Barn 73 (Ebrill 2014): Teis, Firws, Broga

Rai blynyddoedd yn ôl fe geisiodd y mab fy nysgu sut i glymu tei yn ôl ffasiwn Windsor. Rhywbeth mae’n amlwg bod Ysgol Feddygol Caerdydd yn rhagori ar Brifysgol Caergrawnt o ran ei ddysgu.  Yn ôl Wikipedia, Brenin Sior y 5ed o Loegr a’i ddyfeisiodd gan ei fod yn hoff o wisgo clymau llydan.  Fe fyddai wedi dotio, mae’n debyg, ar deis Mary Tinker fy ieuenctid.  Yn y cylchgrawn Nature yn 1999, cyhoeddodd  Thomas Fink a Yong Mao o Brifysgol Caergrawnt iaith fathemategol i ddisgrifio y ffyrdd posibl o glymu tei.  Eu canlyniad oedd  mai 85 gwahanol ffordd oedd yn bosibl – gan gynnwys y Windsor a’r “pedwar mewn llaw” cyffredin – cyn y byddai’r cyfanwaith yn rhy fyr i’w ystyried yn dei.  Yn y cyfamser, fe sylwodd y mathemategydd Mikael Vejdemo-Johansson o Athrofa Technoleg y Brenin yn Stockholm bod un o gymeriadau y ffilm poblogaidd The Matrix Reloaded yn brolio cwlwm nad oedd wedi’i gynnwys yn rhestr Fink a Mao. Wrth chwilio am yr esboniad fe lwyddodd i symleiddio ychydig ar yr iaith fathemategol. Hefyd, trwy lacio ychydig ar yr hyn a ystyrir yn “ddigon hir” fe greodd ddim llai na 177,147 gwahanol gynllun – gan gynnwys y Merovingian a oedd wedi denu ei sylw. Mae’n debyg fod angen tei ryw 4 cm yn hwy na’r cyffredin i fod yn ymarferol – ond wedyn mae creadigaethau megis yr Eldredge a’r Trinity yn eich disgwyl.  Mae sawl gwefan, gan gynnwys tieknots.johanssons.org sy’n cynnig cynllun gwahanol  bob tro y mewn-nodwch, yno i’ch cyfarwyddo.  Rhywbeth i ddilynwyr trydar Gareth Ff. Roberts, efallai, neu’r Arglwydd Elis Thomas (a oedd yn hoff iawn o’i deis lliwgar mawr ar un adeg)  ymarfer yn ystod ei gyfnod wleidyddol nesaf ?

Tyfu’n sylweddol mae pethau ym myd y firysiau hefyd. Pethau bach iawn, iawn ydynt fel arfer – llawer llai na bacteria.   Yn wir, fe’u darganfuwyd ar ddiwedd y 19 ganrif fel gwrthrychau heintus a oedd yn pasio drwy‘r hidlenni meinaf a oedd ar gael. Adnabuwyd firws clwy’r traed a’r genau fel un enghraifft ohonynt yn 1898 ond bu rhaid aros am ddyfeisio’r microsgop electron yn 1931 cyn ei weld am y tro cyntaf.   Ond ychydig yn ôl yn y golofn hon, fe soniais am ddarganfyddiad annisgwyl  y  Mimivirus; firws maint bacteriwm. Fe’i bedyddiwyd yn “mimic microb” oherwydd ei faint.  Mae yn ymosod ar yr anifail ungell, yr Amoeba, a bu cryn drafod ei arwyddocâd i ddosbarthiad ffurfiau bywyd.  Yn 2011 gwelwyd y Megavirus mwy ac yna yn 2013 y Pandoravirus mwy fyth. Yn cyd-fynd â Gŵyl Ddewi eleni, yn y cylchgrawn PNAS, cyhoeddwyd darganfod y firws mwyaf eto – y Pithovirus. Ond y tro hwn, nid ei faint a dynnodd sylw cyfryngau’r byd – ond y lle, a’r modd y canfuwyd ef.  Tîm Jean Michel Claverie o Brifysgol Aix-Marseille a ddaeth o hyd iddo yn rhewdir (permafrost) gogledd Siberia. Bu yno’n cysgu am o leiaf 30,000 o flynyddoedd cyn ei atgyfodi drwy fwydo Amoebae iddo.  Yr un mor rhyfeddol, yn ddiweddar tynnwyd planhigyn o’r un oed yn fyw o’r un haenau o rewdir gan wyddonwraig o Athrofa Pushchino.  Bellach mae Claverie yn chwilio am firysiau i’w hatgyfodi o briddoedd sydd wedi’u rhewi ers 3 miliwn o flynyddoedd.  Gan gofio ffilmiau megis  Creature from the Black Lagoon neu O’r Ddaear Hen, mae hyn yn rhybudd i’r rhai sy’n chwilio am olew yn y tiroedd newydd hyn i fod yn wyliadwrus rhag heintiau newydd. Er hynny, y gred gyffredinol yw nad yw’n debygol y bydd pathogenau ddoe’n fwy peryglus na’r amrywiaeth sydd gennym heddiw.

Soniwyd am greadur arall erchyll o’r gorffennol yn Frontiers in Zoology ym mis Chwefror.  Y tro hwn broga bach sy’n byw yng ngorllewin Affrica.  Nodwedd arbennig Odontobatrachus natator, sy’n gyfrifol am yr enw arno, yw ei bar o gil-ddannedd miniog fampirog. Er nad oes neb wedi ei weld yn gwneud hynny, mae’r Kermit bach hwn yn bwyta brogaod eraill. Daw’r dystiolaeth o astudio cynnwys eu boliau.  Roedd Michael Barej a’i gydweithwyr o Athrofa Leibniz ar Fioamrywiaeth ym Merlin yn defnyddio’r dechneg o “far-codio” DNA i’w osod yn ei safle deuluol. O bryd i’w gilydd mae’r dechneg hon yn amlygu rhywogaethau newydd – a cheir hwyl wrth eu henwi – neu eu hailenwi. Er enghraifft, Petropedetes natator oedd enw gwreiddiol (ers 1905) yr anifail hwn;  “natator” yn dynodi’r rhywogaeth, a “Petropedetes” y genws – y dosbarthiad uwch. Er syndod, o’i ddadansoddi nid oedd yr anifail y perthyn i weddill y Petropedetes. Yn wir, nid oedd yr un  aelod arall o’r genws yn hysbys – genws newydd felly. Rhywbeth lled anghyffredin. Ond ‘roedd mwy i ddod. Roedd dadansoddiad y DNA yn dangos i gyndadau’r broga yma ymrannu o holl frogaod hysbys gweddill y byd 100 miliwn o flynyddoedd yn ôl – ymhell cyn i’r dinosoriaid ddiflannu, “cwta” 66 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Nid yn unig mae’n genws unigryw – ond hefyd yn deulu unigryw. Mae darganfod teulu newydd o anifeiliaid yn anghyffredin iawn. Mewn cymhariaeth,  mae holl gathod y byd yn aelodau o Deulu’r Felidae.  Hwn yw’r teulu cyntaf cynhenid o anifeiliaid asgwrn cefn i’w canfod yng Ngorllewin Affrica.    Enghraifft dda, felly, o’r bioamrywiaeth y mae cymaint o sôn amdani y dyddiau hyn.  Mae ardal Uwch Gini, o’r lle y daw’r broga bach danheddog, eisoes yn enwog am hyn.  Rhan arall o’r patrwm clymog sy’n uno  holl matrics byw’r ddaear.


Pynciau: Teis, Firws, Broga