Barn 64 (Mawrth 2013): Gwenoliaid, Aur, Y llecyn oer ag Echel Drygioni

Un wennol ni wna wanwyn. Tair ohonynt a gyrhaeddodd yr un diwrnod eleni, ganol Ebrill. Daeth y gwanwyn !  Y flwyddyn y symudom i Sychnant, Llanllechid, fe ddaeth yr adar bach du a coch ar yr union ddiwrnod hwnnw – Ebrill 21ain.  Dros y 27 mlynedd buont yn hynod o gyson tan yr ychydig  blynyddoedd diwethaf; pan dechreuasant ddod yn gynt. Eleni, efallai y buont yn oedi ddiwrnod neu ddau i adael i’r Carneddau ddechrau dadebru o’r eira hwyr.  Newid ymddygiad dros y blynyddoedd. Tybed ai arwydd o esblygiad biolegol yn ymateb i newid hinsawdd ?  Pwy a ŵyr ? Ond mae tystiolaeth o esblygiad Darwinaidd yn sgil ein hymddygiad dros gyfnod tebyg yn eu cyfyrdyr o’r Amerig, Wenoliaid y Graig. Yn ôl erthygl yn rhifyn diweddar Current Biology, mae Charles Brown, o Brifysgol Tulsa, wedi bod yn casglu gwenoliaid a laddwyd ar ffyrdd yr Unol Daleithiau ers 30 mlynedd. Lleddir rhyw 80 miliwn aderyn yn y wlad honno’n flynyddol – ac wrth iddynt ddechrau defnyddio pontydd ffyrdd ar gyfer eu nythod – mae hyn yn gyfrifol am farwolaeth nifer o’r gwenoliaid. Er bod cynnydd yn eu nythod dan bontydd dros y cyfnod, sylw Brown oedd bod nifer y wenoliaid a laddwyd wedi syrthio yn gyson ers yr 80au. Wrth fanylu, fe sylwodd fod adenydd yr adar a laddwyd fel hyn, ar gyfartaledd yn hirach na rhai’r boblogaeth yn gyffredinol. Hefyd sylwodd bod hyd yr adenydd yn gyffredinol yn byrhau.  Beth sy’n digwydd ?  Mae adenydd byr yn well, mae’n debyg, wrth i’r wennol geisio esgyn yn gyflym – i osgoi car, er enghraifft.  Mae’n debyg mai dyma’r enghraifft ddiweddaraf o ymddygiad anthropomorffig yn effeithio ar esblygiad creadur arall. Mae’r ceir yn dueddol o ladd yr adar adenydd hirion. Y lleill, felly, sy’n fwy tebygol o drosglwyddo’u genynnau i’r genhedlaeth nesaf.

Ac nid aur yw popeth melyn. Efallai wir! Ond mae Richard Henley a Dion Weatherley o brifysgolion Canberra a Brisbane wedi dangos, am y tro cyntaf, sut y bu i aur gasglu mewn gwythiennau yn y creigiau o dan ein traed.  Erydiad a symudiad y graig sy’n dod â’r gwythiennau hyn i’r wyneb yn barod i’w cloddio gan ddyn.  Er bod hyn yn hysbys ers blynyddoedd lawer, nid oedd esboniad pam ‘roedd yr aur yn cronni yn y craciau yn y lle cyntaf. Mae gwasgedd y creigiau a’r dyfroedd sy’n llenwi’r craciau  5 i 30 cilomedr i lawr yn uchel iawn – ryw 3000 gwaith yn uwch na’r awyr o’n cwmpas.  Mae’r dyfroedd hyn yn cynnwys llawer o fwynau, gan gynnwys aur, wedi toddi ynddynt. Dadl Henley a Weatherley yw bod daeargrynfeydd yn agor y craciau hyn yn gyflym iawn. Yn rhy gyflym i adael i’r dyfroedd o’u hamgylch eu llenwi ac mae’r dŵr yn berwi wrth i’r gwasgedd syrthio (proses a enwir yn geudodiad).  Mae hyn yn gadael y metalau ar ôl.  Wrth i’r dŵr ail lenwi’r craciau, mae’r mwynau mwy hydawdd yn mynd yn ôl i’r dŵr, ond mae metalau anhydawdd, gan gynnwys aur yn aros. Dros gyfnodau o gannoedd o filoedd o flynyddoedd – cyfnod byr mewn daeareg – a nifer o ddaeargrynfeydd, mae swmp sylweddol o’r metal yn ymffurfio.  Credir i draean o’r holl aur a gloddiwyd heddiw ymffurfio yn y ffordd yma, gan gynnwys trysorau Gwynfynydd ger Dolgellau. Cred rhai bod hyd at hanner aur y byd wedi’i gloi mewn craciau tebyg o dan fasn Witwatersrand yn Ne Affrica.  Gwell imi ofyn i’n wenoliaid ni edrych allan amdano yn yr hydref!

