Barn 69 (Tachwedd 2013): Ffwrydriad mewn Twll Du, Croesi’r Sahara, Llaw chwith

Memento Mori. “Dechrau ystyried ei feidroldeb” yw’r peth sy’n nodweddu rhywun fy oedran i, meddai erthygl a ddarllenais yr wythnos o’r blaen. Dwn i ddim am hynny, ond yn ddiweddar troes fy meddwl, ac ychydig ddarllen, at anfeidroldeb. Nid fy anfeidroldeb personol fy hun, ond anfeidroldeb bywyd yn y bydysawd yn gyffredinol.  Yn 1998 bu chwyldro llwyr yn ein dirnadaeth o hyn. Yn y flwyddyn honno dangosodd Saul Perlmutter, Brian Schmidt ac Adam Riess ei fod yn debygol na fydd diwedd i oes y Bydysawd ei hun. Enillodd y tri Wobr Nobel am hyn yn 2011.  Beth, felly, yw tynged bywyd ? Yr ateb symlaf yw na fydd diwedd i hwnnw ychwaith.  Am ba hyd y pery disgynyddion bywyd ar y ddaear sy’n gwestiwn sy’n fwy anodd i’w ateb. Gwyddwn na fydd y Ddaear yma’n hir iawn. Ond gyda’r newyddion mis Medi o NASA fod y lloeren Voyager 1, a lansiwyd yn 1977, wedi gadael system yr haul yn swyddogol ar 25ain Awst 2012, medrwn gynllunio’n go iawn am fudo o’r ddaear.  Does dim brys mawr, er fe fydd yr haul wedi troi’n anghyfeillgar i fywyd ymhell cyn ei ffrwydrad terfynol 7.59 mil miliwn o flynyddoedd o heddiw. Neu dyna yr oeddwn yn ei feddwl cyn darllen am bapur a gyflwynwyd gan Joss Bland-Hawthorn a Gregory Madsen i gynhadledd yn Sydney ar ddiwedd Medi.

Gcle (Bach)

Cychwynodd eu stori gyda darganfod, yn 2010 ,ddwy swigen enfawr yn ymestyn o bobtu ein galaeth – y Llwybr Llaethog.  Eleni datguddiwyd mai olion ydynt o ffrwydriad aruthrol a drawodd y Twll Du anferth sydd yng nghraidd yr alaeth 2 filiwn o flynyddoedd yn ôl. Daw’r echdoriadau yma wrth i’r tyllau duon llyncu ddefnydd o’r gofod o’u hamgylch. Gallant fod gyda’r flachiadau mwyaf llachar a phwerus yn y bydysawd.   Sagitariws A* yw enw’n Twll Du “ni” – ac i’r pellter o 26,000 blwyddyn golau sydd rhyngom  y mae’r diolch am ein goroesiad o’r ffrwydriad.  Pe baem yn sylweddol agosach byddai’r ymbelydredd wedi rhostio ein cyndadau, ac o bosib holl fywyd y Ddaear.  Ar y pryd naill ai Homo habilis neu ei ddisgynydd Homo erectus a fyddai wedi bodoli i brofi’r olygfa – a fyddai wedi ymddangos fel cwmwl golau maint y lleuad llawn yn wybren y De. Pe digwyddai rhywbeth tebyg ac ychydig yn fwy yn y dyfodol, un peth sy’n sicr – nid ein disginyddion ni fyddai’n para i’r oesoedd a ddêl.

Wythnos neu ddwy cyn y newyddion ofnadwy am farwolaeth 350 o ymgeiswyr lloches oddi ar arfordir ynys Lampedwsa ddechrau Hydref cyhoeddwyd rôl arall i Ogledd Affrica yn hanes mudo dyn.  Y tro hwn ei drywydd ar ei daith “allan o’r Affrig” tua 100,000 o flynyddoedd yn ôl oedd y testun. I’r de o’r Sahara mae ein gwreiddiau pell; y rhai a welodd ffrwydriad Sagitariws A*. Rhywsut bu rhaid croesi’r anialwch honno cyn troi am Ewrop ac Asia ryw gwta 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Ers blynyddoedd bu dyfalu am fodolaeth tri dyffryn ddyfriog, yr Irharhar, Sahabi a’r Kufrah sy’n croesi o’r de i’r gogledd. Heddiw fe’i claddwyd gan dywod yr anialdir, ond yn ôl Tom Coulthard a’i gydweithwyr o Brifysgol Hull yng nghylchgrawn PloS ONE mis Medi nid oedd hynny’n wir ar yr adeg dyngedfennol.  Trwy ddefnyddio’r modelau hinsawdd diweddaraf honnant y byddai cyfuniad unigryw o’r monsŵn ar fynyddoedd y de a thywydd mwyn Môr y Canoldir wedi creu llwybr ar hyd dyffryn eang yr Irharhar trwy Algeria heddiw.  Mae olion archaeolegol y Maghreb hefyd yn awgrymu mai yma y cyrhaeddodd dyn Fôr y Canoldir, nepell o Tunis lle cychwynnodd trueiniaid Lampedusa, cyn troi i’r dwyrain a cherdded trwy Libya a’r Aifft i gyfeiriad y Dwyrain Canol.

Wrth edrych ar olion bysedd yng nghrochenwaith archeoleg pell mae modd gweld bod canran y rhai lletchwith – llaw chwith – heb newid ryw lawer dros ddegau o filoedd o flynyddoedd. Tua 10% o boblogaeth y byd sydd felly.  Yng nghylchgrawn PloS Genetics mis Medi, mae William Brandler a’i gydweithwyr wedi dod o hyd i enynnau sy’n rheoli hyn. Dadansoddwyd 100,000 mwtantiad mewn 3300 o wirfoddolwyr a oedd wedi cyflawni tasgau i weld pa mor gryf oedd eu hymlyniad i ddefnyddio y naill law neu’r llall.  Mapiwyd y genynnau cysylltiedig gyda’r rhai sy’n rheoli anghymesuredd y corff yn gyffredinol.  Dadl Brandler yw fod cyswllt rhwng defnydd llaw a defnydd iaith. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn defnyddio ochr chwith ein hymennydd ar gyfer iaith. Hyn sy’n rheoli ochr dde’r corff.  Wrth i bwysigrwydd iaith dyfu wrth i ddyn fodern esblygu, dechreuodd  ochr dde’r corff deyrnasu – a gyda hyn y defnydd o’r llaw dde.

Pan ddown i gyfarfod a bywyd deallus arall wrth inni ddal i fudo o gwmpas y gofod – gobeithio y bydd yr un peth yn wir amdanynt hwy. Neu sut y byddwn yn medru ysgwyd llaw ?


Pynciau: Ffwrydriad mewn Twll Du, Croesi’r Sahara, Llaw chwith