Barn 68 (Hydref 2013)

Yn 1707 cyhoeddodd Edward Llwyd gyfrol gyntaf ei Archaeologia Britannica. Yn y gyfrol, gosododd ei dystiolaeth am gydberthynas yr ieithoedd Brythonig (Cymraeg, Llydaweg a Chernyweg) a’r ieithoedd Goidelig (Gwyddeleg, Gaeleg a’r Fanaweg). Bu’n allweddol yn creu ein syniad modern o’r Celtiaid. Llwyd oedd un o’r cyntaf yn y byd i astudio perthynas ieithoedd mewn modd y buasem yn ei adnabod heddiw. Tua hanner canrif yn ddiweddarach eglurodd Cymro arall, Syr William Jones (mab y William Jones, Llanfihangel Tre’r Beirdd, a gyflwynodd yr arwydd mathemategol π i’r byd) fod cysylltiad rhwng nifer helaeth o ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg, a rhai de Asia. Er nad ef oedd y cyntaf i ganfod y cyswllt, fe boblogeiddiodd y cyswllt rhwng Lladin, Groeg a’r Sanscrit, hen iaith glasurol yr India. Yr enw ar y teulu hwn yw’r ieithoedd Indo-Ewrpoeaidd. Dros y ddwy ganrif ganlynol bu cryn ddadlau am darddiad y teulu hwn ac am ei gysylltiadau teuluol â grwpiau iaith eraill.

Ym 50au’r ganrif ddiwethaf defnyddiwyd technegau Glottochronoleg i geisio atebion. Sail hyn oedd tybio bod ieithoedd yn newid yn gyson dros amser. Nid anodd derbyn yr egwyddor po fwyaf y gwahaniaeth rhwng geiriau cyfatebol dwy iaith hynaf oedd yr hollt rhyngddynt. Y broblem oedd gosod dyddiadau ar gyfer hyn. Dros y blynyddoedd syrthiodd Glottochronoleg allan o ffafr yr academyddion. Yn ddiweddar mae dau Seicolegydd Iaith o Brifysgol Auckland, Russel Gray a Quentin Atkinson, wedi cynnig datblygiad o’r syniad. Ei sylfaen yw’r dechneg y mae biolegwyr moleciwlar yn ei defnyddio i ddyddio’r mwtanau mewn DNA sydd wrth wraidd esblygiad pethau byw. Yn y maes hwn, hefyd, amheuir a yw camrau esblygiad yn gyson. Trwy fwydo’r rhestrau geiriau o nifer fawr o ieithoedd i’r rhaglen heb ragdybio perthynas ac yna amrywio eu cyflymder esblygu roedd modd creu nifer fawr o “deuluoedd” iaith. Yna ar sail y wybodaeth hanesyddol gadarn o ba ieithoedd sy’n perthyn roedd modd dewis y gronoleg oedd yn addas ar gyfer y teuluoedd go iawn. Yn 2003, yn y cylchgrawn  Nature,  mentrodd Gray ac Atkinson osod dyddiad rhwng 8,000 a 9,500 o flynyddoedd yn ôl i darddiad y teulu Indo-Ewropeaidd. Roedd hyn yn cyd-fynd â’r ddamcaniaeth mai ar ffermydd Anatolia ar gychwyn oes ffarmio yr oedd crud ein hieithoedd. Ond ‘roedd damcaniaeth fwy poblogaidd arall – mai gwyr meirch o’r Iwcrân a greodd yr iaith gyn-Indo-Ewropeaidd ryw 3000 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Bu hyn yn destun dadlau brwd. Y llynedd, yn y cylchgrawn Science, trwy ddefnyddio trefn a ddefnyddir i leoli tarddiad clefydau firws, cadarnhawyd mai yn Anatolia ryw 9000 o flynyddoedd yn ôl y tarddodd y 103 o ieithoedd Indo-Ewropeaidd a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth. Yn awr mae Atkinson yn ceisio defnyddio’r un fath o dechnegau ystadegol i ddarganfod y cyswllt rhwng grwpiau iaith gwahanol. Mae’n credu fod ganddo dystiolaeth sy’n dod ag ieithoedd Asiaidd eraill, megis y Siapanieg, ynghyd a’r Inwit a’r ieithoedd Indo-Ewropeaidd at ei gilydd tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.

Tra bo Atkinson yn ceisio gwthio ffiniau hanes yn bellach i’r gorffennol, mae Grey yn ceisio defnyddio’r cloc iaith i ddatgelu meddyliau ein cyndadau. Un gred ar hyn o bryd yw bod angen ofn duwiau moesol ac egwyddorol ar unigolion cyn bod modd iddynt ddatblygu cymdeithasau cymhleth. Heb hyn byddai twyllwyr diegwyddor yn difetha pob ymgais i gydweithredu. Ond, hyd yma, dengys dadansoddiadau ieithyddol cynnar Grey nad oes cyswllt rhwng crefydd a chymhlethdod cymdeithas.

