Barn 63 (Ebrill 2013): Y foment hon, Gwenyn, Picasso, Obediah Hodges

Ar brynhawn dydd Sadwrn yng ngwanwyn 1980 – anghofiaf y mis – fe welais, yn llythrennol, y dyfodol.  Yn Amgueddfa Gelf Fodern dinas Cwlen yn yr Almaen yr oeddwn, ac fe welais droed rhywun a oedd ar fin cerdded rownd cornel o’m blaen.  Y foment honno mi brofais y teimlad fy mod yn gwybod yn iawn pwy oedd perchennog y droed; cyfaill o’m dyddiau coleg nad oeddwn wedi’i weld ers pedair blynedd. Nid oedd unrhyw reswm imi feddwl ei fod yn yr Almaen, ac nid oedd yn arfer gwisgo esgidiau nodweddiadol. Ar amrantiad daeth fy nghyfaill Jon Green i’r golwg. Cymerodd sawl eiliad imi ddod dros y sioc ac nid wyf erioed wedi ei anghofio. Nid oes dim tebyg wedi digwydd imi na chynt nac wedyn. Dros y blynyddoedd fe benderfynais fy mod wedi profi nid rhagwelediad ond enghraifft o gloc yr ymennydd yn methu.  Fy nghanfyddiad o’r foment wedi’i ŵyrdroi wrth i’m hymwybod fethu â gosod pethau yn y drefn iawn.

Fe’m hatgoffwyd o’r profiad gan gyfres o erthyglau mewn rhifyn arbennig o’r New Scientist yn ddiweddar wedi’i llunio gan Jan Westerhoff, athronydd o Brifysgol Durham ac awdur llyfr o’r enw Reality: A Very Short Introduction (OUP, 2011). Detholiad o nodiadau ar Yr Hunan yw’r rhifyn ac ynddo mae hanner tudalen ar “Rithganfyddiad oedi’r fflach”.  Un o nifer fawr o dromp de l’oeil yw hwn sy’n ein dysgu am sut mae’r meddwl yn gweithio. Ynddo mae bys yn troi o amgylch disc – megys bys eiliad cloc. Y foment mae’r bys yn pasio’r “12” mae golau yn fflachio yno wrth ymyl y disc. Ond nid dyna beth a ganfyddir. Y canfyddiad yw bod y fflach yn digwydd ar ôl i’r bys pasio.  Yr esboniad gwreiddiol oedd bod yr ymennydd – sy’n ymwybodol ei bod yn cymryd amser i weithio – yn cofnodi’r bys fel y bydd ychydig yn y dyfodol, sef “gweld” y dyfodol – tro bod y fflach sefydlog yn aros yn ei hunfan. Yn anffodus, mewn erthygl yn Science yn 2000 dangosodd David Eagleman o Brifysgol Califfornia, San Diego, nad oedd hyn yn wir. Mewn arbrawf, fe stopiodd y bys yn union yr un pryd â’r fflach. Peidiodd y ffenomen. Hefyd os cychwynnodd y symud yr un foment â’r fflach – synhwyrir y symud cyn y fflach. Ei ddehongliad, a dderbynnir bellach, yw nad ryw ddyfodol a ganfyddir ond bod yr ymennydd yn plethu digwyddiadau o’r gorffennol i greu realiti ôl-weithredol. Y paradocs, felly, yw beth yn union yw’r presennol inni ? Ym mis Ionawr eleni dangosodd Gerrit Maus a’i gydweithwyr o Berkeley fod modd tiwnio’r ffenomen hyd yn oed, trwy osod yr ymennydd mewn maes magnetig. Rhaid cyfaddef fy mod, bellach, yn teimlo’n llawer hapusach am fy mhrofiad yng Nghwlen ond yn llawer llai hapus am beth yn union yw’r foment hon !

