Barn 65 (Mehefin 2013): Cwsg, Plant Diog, GDELT

Ysgrifennaf hwn wrth i’r mab aros am ei ganlyniadau arholiadau coleg diweddaraf.  Er ei fod yn 23 mlwydd oed maent o hyd yn codi ychydig ofn ar ei rieni, fel y maent arno yntau. Melltith academydd, mae’n debyg. Ond pan ffoniodd y diwrnod o’r blaen, dridiau cyn yr arholiad cyntaf, a dweud ei fod yn cysgu o bump y bore tan ddau’r prynhawn cefais fwy o fraw na’r arfer.  Roedd ei gloc mewnol yn sicr o fod allan ohoni. Beth am yr arholiad naw, gofynnais ?  Yn y diwrnodau canlynol fe gofiais mai’r un patrwm yn union oedd gennyf innau wrth wneud fy noethuriaeth pan roeddwn yr un oed ag ef. ‘Roedd fy nghyfarwyddwr yn Sant.  Ni chwynodd erioed er imi gyrraedd y lab bob dydd tua un o’r gloch y prynhawn, ac yna gweithio tan oriau mân y bore.   Yna ar dudalennau’r New Scientist yn ddiweddar fe ddes o hyd i erthygl gan Russell Foster, athro niwrowyddorau cwsg Prifysgol Rhydychen. Y llynedd cyhoeddodd  Sleep – A Very Short Introduction yn y gyfres odidog honno o Wasg Rhydychen. (Mae 315 ohonynt a 24 arall i ymddangos cyn diwedd y flwyddyn.)  Er 2007 bu Foster yn astudio effaith patrymau cysgu ar berfformiad disgyblion ysgol ac mae ei gasgliadau yn ddadlennol iawn. Rhan o’r broblem yw ein hagwedd lac ni, rhieni’r oes. Dengys astudiaethau ledled y byd fod plant yn noswylio’n hwyrach o dan ddylanwad y teledu, DVDau, chwaraeon PC, ffonau ac ati – ond bod oriau ysgol heb newid.  Ond yn ogystal â hyn mae rhythm hollol fiolegol ar waith. Yn ein harddegau, am resymau anhysbys, mae ein hamser cysgu a deffro yn dechrau hwyrhau. Erbyn 19.5 i ferched, a 21 i fechgyn, mae hwn yn ymestyn i ddwy awr ar gyfartaledd.  Yna mae’r cloc yn araf droi’n ei ôl. Erbyn 55 rydym yn dihuno tua’r un amser ag yr oeddem yn ein plentyndod.  I rywun yn ei arddegau mae codi am 7.00 yn gyfystyr â rhywun yn ei 50au yn cychwyn y bore am 5.00.  Heb naw awr o gwsg, yn ein harddegau, mae modd mesur nifer o ffactorau biocemegol andwyol. Lefelau cortisol yn arwain at ymddygiad anghymdeithasol; lefelau inswlin yn suddo, ar ei waethaf,  i lefelau cymesur â’r hyn a welir mewn clefyd siwgr cynnar; lefelau’r hormonau ghrelin a leptin yn newid i gynyddu chwant bwyta ac, o bosib, yn arwain at glefyd siwgr, gordewdra a gwasgedd gwaed uchel. Disgrifia Mary Carskadon o Brifysgol Brown y cyfuniad o gyflyrau ffonau a chyfrifiaduron a’r tueddiad i gymryd caffein a nicotin i gadw ar ddihun fel y “storm berffaith”.  Yn yr Unol Daleithiau mae nifer o ysgolion wedi arbrofi gyda chychwyn yn hwyrach yn y bore, a gwelwyd gwellhad o ran cyrhaeddiad academaidd, presenoldeb, cysgu yn y dosbarth ac iselder ysbryd. Yn 2009 arbrofodd Ysgol Uwchradd Monkseaton, ger Newcastle, gan gychwyn am 10.00. Cafwyd cynnydd yn sgôr academaidd y disgyblion.  Dadleua Foster, felly, ei bod yn rhaid inni gymryd cwsg llawer mwy o ddifrif ar sawl lefel. Ofer, meddai, yw buddsoddi mewn adnoddau ac ymdrech athrawon hebddo. Pwy a wŷr efallai y gwelaf innau, hefyd, ostyngiad yn nifer y caniau gwag o Red Bull sy’n gorwedd ar ochr y ffordd rhwng Talybont a Rachub!

