Ynys fechan, ryw 40 milltir ar ei thraws, yw Lombok yn Indonesia. Bu iddi ran nid bychan yn natblygiad meddwl y gwyddonydd enwocaf i’w eni yng Nghymru – Alfred Russel Wallace. Bu sawl cyfeiriad at yr ynys yn ystod dathliadau canmlwyddiant marwolaeth y gŵr hwnnw ddechrau Tachwedd. Yn 1859, flwyddyn ar ôl y cydadrodd enwog o’r Ddamcaniaeth Fawr ar esblygiad yn y Gymdeithas Linews, anfonodd bapur arall yno. Teitl y papur hwn oedd On the Zoological Geography of the Malay Archipelago. Ynddo y mae’r sôn cyntaf am linell sy’n rhannu anifeiliaid Asia oddi wrth rai Awstralia – un o ddarganfyddiadau creiddiol gwyddor Biodaearyddiaeth. Yn ddiweddarach, fe’i bedyddiwyd yn Llinell Fawr Wallace ac fe ddaeth yn rhan o’m bywyd i drwy ymdrechion Mr Ivor Jones yn Nosbarth 1B Ysgol Uwchradd y Bechgyn yng Nghaerdydd. Rhed y llinell rhwng Lombok a Bali, ynys enwocach, 25 milltir i’r gorllewin.
Eleni, er syndod i’r byd daearegol, mae Franck Lavigne o’r Sorbonne ym Mharis wedi dod â’r ynys fechan hon i sylw’r byd am rywbeth a ddigwyddodd yno yn ystod teyrnasiad Llywelyn ein Llyw Olaf. O bosib digwyddodd hyn wrth i filwyr ein tywysog olaf ymrafael yn llwyddiannus â’r Saeson ym mrwydr Cadfan yn 1257. Fodd bynnag, llwyddodd brenin Lombok a’i deulu i ddianc, ond cafodd y digwyddiad ym mhen draw’r byd ddylanwad ar Lywelyn a Chymru hyd yn oed. Rywbryd rhwng Mai a Hydref y flwyddyn honno bu’r ffrwydrad folcanig mwyaf ar y ddaear ers 7000 o flynyddoedd. Cafodd ddylanwad ar hinsawdd y byd am ganrifoedd – y cyfnod o newyn, haint ac anghydfod a enwir Yr Oes Rew Fechan. Y syndod yw mai dim ond eleni y sylweddolwyd hyn, a chyhoeddi hynny fis Medi yn PNAS.
Yn yr 80au dechreuodd ymchwilwyr weld olion echdoriadau folcanig hanesyddol wedi’u cadw yn rhew’r Ynys Las. Canfuwyd olion dramatig Tambora o 1815 a Krakatoa o 1883. Ond o aeaf 1258-59 y daeth un o’r nodweddion amlycaf. Gan nad oedd unrhyw gofnod hanesyddol yn cyd-amseru, cymerwyd ar y cychwyn mai echdoriad bychan cyfagos oedd yn gyfrifol. Dros y ddau ddegawd nesaf sylweddolwyd bod yr un nodwedd ddaearegol i’w gweld dros y byd i gyd – gan gynnwys, yn arwyddocaol, yr Antarctig. Ym Mongolia, yn y flwyddyn honno, rhewodd y coed yn ystod yr haf a bu farw 15,000 o newyn yn Llundain. Roedd hyn yn amlwg wedi bod yn ddigwyddiad sylweddol – yr echdoriad mwyaf ers Oes y Cerrig. Ond ymhle ? Oherwydd bod ei olion yn pontio’r ddau hemisffer, dechreuodd Lavigne a’i dîm edrych amdano yn ardaloedd y trofannau, ac yn Indonesia yn arbennig. Ar ôl sawl ymgais ofer, daeth o hyd i olion Mynydd Samalas ar Lombok. Nid yn unig ‘roedd tystiolaeth gemegol gadarn, ond daeth o hyd i lawysgrif ar femrwn dail palmwydd o’r cyfnod yn adrodd yr hanes. Dengys yr olion i fynydd 13,000 o droedfeddi ddiflannu gan adael twll 2500 troedfedd o ddyfnder lle y bu. Taenwyd dros 40 km ciwbig o lwch hyd at 43 km i’r awyr dros gyfnod o dridiau. Claddwyd gogledd Lombok o dan 100 troedfedd o gerrig a llwch – a gweddill yr ynys hyd at ugain modfedd. Dihangodd y brenin a’u deulu, ond diflannodd ei deyrnas – ynghyd â nifer anghofiedig o’i boblogaeth. Mae’n debyg i holl anifeiliaid a phlanhigion Lombok drengi. Felly pan gyrhaeddodd Wallace yno bum canrif yn ddiweddarach beth a welodd oedd olion mewnlifiad lled ddiweddar o’r dwyrain – ei ffin fiolegol wedi goroesi un o ffrwydradau mawr hanes dyn.
