Barn 72 (Mawrth 2014)

Jest pam yr oeddech yn meddwl ei bod yn ddiogel mentro i’r coed, mae erthygl yn y Journal of Experimental Biology diweddaraf yn codi bwganod eto. Nadroedd gwenwynig yn hedfan !  Wel, rhag ofn imi leihau eich awydd am ymarfer corff, gadewch imi eich sicrhau mai yn Ne Ddwyrain Asia y mae’r nadroedd arbennig hyn yn byw.   Yno y mae pum rhywogaeth, o genws y Chrysopelea, sydd wedi esblygu i gleidio drwy’r coed er mwyn hwyluso symud yn gyflym ac yn ddiogel o le i le. Maent yn fedrus iawn wrth ddringo, ac ar ôl cyrraedd brig coeden neu lwyn y maent yn lansio’u hunain i’r cyfeiriad y bwriadant fynd. Fe fedrent gyrraedd hyd at gan medr wrth wneud hyn, camp sy’n rhagori ar anifeiliaid gleidio eraill megis wiwerod hedegog. Yn ei ymchwil creodd Jake Socha o Virginia Tech fodelau o’r nadroedd a’u gosod mewn tanc dŵr rhedegog.  Trwy wneud hyn roedd modd dadansoddi sut mae’r awyr yn llifo o amgylch corff y sarff fyw a’i galluogi i efelychu Icarws. Mae trawsdoriad y corff yn ymdebygu i Soseri Hedegog ffilmiau’r 50au. Er mawr syndod i Socha mae hyn yn rhagori ar aerffoil mwy confensiynol – megis yr hyn a geir mewn adain awyren. Rhan o gamp y sarff yw ei bod yn medru symud a newid ei ffurf yn ystod y daith. Yn ogystal â bod o ddiddordeb mawr i Herpatolegwyr, mae hyn wedi tynnu sylw’r rhai hynny sy’n ymddiddori mewn Biomimeteg, sef yr wyddor o geisio creu dyfeisiadau wedi’u hysbrydoli gan fioleg. Mae paent lotws sy’n gwrthsefyll graffiti yn enghraifft o hyn a rhai blynyddoedd yn ôl clywais am awyren oedd â’i chroen wedi’i addasu i ymddwyn fel un siarc. Roedd yn sylweddol mwy effeithiol nag awyren gonfensiynol. Y tro hwn, nid yw’n debygol y gwelwn awyrennau ar ffurf y sarff hedfan – nid yw’r egwyddor yn gweithio wrth ei defnyddio gyda gwrthrychau mwy o faint – na gwrthrychau sy’n symud yn gynt na gleid bwyllog y neidr.  Ond er hynny, mae cynllunwyr robotau bach eisoes yn ystyried a fyddai modd defnyddio’r egwyddor i’w galluogi i hedfan o fan i fan. Jest pam yr oeddech yn meddwl ei bod yn ddiogel mentro ……

Un defnydd o robotiaid hedegog, efallai, fyddai fel gweision ffermydd mewn fferm sy’n agor yn Scranton, Pennsylvania y mis hwn. (Tref nid anghyfarwydd i’r rhai hynny sydd â diddordeb yng Nghymry America.) Yr hyn sy’n arbennig am y fferm hon yw ei bod ar egwyddor fertigol. Hon fydd y fwyaf o’i bath yn y byd. Er mai un llawr fydd iddi, bydd y cnydau’n tyfu mewn chwech o raciau ar ben ei gilydd. Dwy filiwn ar bymtheg o blanhigion mewn adeilad 3.25 hectar. Tan yn ddiweddar breuddwydion awduron ffilmiau Sci Fi oedd pethau tebyg;  rhywbeth i’w ddychmygu ar y Lleuad neu’r blaned Mawrth.  Ond gyda phoblogaeth y byd yn cynyddu, a’r Cenhedloedd Unedig yn amcan y bydd  86% o boblogaeth y byd datblygedig trachwantus yn byw mewn dinasoedd erbyn 2050, mae technolegwyr ac amgylcheddwyr yn dod i’r casgliad y bydd yn rhaid darparu’n bwyd yn agosach o lawer at y mannau lle bydd ei angen. Bydd y newid hinsawdd, sydd wedi bod braidd yn amlwg yn ddiweddar, hefyd yn gyrru amaethyddiaeth i lecynnau lle y gellir rheoli’r amgylchedd. Er mai gormodedd o ddŵr yw problem amaethwyr Gwlad yr Haf ar hyn o bryd, diffyg dŵr sy’n fwy arferol. Bydd fferm Scranton yn defnyddio 98% yn llai o ddŵr nag arfer.  Wrth gwrs, mae’n rhaid wrth oleuni i dyfu cnydau. (Rhywbeth sydd ddim yn hollol amlwg i reolwyr y Stadiwm Cenedlaethol, efallai)  Heddiw, mewn fferm fertigol arbrofol arall yn Singapôr defnyddir golau’r haul wrth i raciau symudol droi’n araf a galluogi pob letysen a bresychen i gael ei “moment yn yr haul”.  Ond mae cost lampau LED yn gostwng yn sydyn a’u heffeithiolrwydd yn cynyddu. Heddiw mae effeithiolrwydd 28% y rhain yn eu gwneud yn amhroffidiol i neb ond garddwyr canabis; ond mae cwmni lampau Philips eisoes wedi arddangos lampau LED sy’n trosglwyddo 68% o’u hegni yn oleuni defnyddiol.

