Barn 71 (Chwefror 2014)

O’m blaen ar fy nesg mae gennyf un o’r llyfrau “remainder” cyntaf imi ei brynu pan oeddwn yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yng Nghaergrawnt. Cyhoeddwyd ail olygiad y gyfrol Guide to Fossil Man gan Michael Day ym mis Ebrill 1967 – gyda’r argraffiad hardd sydd gennyf yn argraffiad Gorffennaf 1969. Mae’r pris, sydd wedi’i nodi fel 42/- a £2.10p ar y siaced lwch yn brawf o’i oedran. Fe’i prynais yn gynnar yn 1971.  Gallwch synhwyro fy siom wrth i gyfeilles, a oedd yn astudio Archaeoleg ac Anthropoleg ar y pryd, ac yr oeddwn yn awyddus i greu argraff arni, wfftio’r llyfr gyda’r sylw ei fod ymhell ar ôl yr oes. Wedi’r cyfan, i mi, Biocemeg oedd y pwnc oedd yn newid o wythnos i wythnos. Erbyn heddiw mae’r chwyldro biomoleciwlar, a oedd wedi cychwyn lai na ddwy ddegawd ynghynt yn yr un brifysgol, wedi troi’n tsunami sydd yn diwygio biocemeg, anthropoleg a phopeth sy’n ymwneud â bywyd materol. Does dim yn datgelu hyn yn gliriach na’r canlyniadau diweddaraf o ddilyniant DNA’r Denisofiaid a gwŷr a gwragedd y Neanderthal. Wedi’r cyfan dim ond yn 2010 yr adnabuwyd y Denisofisid o sgrapiau o ddannedd ffosil mewn ogof yn Siberia – a hynny, nid o ffurf y dannedd ond o ddadansoddiad y  DNA a oedd wedi goroesi ynddynt.

Bellach mewn cynhadledd yn y Gymdeithas Frenhinol cyn y Nadolig, datgelodd David Reich o Harvard fanylion rhyfeddol am ein cyndadau o ddilyniant bron yn gyfan DNA dwy rywogaeth dyn ffosil.  Tua 40,000 blwydd oed yw’r esgyrn hyn. Ond megis golygiad diweddar o lyfr, mae’r DNA yn cynnwys defnydd sydd wedi’i gopïo o”olygiadau” llawer hŷn. Oherwydd natur gyson y golygiadau mae modd dyddio’r rhain ac, yn yr achlysur hwn, mae modd darllen am amgylchiadau cynharach o lawer. I ddechrau dengys olion mewnfridio’r ddwy rywogaeth mai ychydig iawn iawn oedd ohonynt yn bodoli – a’u bod yn byw mewn llwythau bychain. Ym mhob un ohonom mae dau gopi o bob gennyn (ac, felly, dau o bob cromosom) – rydym yn greaduriaid diploid. Daw un o’r fam a’r llall o’r tad. Ynom ni ychydig iawn o’r parau hyn sy’n cynnwys dau enyn sy’n union yr un fath – mae digon o gymysgu wedi bod. Mewn un asgwrn troed Neanderthal roedd 12% o’r genynau felly – arwydd bod rhieni’r unigolion yn hanner brawd a chwaer i’w gilydd. Yn fathemategol, mae modd olrhain y disgrifiad hwn yn ôl ryw 1.2 miliwn o flynyddoedd pan nad oedd nemor fwy na 18,500 o’n cyndeidiau yn bodoli dros randir eang (o’r Affrig mae’n debyg). Mae hyn yn sylweddol llai na phoblogaeth Bangor heddiw. Yr ail gyhoeddiad oedd bod darnau o ddilyniant y Denisofiaid yn dangos eu bod wedi rhyngfridio a rhywogaethau eraill. Fe wyddem eisioes bod ein rhywogaeth ni, Homo sapiens, wedi rhyngfridio a’r Denisofiaid a’r Neanderthal. (Soniais eisioes am hyn yn Barn.) Nawr mae’n ymddangos bod y Denisofiaid wedi rhyngfridio a dynion cynharach. Mae gennym beth o ddilyniant eu DNA – ond dim syniad pwy oeddynt. Efallai mai rhywogaeth sydd eto i ymddangos o’r cofnod ffosil ydynt – neu, yn debycach, am y tro cyntaf gwelwn olion “byw” Homo heidelbergensis –  a oedd yn byw rhwng 600,000 a 250,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond mae mwy i ddod. Ym mis Rhagfyr cyhoeddwyd rhan o ddilyniant DNA dynion a oedd yn byw yn Sbaen 400,000 o flynyddoedd yn ôl. Disgrifiodd David Reich, nad oedd yn ymwneud â’r gwaith, y datblygiad hwn fel “breuddwyd”. Yn ogystal â bod yn ffynhonnell newydd o wybodaeth, mae’n profi bod gobaith darllen DNA ffosil o rannau cynnes y byd – fel cyfandir yr Affrig, lle gorwedd olion ein cyndadau dynol cynharaf. Yn ôl rhifyn Nadolig y New Scientist, un o nodau mawr gwyddonol 2014 fydd dadansoddi dilyniant DNA miliwn blwydd oed.

