ar yr Wcráin yr un wythnos.  Ond os cadarnheir y darganfyddiad bydd yn llawn mor bwysig ag un CERN. Bu rhaid i gosmolegwyr BICEP2 weithio ym mhegwn y De i wneud eu gwaith. Daw’r neges o’r ffracsiwn lleiaf (10-30) o eiliad ar ôl y Glec Fawr, pan oedd yr egni 10 triliwn gwaith yr hyn y medrid ei gyrraedd yn y Gwrthdrawydd Hadron Fawr.  Fel yr Higgs, daroganodd Albert Einstein y tonnau hyn yn ei waith ar berthynoledd gyffredinol, ond ofer fu pob ymgais i’w canfod tan yn awr.  Yn ogystal â chryfhau’n dealltwriaeth o’r broses o ymchwydd sy’n nodweddu modelau diweddaraf y Glec Fawr, mae hyn yn dod ag un o Realau Sanctaidd (os oes modd cael mwy nag un Greal) cosmoleg yn nes – sef cyfuno disgyrchiant cwantwm â model unedig y tri grym sylfaenol arall. Mae hefyd yn gam arall ar y llwybr i ddarganfod bodolaeth yr Amlfydysawd – a sylweddoli mai dim ond un o nifer di-rifedi o Fydysodau yw ein hun ni. Mae ein technoleg wedi symud ymhell yn y 5000 o flynyddoedd ers llosgi glo yn y wlad a ystyriwyd gan ei phoblogaeth i fod yn ganol i bob dim.


Pynciau: Glo Tsieina, DNA Wynebau, Tonnau disgyrchiant.