Ond chwiliwch a chwi a gewch.  Yn ystod wythnos olaf mis Mawrth cyhoeddwyd canlyniad dau chwiliad o bwys i fyd ffiseg. Yn gyntaf, penderfynwyd o’r diwedd ei bod yn sicr i wyddonwyr CERN ddarganfod y Boson Higgs y llynedd. Bu ychydig ansicrwydd ar y pryd.  Yn ail gwelwyd canlyniadau cyntaf Planck, lloeren a lansiwyd ym mis Mai 2009, ddeufis ar ôl y telesgop Kepler ffrwythlon-ei-ganlyniadau am blanedau pellennig (gweler Barn Mehefin 2009). Bwriad telesgop Plank oedd tynnu’r llun gorau hyd yma o gefndir microdon y cosmos. Dyma’r signal radio, a ddarganfuwyd yn 1964, sy’n adlais o’r Glec Fawr – cychwyn y Bydysawd. Yn wir, darganfod hyn gan Arno Penzias a Robert Wilson yw un o brif bileri ein dealltwriaeth o’r cychwyn hwn.  Ar y dechrau, doedd dim ond modd edrych yn fras ar y signal hwn. Roedd yn ymddangos yn hollol gyson ac yn dod o bob cyfeiriad. Dros y blynyddoedd sylweddolwyd nad oedd mor unffurf – ac y byddai modd dysgu am eiliad gyntaf ein Bydysawd wrth edrych ar yr anghysonderau.  Dysgwyd llawer eisioes, ond mae manylion llun Plank yn ein tywys i raddfa newydd eto o ddealltwriaeth.  Er enghraifft, i’r de o’r cyhydedd, yng nghytser Eriadnws, mae llecyn fymryn yn oerach na’r cyffredin. Ai “clais” yw hwn i nodi lle mae bydysawd arall yn taro yn erbyn ein un cyfarwydd ni ?  Mewn llun cynharach gwelwyd “gwregys” – nid annhebyg i’r Llwybr Llaethog yn y ffurfafen gyfarwydd. Fe’i bedyddiwyd – yn ysbryd y cyfnod –  yn “Axis of Evil” !  Roedd mor annisgwyl fe’i hystyriwyd yn arteffact ac na fyddai’n ymddangos yn lluniau gwell Planck. Ond i’r gwrthwyneb, mae’r “Echel” i’w gweld yn gliriach nag erioed, ac yn hollol ddi-esboniad.  Mae’r data yn rhoi gwell amcangyfrif o gyflymder ffrwydrad y Glec Fawr yn ystod y ffracsiwn lleiaf o’r eiliad gyntaf, bron pedwar biliwn ar ddeg o flynyddoedd yn ôl.  Yn eu tro mae hyn yn cynnig diwedd newydd i’r bydysawd – biliynau o flynyddoedd i’r dyfodol. Y ddamcaniaeth bresennol yw mai diffodd araf fydd y diwedd, ond mae Planck yn crybwyll mai efallai ffrwydrad arall – y Rhwyg Mawr – fydd ein diwedd wedi’r cyfan.  Tybed pa mor hir fydd adenydd wenoliaid Sychnant erbyn hynny ?


Pynciau: Gwenoliaid, Aur, Y llecyn oer ag Echel Drygioni