Tybed sawl cath a fu farw ? Tan eleni bu tarddiad Cathod Mawr y byd yn ddirgelwch. O’r Affrig, cyfandir a gysylltir â’r anifeiliaid hardd yma, tua 3.8 miliwn o flynyddoedd yn ôl, y daeth y ffosiliau cynharaf. Ond enghraifft arall o’r wybodaeth newydd sydd i’w chael o’r molyn rhyfeddol hwnnw – DNA – oedd y dystiolaeth foleciwlar yn datgelu tarddiad Asiaidd, 7 miliwn o flynyddoedd yn gynt na hynny. Fis diwethaf yn y Proceedings of the Royal Society B mae Zhijie Jack Tseng o Amgueddfa Hanes Natur Efrog Newydd wedi cyhoeddi darganfod ffosilau cath fawr o lwyfandir uchel Tibet sy’n ryw 5 miliwn blwydd oed. Ymddengys eu bod wedi perthyn yn agos i Lewpard yr Eira, anifail eiconig sy’n dal i fyw yn yr un ardal o’r byd. Trwy gyfuno tystiolaeth y ffosil â’r moleciwl ymddengys bellach bod teulu’r llew a’r teigr yn mynd yn ôl 16.4 miliwn o flynyddoedd – yn sylweddol hŷn na’r 6.4 miliwn blwyddyn blaenorol.
Treuliais ddeuddydd ganol Tachwedd mewn cynhadledd genomig yn Docklands Llundain. Roedd y lleoliad, sef erwau adferedig o brifddinas Lloegr, yn agoriad llygad ond bu clywed darlith ar ôl darlith am rym y defnydd o’r basau data meddygol yn rhyfeddol. Basau data DNA yn bennaf – a’r angen am fathau newydd o fathemateg i ymdrin mewn cyfnod rhesymol o amser â’r holl amrywiadau yng nghromosomau dyn. Am y tro cyntaf clywais ddefnyddio’r uned “Zetta”, sef 1021, mewn darlith. Mwy cyfarwydd yw’r kilo (103), Mega (106) a Giga (109), efallai. Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr holl wybodaeth ar y rhyngrwyd ar fin cyrraedd 16 Zettabyte. Bellach mae biolegwyr moleciwlar yn cystadlu â’r gwyddonwyr tywydd o ran defnyddio cyfrifiaduron mwyaf pwerus y byd. Ond gyda noson Calan Gaeaf dal yn y cof, defnydd basau data eraill mewn erthygl o’r Journal of the Neurological Sciences a dynnodd fy sylw. Syndrom Cotard oedd y pwnc. Mae dioddefwyr y cyflwr hwn yn credu eu bod wedi marw – neu o leiaf fod rhan o’u cyrff wedi gwneud hynny. Er enghraifft, yn 1880, disgrifiodd Jules Cotard, niwrolegydd o Ffrainc, wraig oedd yn ymbil am gael ei hamlosgi – oherwydd ei bod wedi marw. Yn 2009 credai gwraig arall bod ei hymennydd wedi diflannu – ac y byddai’r gweddill ohoni yn toddi yn y dŵr pe bai yn ceisio ymolchi. Erys tarddiad y cyflwr yn ddirgelwch – ond trwy ddefnyddio basau data ysbytai Sweden, mae Anders Helldén a Thomas Lindén o Gothenburg wedi darganfod cysylltiad â’r cyffur Acyclovir (Zovirax) a ddefnyddir yn gyffredin i drin doluriau annwyd. Nid oes unrhyw broblem wrth ei gymryd yn allanol, ond mae 1% o’r rhai sy’n ei gymryd yn fewnol yn profi effeithiau seiciatryddol – gan gynnwys syndrom Cotard. Yn achos y rhai hyn, mae’n debyg mai’r broblem yw gwendid yn yr aren fel na allant gael gwared â sgil-gynnyrch Acyclocir o’r corff. Yn ddamcaniaethol gellid defnyddio’r cynnyrch hwn, CMMG, fel switch i gynnau a diffodd y cyflwr er mwyn ceisio triniaeth. Ni fyddai’n foesol gwneud hyn mewn pobl, ond dadleua Helldén y bydd modd defnyddio modelau anifeiliaid i ddefnyddio’r ffenomen i ddysgu mwy am sut y mae’r ymennydd yn creu’r ymdeimladau o hunaniaeth a bodolaeth. Gobeithio nad oes gan yr un ohonoch broblem â’ch hunaniaeth dros yr Ŵyl … nac yn y Flwyddyn Newydd !
Pynciau: Wallace a Llywelyn, Cathod Mawr, Cotard a Data