Mae dau deledu yn tŷ ni. Un â’i signal yn dod o gwmni Rupert Murdock, ac un arall â’i signal yn dod o Freeview. Os digwydd i’r ddwy fod ymlaen yr un pryd mae modd clywed yn y gegin gais yn cael ei sgorio- ac yna symud i’r lolfa i’w weld yn digwydd. Fis neu ddau yn ôl, soniais imi deimlo’n sicr imi unwaith weld y dyfodol wrth i’m hymennydd (holliach, gobeithio) faglu dros amserau digwyddiadau. Yn y cylchgrawn Cortex y mis diwethaf disgrifiwyd dyn sy’n byw ei fywyd beunyddiol fel hyn. Un diwrnod, ar ôl iddo dderbyn llawdriniaeth, dywedodd wrth ei ferch ei bod yn well iddi wneud rhywbeth am ei ddau deledu. Roedd yn clywed y sain cyn gweld y llun. Yna sylweddolodd ei fod yn clywed ei lais ei hun cyn iddo deimlo ei ên yn symud ! Dangosodd scan yr ymennydd fod ganddo niwed i ddwy ran wahanol ohono. Rhannau sy’n ymwneud â chlywed, amseru a symud. Dyma’r cofnod cyntaf erioed o rywun sy’n clywed rhywun yn siarad cyn gweld ei wefusau’n symud. Seibiant o tua chwarter eiliad yn unig ydoedd – ond hen ddigon iddo fod yn ymwybodol ohono. Defnyddiodd Elliot Freeman, o Brifysgol Dinas Llundain yr hyn a elwir yn rhithganfyddiad McGurk i’w ddadansoddi. Dyma beth sy’n digwydd pan fyddwn yn clywed un sill wrth edrych ar lun wyneb ar y sgrin yn geirio un gwahanol. Y canlyniad yw ein bod yn canfod trydedd sill. Wrth oedi’r llais mewn arbrawf fideo – disgwyliodd y seicolegwyr weld hyn yn digwydd gyda’r claf. Ond i’r gwrthwyneb – dim ond wrth oedi’r llun yr ymddangosodd y rhith. Roedd yn prosesu’r llun cyn y sain – ac yna’n methu eu cydosod. Wrth ddefnyddio’r un dechneg darganfuwyd 34 unigolyn arall gyda’r un patrwm – ond nid i’r graddau eu bod yn ymwybodol o’r peth. Dadleua Freeman bod nifer o glociau gwahanol yn ein pennau; dau ohonynt i’w gweld yma. Fel arfer mae modd i’r ymennydd eu dehongli yn ddidrafferth. Ond mae hyn yn codi’r cwestiwn athronyddol – “beth yw’r foment hon ?”. Cyfartaledd yn lle’r absoliwt. Yn y cyfamser, mae Freeman yn gobeithio y gall helpu’r dyn rhyfeddol hwn trwy arafu’r hyn y mae’n ei glywed i gyd-fynd â’r hyn y mae’n ei weld.