Canfyddiad gwahanol a dynnodd sylw – ac felly greu testun tiwtorial – un o’m myfyrwyr ar ddechrau mis Mawrth. Roedd wedi gweld erthygl yn Science gan Daniel Robert o Brifysgol Bryste am berthynas drydanol rhwng gwenyn a blodau. Wrth hedfan drwy’r awyr mae’r gwenyn – y bili bwmpen yn yr achlysur hwn – yn codi gwefr statig bositif ar eu cyrff. Dyma’r un effaith ac a welir wrth gribo gwallt glân, neu gath, ar ddiwrnod sych.  Ar y llaw arall mae blodau yn dueddol o gasglu gwefr statig negyddol.  Fel y gŵyr pawb, y mae lliw, siap, patrwm ac arogl yn atynnu pryfed i beillio.Gofynnodd Robert, felly, a oedd modd i’r pryfyn ddefnyddio’r meysydd trydanol yn yr un modd.  I ateb y cwestiwn creodd y biolegwyr flodau artiffisial gyda lliw ac arogl naturiol. Llenwyd rhai â siwgr, a’r lleill â chwinîn – sylwedd chwerw nad yw’r gwenyn yn ei hoffi.  I ddechrau, glaniodd y gwenyn ar y ddau fath ar hap. Yna gwefrwyd yn bositif (tua 30 Volt) y blodau “melys” ac yn fuan iawn ‘roedd y gwenyn yn dod atynt 81% o’r amser. Pan ddiffoddwyd y wefr dychwelwyd i’r ymddygiad hap.  Aed ati wedyn i newid siâp y maes trydanol – ac yn fuan sylweddolwyd fod yn well gan y bili pwmpenod faes ar ffurf olwyn na maes cylch solet.  Esboniad yr ymchwilwyr yw bod gwahanol flodau wedi esblygu meysydd i atynnu pryfed gwahanol . Ac ‘roedd mwy i’r hanes. Bob tro’r ymwelai gwenynen â blodyn trosglwyddai rywfaint o’i gwefr negyddol (electronau) i’r blodyn.  O ganlyniad collodd hwnnw beth o’i wefr bositif.  Ar ôl sawl ymweliad roedd y newid yn ddigon i leihau apêl y blodyn i’r peillwyr. Cred y gwyddonwyr fod yma drefn gyflym ac awtomatig i’r gwenyn adael llonydd i flodyn ail-lenwi ei stôr o neithdar – ac ail ymwefru ar yr un pryd – cyn dod yn ôl am ragor.

Nid lliw yw popeth felly. Ond mae pobl, fel pryfed, yn ei weld yn atyniadol – er ein bod yn gallu bod yn bur feirniadol ar brydiau. Ddechrau mis Mawrth eleni, er enghraifft, cefais y pleser o weld y tri phaentiad yn ein Hamgueddfa Genedlaethol o gasgliad chwiorydd Llandinam gan JMW Turner y pechodd eu lliw y beirniaid am hanner canrif.  Yma yn Sychnant mae paentiad o gartref fy nhad ym Mynydd Islwyn o 20au’r ganrif ddiwethaf gan artist gwlad o’r enw Obediah Hodges. Nid yn union o safon Turner, yn sicr, ond un o’r cwynion amdano oedd ei fod yn defnyddio paent tŷ cyffredin i wneud ei luniau o ffermydd, ac ambell eglwys, yn y de. I arbenigwr, peth bron mor amharchus â pherthynas Turner a Mrs Booth. Ond brensiach y brain, mewn erthygl yn Applied Physics A mis Ebrill mae tîm o Chicago wedi profi i Pablo Picasso wneud yr un peth. Trwy ddefnyddio dadansoddi-pelydr X, mae Volker Rose a Francesca Casadio wedi profi i Picasso, a rhai o’i gyfoeswyr, ddefnyddio Ripolin – paent tŷ poblogaidd o Ffrainc – yn eu lluniau yn ystod y 30au.  Honnir bod hyn yn gam hanesyddol yn natblygiad celf yr ugeinfed ganrif. Os taw – roedd Obediah Hodges yno o’u blaenau. Estynnwch y Dulux, rhywun ?


Pynciau: Y foment hon, Gwenyn, Picasso, Obediah Hodges