Barn 66 (Hâf 2013): Gwin coch, Dihangfa dân, Yr ymenydd

Tybed faint ohonoch sy’n darllen hwn ar eich gwyliau mewn rhyw gaffe neu fwyty yn heulwen de Ffrainc ? Os ydych, mae’n bosib eich bod hefyd yn mwynhau gwydraid bach o win coch y wlad honno. Er bod y tebygolrwydd yn llai heddiw nag y buasai wedi bod yn 1980 pan yr arferai hanner oedolion Ffrainc yfed gwin yn feunyddiol. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan FranceAgriMer ym mis Mawrth, tua 17% sy’n llymeitian felly heddiw. Mae awdurdodau Ffrainc yn poeni bod hyn yn arwydd o dranc difrifol ei thraddodiadau creiddiol.  Mae’r Élysée yn crynu ! Ond a ddylent ?  Gwin cartref ffrwythau’r coed a medd fu diod cyndadau Celtaidd ein cymdogion cyfandirol. Gan yr Etrwsgiaid – rhagflaenwyr Rhufain – y daeth yr arfer o yfed ffrwyth y gwinwydd.  Mewn erthygl ddiweddar yn PNAS – beibl gwyddoniaeth yr Unol Daleithiau – mae Patrick McGovern o Brifysgol Pennsylvania yn disgrifio pryd y digwyddodd hyn. Dadansoddodd olion archeolegol amfforae – costreli gwin crochenwaith –  yn dyddio o gyfnod 500 mlynedd cyn y briodas yng Nghana Galilea.  Yn Lattes, ger Montpellier, y cafwyd yr olion hyn ac yr oedd dau fath ohonynt. Yr hynaf yn dod o’r Eidal a thu hwnt. Credwyd, heb dystiolaeth uniongyrchol, mai mewnforio gwin i’r Galiaid oedd diben y rhain. Yna tua 500 cyn Crist gwelwyd patrwm gwahanol – math arall o amffora yn gadael arfordir Ffrainc am y dwyrain. Ers blynyddoedd gofynnwyd beth oedd eu cynnwys. Yn awr mae McGovern wedi llwyddo i ddadansoddi’r cemegolion yng nghlai’r costreli a phrofi mai gwin grawnwin oedd yn y ddau fath yn wreiddiol. Tystiolaeth ddiymwad bod cyndadau Asterix wedi cefnu ar y gwin cartref a’r medd tua’r adeg hon. Cyflwynwyd gwinwydd o ddwyrain Môr y Canoldir i’w gwlad, ac o hynny ymlaen aethant ati i berffeithio ac allforio rhai o winoedd gorau’r byd. Ond nid ar unwaith. Ni fyddai llawer o groeso wedi bod yn Chez Dudley i’r cynhyrchion cynnar.  Yn ogystal â grawnwin, mae’r dadansoddi wedi canfod rhosmari ac, o bosib, teim a basil . Hefyd roedd yn cynnwys resin pinwydd – yn debyg i’r Retsina modern.  Ond dyna fe, efallai eich bod yn darllen hwn mewn caffe neu fwyty yn heulwen gwlad Groeg, beth bynnag.

Os digwydd tân tra byddwch yno – i gadw’r ddelwedd feiblaidd – ystyriwch y morgrug. Fe wnaeth Majid Sarvi o Brifysgol Monash, Melbourne, hynny wrth baratoi erthygl ddiweddar ar gyfer Transportation Research C. Disgrifiodd ymddygiad morgrug wrth iddynt geisio dianc o’u nyth ar ôl iddo osod cemegolion atgas ynddo. Roedd yr amser a gymerodd y creaduriaid bach i adael yn dibynnu ar leoliad yr allanfeydd a’r pileri. Arbrofodd Sarvia gyda gwahanol gynlluniau. Yna aeth ati i greu model gyfrifiadurol ar sut y disgwylai ef  i bobl  ddianc o wahanol adeiladau ar dân.  Darganfu fod y modelau mathemategol yn awgrymu y byddai pobl yn llwyddo i ddianc yn gyflymach o’r union gynlluniau yr oedd y morgrug yn llwyddo ynddynt.  Mewn un enghraifft roedd yr amser 160% yn gyflymach ar ôl gosod yr allanfeydd yng nghorneli’r ystafelloedd yn hytrach nag yng nghanol eu welydd. Bu hyn yn gryn gysur i mi’r wythnos diwethaf wrth imi sylwi mai dyna ynunion lle mae rhai o ddrysau ystafelloedd adeilad hanner-ei-orffen Pontio – canolfan celfyddydau newydd Prifysgol a Dinas Bangor.

A minnau bellach wedi cyrraedd oedran y cerdyn teithio, ond o hyd yn gobeithio gwerthfawrogi digwyddiadau’r Ganolfan newydd yn y blynyddoedd i ddod, cefais gysur hefyd o erthygl am yr ymennydd a’r cof o’r cylchgrawn Cell.  Y gred gyffredin yw nad yw celloedd yr organ holl bwysig honno yn adnewyddu ar ôl cyfnod yn fuan wedi ein geni. Ond mewn sawl astudiaeth ar lygod a mwncïod gwelwyd peth adnewyddiad o gelloedd yr hipocampws. Dyma’r rhan o’r ymennydd sy’n ymwneud â dysgu a chreu atgofion newydd. Beth am ddyn, felly ? Daeth ateb o gyfeiriad annisgwyl. Yn y cyfnod rhwng 1945 ac 1963 bu llawer o brofion niwclear a wasgarodd isotopau ymbelydrol i’r awyr. Un o’r rhain oedd carbon-14 a ddefnyddir gan archeolegwyr i ddyddio gwrthrychau.  Roedd modd i Jonas Frisen a’i gydweithwyr o Athrofa Karolinska, Stockholm,  fesur lefelau carbon-14 mewn gwahanol rannau o ymennydd post-mortem  55 unigolyn 19 i 92 mlwydd oed.  Roedd canran yr isotop yng nghelloedd yr organ yn datgan pryd yn union y ffurfiwyd hwynt. Gwelwyd mai oedran tebyg i’r unigolion eu hunain oedd y rhan fwyaf. Ond yn ardal yr hipocampws roedd canran sylweddol yn llawer ifancach na hyn. Honnai’r gwyddonwyr fod cymaint â 35 y cant o’r rhan hon o’r ymennydd wedi ei ailffurfio yn ystod bywyd – ar raddfa o ryw 1400 cell newydd bob diwrnod. Celloedd Tir na Nog – celloedd bythol wyrdd.  Rheswm i ddathlu gyda gwydraid bach (cymedrol) o Beaujolais ? Neu yn draddodiadol gyda’r gwin cartref ?


Pynciau: Gwin coch, Dihangfa dân, Yr ymenydd