Os mai datblygu amaethyddiaeth yn Anatolia oedd wrth wraidd cynharaf ein hiaith, mae darganfyddiadau archeolegol yn ne-ddwyrain Twrci dros y degawd diwethaf wedi taflu gwybodaeth annisgwyl am berthynas crefydd sefydliadol ac amaethyddiaeth.  Yn 1995 darganfuwyd olion teml anferth yn Göbekli Tepe. Dyma deml hynaf y byd. Ar y pryd cytunwyd y byddai’n rhaid wrth economi amaethyddol sylweddol i gynnal y fath waith soffistigedig. Dros y blynyddoedd ers hynny sylweddolwyd nad oedd tystiolaeth am amaethyddiaeth yn yr ardal ar y pryd ac mai cynnyrch cymdeithas hela a chasglu yw’r adeilad. Tro pedol go iawn.  Ym mis Awst eleni, yn yr archif ar-lein arXiv, mae Giulio Magli o brifysgol Milan yn dadlau ei fod yn gwybod beth oedd testun addoliad Göbekli Tepe. Heddiw, Seren y Ci, Sirius, yw’r seren fwyaf llachar yn y ffurfafen ac mae i’w gweld o ran helaeth o’r byd. Nid oedd hyn bob amser yn wir. Oherwydd newidiadau yng ngogwydd echel y ddaear, ni chododd Sirius uwchben y gorwel ar ledred Göbekli Tepe cyn tua 11,300 o flynyddoedd yn ôl (9300 cc). Edrychodd Magli yn ofalus ar leoliad meini hirion mwya’r deml a’u perthynas â lleoliad y sêr a’r planedau mewn modd nid annhebyg i’r hyn a wnaethpwyd yn nheml llawer mwy diweddar Côr y Cewri. Cred yr Eidalwr y byddai’r cerrig wedi nodi’r union fan yr ymddangosodd y Siriws dros y gorwel 9100, 8750 a 8300 cyn oed Crist. Ei honiad yw mai teml i ddathlu genedigaeth y seren lachar newydd yw’r safle hynod hwn.

Tua’r un cyfnod, ryw 12,500 o flynyddoedd yn ôl diflannodd anifeiliaid pori enfawr De’r Amerig. Gydag ymddangosiad dyn ar y naill law a’r newid hinsawdd ar ddiwedd yr Oes Ia ddiwethaf gwelwyd yr olaf o greaduriaid megis y Gawr Ddiogyn a’r Gomffother. Er i hyn ddigwydd ers cryn amser, yn ôl Chris Doughty o Brifysgol Rhydychen yn ei erthygl ddiweddar yn Nature Geoscience, mae un sgil effaith y digwyddiad yn para hyd heddiw.  Bydd pob ffarmwr gwartheg yn gyfarwydd â’r broblem – sef sut mae ail-gylchu mineralau ymborth ei anifeiliaid. Mae’n taenu sachau drud o NPK (nitrogen, ffosfforws a photasiwm) i fwydo’r gwair, sydd yn ei dro yn troi’n gig a llaeth – a thail. Gwasgerir y mineralau yma nid yn unig hyd lawr y beudy ond hefyd i’r Archfarchnadoedd a thu hwnt (wna i ddim manylu mwy). Mewn ecosystem naturiol o anifeiliaid bychain, cylchoedd cyfyngedig sy’n bodoli – nid yw baw’r anifeiliaid, na’u cyrff, yn pydru’n bell iawn o’r planhigion bwyd. Dyma’r sefyllfa yn yr Amazon heddiw. Ond cyn diflaniad y mamaliaid mawr, ‘roeddynt yn gwasgaru’r maethynnau hyn 50 gwaith ymhellach nag anifeiliaid heddiw. Yn ôl Doughty a’i gydweithwyr mae hyn yn lleihad o 98% ar symudedd maethynnau hanfodol, megis ffosfforws, a bydd angen aros am 17,000 o flynyddoedd eto cyn cyrraedd ecwilibriwm. Erbyn hynny, wrth gwrs, fe fydd newid hinsawdd a gweithgaredd arall dyn wedi hen newid unrhyw gydbwysedd beth bynnag.  Mae popeth yn newid o hyd.  Tybed beth oedd enw ffermwyr cyn-Indo-Ewropeaidd Anatolia am dail gwartheg a dom da ?