Ar un olwg, felly, mae olion y corff yn para o oes i oes. Ond am ba hyd y pery’r cof? Yn Nature Neuroscience yr un mis, cyhoeddodd Brian Dias o Atlanta bod llygod, o leiaf, yn etifeddu atgofion eu teidiau. Fel sy’n arferol gydag ymchwil o’r fath, nid yw’r arbrofion mor rhamantus â’u canlyniadau ! Mewn labordy, hyfforddwyd llygod gwryw i gysylltu arogl blodau eirin â sioc drydanol. Yn naturiol ymarweddiad nerfus oedd i’r llygod bob tro y synhwyrent y blodau. Y syndod oedd bod meibion, a hyd yn oed ŵyrion, y llygod yn ymddwyn yn yr un modd – er nad oeddent wedi’u hyfforddi felly; ac nid oedd modd iddynt “ddysgu’r” ymddygiad o’u tadau.  Dyma’r dystiolaeth gryfaf hyd yma bod modd etifeddu atgofion – a phriodoleddau profiadau eraill – mewn modd a ystyriwyd, tan y ddiweddar, yn amhosibl ac yn Lamarcaidd. Ugain mlynedd sydd ers darganfod egwyddor mecanwaith yr epigeneteg hwn. Yn yr arbrofion diweddaraf, bu modd mesur nodau cemegol ar y DNA sy’n creu’r protein M71 sy’n gyfrifol am synhwyro asetoffenon, arogl blodau’r eirin. Ymddengys y nodau hyn wrth hyfforddi’r llygod – dyma’r “switsh” epigenetig a drosglwyddir o genhedlaeth wrywol i’r nesaf. Mewn rhyw fodd, na wyddom hyd yma, y mae’r ymennydd yn effeithio yn uniongyrchol ar yr had.

Cyn i Ferched y Wawr gŵyno i Barn – mae’r gwaith ar droed i ddod o hyd i’r un broses mewn llygod benyw. Maent hwy, hefyd, yn medru trosglwyddo ofnau asetoffenon i’w merched. Ond hyd yn hyn nid oes sôn am y mecanwaith. Os ydynt yn debyg i ferched teulu’r wraig – nid oes yn rhaid edrych ymhellach nag ESP !

Atgof o fath gwahanol sy’n lladd trigolion Yunnan yn ne Tseina. Yn yr 1980au gwelwyd bod mwg llosgi glo’r ardal yn llawer mwy tebygol o achosi cancr yr ysgyfaint na mwg glo ardaloedd eraill. Yn ddiweddar yn Environmental Science & Technology mae David Large o Brifysgol Nottingham wedi cynnig esboniad. Daw’r glo arbennig hwn o ddiwedd yr oes Bermiaidd tua 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl. (Mae glo Cymru yn dyddio o’r cyfnod Carbonifferaidd cynharach, a ddaeth i ben 280 o filiynau o flynyddoedd yn ôl.) Nodwedd hynod diwedd yr oes Bermiaidd yw tranc 90 y cant o holl rywogaethau’r ddaear, anifeiliaid a phlanhigion – Y Darfod Mawr. Erys union sail y trychineb hwn – yr agosaf y bu i fywyd ddiflannu o’r ddaear – yn anhysbys. Wedi darganfod olion meteor Chicxulub yn 1991, bu sawl helfa ofer am dystiolaeth debyg ar gyfer Y Darfod Mawr. Beth bynnag oedd ei darddiad, yn sicr bu cofnod aruthrol o newid hinsawdd. Llenwyd yr awyrgylch â nwyon asidig o echdoriadau enfawr  – yn toddi’r creigiau, gan adael silica ar ôl. Aeth y silica yma i’r gwaddodion glo a oedd yn ymffurfio. Gwêl David Large eironi’r cyswllt sy’n pontio’r farwolaeth enbyd 250 o filiynau o flynyddoedd yn ôl a’r glo llawn silica sy’n achosi’r farwolaeth fawr ymysg trigolion yr un ardaloedd heddiw. Erys atgofion y Byd o bob math yn ei chreigiau. Rydym wedi’i breintio i fyw mewn oes lle y gellir gwrando ar rai o’r atgofion hynny.