Tybed ai diffyg cwsg sy’n gyfrifol am newidiadau a welwyd yn ddiweddar mewn agweddau disgyblion ysgolion uwchradd yr Unol Daleithiau ?  Yn y cylchgrawn  Personality and Social Psychology Bulletin mae Jean Twenge a Tim Kasser o Brifysgol Daleithiol San Diego yn disgrifio canlyniad astudiaeth o 355,000 ohonynt yn y blynyddoedd rhwng 1976 a 2007.  Ymddengys bod y tueddiad i ddisgwyl manteision gwyddoniaeth heb gyfrannu ato yn ymarferol ar gynnydd. Plant  a holwyd oddi ar 2005 oedd y rhai mwyaf materol a’r lleiaf bodlon i weithio’n galed. I 62% roedd cael llawer o arian yn bwysig, o’i gymharu â’r 48% o’r un anian rhwng 1976 a 1978. Yn y 70au ‘roedd 39% yn ystyried bod gwaith caled yn bwysig, oddi ar 2005 syrthiodd hwn i 25%.  Dadleua Twenge mai rhan o’r broblem yw mai’n anaml y mae hysbysebion yn dangos bod angen gweithio i ennill arian i brynu’r nwyddau.  Ar ddiwedd Ebrill wrth annerch 150fed cyfarfod blynyddol yr US National Academy of Sciences , pwysleisiodd yr Arlywydd Obama ei bod yn holl bwysig bod pobl ifainc ei wlad nid yn unig yn mwynhau cynnyrch gwyddoniaeth – ond yn cyfrannu at ei gynnydd. Er mwyn iddynt “gynnal y genhedlaeth nesaf o freuddwydwyr”.

Ond efallai nad oes modd newid dim. Pan oeddwn yn fyfyriwr (ac yn cysgu’r oriau rhyfedd) un o’m hoff awduron oedd Isaac Asimov (1920-1992). O fod yn athro biocemeg ym Mhrifysgol Boston aeth i fod yn un o awduron gwyddoniaeth (ffuglenni a ffaith) enwocaf ei gyfnod.  Ysgrifennodd neu golygodd dros 500 o lyfrau.  Yn ddiweddar  cyfunwyd nifer o’i storïau a nofelau am robotiaid yn y ffilm I Robot.  Y dylanwad mwyaf arnaf i (fel, mae’n debyg, ar yr economegydd gwobr Nobel, Paul Krugman, a ddilynodd yrfa mewn economeg o’r herwydd),  oedd ei Foundation Trilogy (1951-3).  Yn y nofelau mae Asimov yn dychmygu sefydliad sy’n defnyddio ystadegau i ddarogan dyfodol hanes dynoliaeth – ac yna yn dilyn troeon yr hanes hwnnw. Ers trigain mlynedd ffantasi oedd y “Seicohanes” hwn.  Bellach mae pŵer aruthrol cyfrifiaduron yn bygwth gwireddu rhywfaint o’r syniad. Mae GDELT (set Ddata Byd Eang ar Ddigwyddiadau, Lleoliadau a Naws) yn cofrestru chwarter biliwn digwyddiad geo-wleidyddol er 1979 ac yn ychwanegu 100,000 yn rhagor at y nifer hwn bob diwrnod.  Mae’n pori yn awtomatig ffynonellau megis yr Associated Press, Agence France Presse a Xinhua (prif asiantaeth Newyddion Tsieina).  Y gamp yw troi’r testun geiriol yn ddata mathemategol. Yna mae’r meddalwedd yn dadansoddi patrymau mewn modd nid annhebyg i’r hyn a ddefnyddir yn gyffredinol bellach i ddarogan y marchnadoedd stoc. Ym myd rhyfel a thrais – megis manylion hynt Afghanistan a Syria  – mae’r arbrofion cynnar gyda’r system. Mae cynlluniau i ymestyn y bas data yn ôl i 1800 – a hefyd dechrau cynaeafu cefnfor Google, Twitter ac ati. Y syniad yw gwneud darogan digwyddiadau mor gyffredin â darogan y tywydd. Ond eisioes mae gwefannau, megis Amazon, yn bwydo data ffug (adolygiadau ffafriol, er enghraifft) i’r moroedd hyn er mwyn dylanwadu ar agweddau. Rhan o’r sialens yw datblygu meddalwedd i synhwyro hyn. Peiriant yn gweithredu yn erbyn peiriant. Does dim syndod bod hyn yn adleisio Salvor Hardin, “arwr” Y Foundation. Mae’n rhaid imi fynd ati i’w ailddarllen – os medraf godi mewn pryd.


Pynciau : Cwsg, Plant Diog, GDELT