Canfyddiad cydamseriad o fath gwahanol dynnodd fy sylw yn Science yn ddiweddar. Rhaid cyfaddef, er fy mod yn fiocemegydd proffesiynol – ‘rwy’n dal i ryfeddu at y wybodaeth fanwl sydd i’w chael o’n DNA. Y tro hwn, gwybodaeth fanwl am fudo ein cyndadau o Affrica. Ymddengys fod newidiadau yn DNA ein genynnau’n digwydd yn ddigon cyson i fedru amseru faint o genedlaethau sydd rhwng dau unigolyn. Gyda’r rhan fwyaf o’n cromosomau, cymhlethir y dehongliad gan fod darnau ohonynt yn cymysgu – megis mewn gêm o gardiau – bob cenhedlaeth. Ond nid yw hyn yn wir am y cromosom Y. Hwn sy’n gyfrifol am ddynion (yn hytrach na merched) – ac fe’i trosglwyddir o dad i fab dros y milenia. Bydd cromosom Y dau frawd yn debyg; ond wrth symud i gefndryd, cyfyrdyr a cheifnaint ceir newidiadau. Dyma’r cloc genetigol. Mae David Poznik o Brifysgol Stanford wedi “darllen” am y tro cyntaf holl ddilyniant cromosom Y 69 o ddynion o’r Affrig, Ewrasia a chanolbarth America. Mae’n dangos i Adda Cromosom Y fyw rhwng 120 a 156 mil o flynyddoedd yn ôl. Mae hyn yn cymharu’n dda â’r amcangyfrif diweddaraf o 99 i 148 mil am Efa Mitocondria. Dadansoddodd hefyd wahaniaethau oedd yn ymwneud â moment 50,000 o flynyddoedd yn ôl. Y pryd hynny, roedd ein cyndadau wedi gadael yr Affrig – ond yn parhau, mae’n debyg, i breswylio ym mhenrhyn Arabia. Esgorodd y rhain ar grwpiau gwahanol sydd i’w gweld hyd heddiw. Aeth un i’r India, un i’r Cawcasws a gorllewin Asia, ac un arall ymhell i’r dwyrain, gan gyrraedd America ar ôl miloedd lawer o flynyddoedd. Y rhyfeddod yw bod modd amseru’r “hollt” deuluol i fod o fewn 150 o flynyddoedd i’w gilydd. Bron na fedrid meddwl am dri brawd yn mynd eu tair ffordd gwahanol ac yn llenwi cwarteri’r byd !
Yn anffodus, ar ôl llenwi’r byd, mae disgynyddion y tri bellach yn bygwth ei newid yn llwyr. Dros y misoedd diwethaf bu newyddion mwy optimistaidd am gyflymder newid hinsawdd. Honnir gan rhai nad yw’r newidiadau mor sydyn ag a ofnwyd ar un adeg ac y bydd modd i ddyfeisgarwch dynoliaeth liniaru pethau o’r herwydd. Ond mae papur diweddar yn Nature gan yr economegydd Chris Hope a thîm o Gaergrawnt a Rotterdam yn ein hatgoffa fod gan natur driciau eraill mewn stôr. Ers diwedd yr Oes Rew ddiwethaf, ryw 10,000 o flynyddoedd yn ôl, mae’n debyg bod ryw 10 miliwn tunnell o fethan (nwy cynhesu tŷ, ond hefyd nwy tŷ gwydr 25 gwaith mwy effeithiol na Deuocsid Carbon) yn gollwng bob blwyddyn o’r môr o dan silff arctig dwyrain Siberia. Ychydig iawn yw hyn o’r triliwn tunnell y credir ei fod yn gorwedd yno cyn fased ag 20 metr o dan y wyneb. Ond yn 2010 sylwodd Natalia Shakhova ac Igor Semileto o Brifysgol Alasca, fod cynnydd i’w weld yn y llifeiriant wrth i rew yr Arctig doddi – gyda pharthau cymaint â chilomedr o led yn berwi o fethan – megis gwydrau siampên. Cyfrifa’r ddau ei bod yn bosibl y rhyddheir 50 biliwn tunnell ohono o fewn degawd. Yn awr mae Hope a’i dîm wedi amcangyfrif cost economaidd yr ychwanegiad hwn i ddisgrifiad Adolygiad Stern yn ôl yn 2006. Byddai’n dod â’r foment y cyrhaeddwn 2ºC yn uwch na’r cyfartaledd cyn-ddiwydiant 15 i 35 mlynedd yn nes atom. Y gost ariannol, heb sôn am y dioddef cymdeithasol, fyddai $60 triliwn. (I roi hyn mewn cyd-destun, yn ôl yr IMF, cynnych cyfan y byd (GDP) yn 2012 oedd $83 triliwn.) Pryd, pryd fydd ein gwleidyddion yn medru cyd-osod yr holl ffactorau, a sylweddoli mai nawr – beth bynnag fo’r diffiniad biolegol – yw’r amser i weithredu ?
Pynciau: Amser, DNA, Methan.