Yn ogystal â diddordebau “gwyrdd” y mae ysgogiadau eraill yn dod o gyfeiriadau pur wahanol. Wrth gwrs, gwelir y caeau “caeedig” hyn yn fodd o dyfu cnydau GM heb darfu ar yr amgylchedd. Ond hefyd mae’r tir gwaharddedig o gwmpas adweithyddion Fukushima Daiichi yn cynnig lleoliad i ffermydd fertigol.  Yn Scranton, gyda’i golau LED, ni fydd terfynau tymhorau a disgwylir 14 cynhaeaf y flwyddyn o letys, yn ogystal â phigoglys, cêl, tomatos, pupur, basil a mefus. Heddiw mae cwmni Nuvege (darllenwch hwn fel Saesneg) yn Kyoto, eisoes yn cynhyrchu 6 miliwn letysen y flwyddyn ar gyfer Subway a Disneyland Tokyo heb ddefnyddio’r haul.   O hyn allan bydd bwyd lleol, yn hollol “leol” i drigolion ein dinasoedd – a ni, pobl y wlad, yn ei brynu o bell ?

Rhan o’r apêl yw sicrhau bod ein bwyd yn cynnwys y maethynnau angenrheidiol i ni’r cwsmer. Mewn papur diweddar yn Science Translational Medicine mae Martin Bergö o Brifysgol Gothenburg yn codi  cwestiwn ynglŷn â beth yn union yw’r rhai hynny. Dros y degawdau diwethaf mae’r cylchgronau a rhaglenni bwyd wedi canmol rhinweddau pob math o “wrth-ocsidyddion” (antioxidants).  Yn wir, rai blynyddoedd yn ôl cafwyd chwyldro yn amaethyddiaeth Chile pan gyhoeddwyd bod eu gwinoedd yn cynnwys lefelau uchel o resveratrol – gwrth-ocsidydd y mae ambell un yn honni sydd wrth wraidd hirhoedledd a iechyd da trigolion Môr y Canoldir.  Beth bynnag fo’r gwirionedd am hynny, yn gyffredinol ystyrir y cemegolion hyn yn rhai “da”. Ond dengys ymchwil Bergö fod ochr arall i hyn. Ymchwilydd cancr yw Bergö sy’n mesur sut mae’r corff yn ei amddiffyn ei hun rhag y cyflwr.  Yn aml, bydd hyn yn digwydd drwy ddefnyddio ocsidyddion a elwir yn “radicalau rhydd”.  Wrth fwydo gwrth-ocsidyddion, megis fitamin E, i lygod a oedd yn dioddef o gancr gwelodd fod ffyrnigrwydd y cancr yn treblu wrth i’r sylwedd wanio yr amddiffyn naturiol.  Nid yw Bergö yn awgrymu bod perygl i bobl iach, ond ei rybudd yw y dylai’r rhai hynny sydd â risg uchel o gancr ystyried yn ofalus wrth gymryd y maethynnau “da” yma.    Onid yw bwyd yn gymhleth y dyddiau hyn ? Jest pam yr oeddech yn meddwl ei bod yn ddiogel mentro …….


Pynciau: Nadroedd, Ffermydd Fertigol, Gwrthocsidyddion