Un o bleserau byw ar lethrau’r Carneddau yw medru gweld y Llwybr Llaethog yn rheolaidd. Deallaf nad yw hyn yn rhywbeth cyffredin mewn dinasoedd bellach. Y wefr i mi yw syllu arno a sylweddoli fy mod yn edrych ar echel ein Galaeth. Ceisiaf ddychmygu beth y buaswn yn ei weld oni bai am gymylau llwch y gofod. Hebddynt byddai’r nos mor olau â’r dydd yng ngoleuni’r sêr. Teimlais frawdoliaeth, felly, wrth ddarllen erthygl ddiweddar yn Current Biology yn disgrifio sut y mae chwilod y dom yn mordwyo yn y nos. Ers 2003 mae Marie Dacke o Brifysgol Lund yn Sweden wedi bod yn eu hastudio. I ddechrau dangosodd sut y maent yn defnyddio polareiddiad goleuni’r lleuad i gerdded yn union o le i le. Ond yn fuan sylweddolodd nad oeddent yn colli’r ffordd ar nosweithiau di-leuad ychwaith. Ar gyfer yr astudiaeth gosodwyd y chwilod ar waelod casgen a oedd yn agored i’r nen. Mesurodd Dacke yr amser a gymerodd iddynt symud o ganol y gasgen i’r ymyl. Dyblodd yr amser yn absenoldeb y lleuad. Ond pan gaewyd y gasgen cymerodd chwe gwaith yr amser. Roedd a wnelo’r sêr rywbeth â’r mater. Wrth ailadrodd yr arbrawf mewn Planetariwm sylweddolwyd nad oedd modd i’r creaduriaid bach weld y sêr – ond ‘roedd modd iddynt weld ac ymateb i’r Llwybr Llaethog. Y tro nesaf y byddaf yn gorwedd a syllu arno – byddaf yn hapus wrth feddwl nad fi yw’r unig un !
Hoffwn feddwl fod ryw greadur yn edrych yn ôl o’r gofod tuag atom ni gyda’r un cynhesrwydd meddwl. Wrth gwrs, ni fyddaf i byth yn gwybod hyn – ond y mae’n eithaf tebygol, yn fy marn i, y byddwn yn casglu digon o dystiolaeth i brofi bodolaeth rhyw fath o fywyd y hwnt i’r ddaear yn ystod fy mywyd. (Wrth imi ysgrifennu, siom dros dro yw’r ffaith bod telesgop Kepler – sydd wedi bod mor ddiwyd yn darganfod planedau dros y blynyddoedd diwethaf, wedi’i ddiffodd. Mae’n debyg fod un o’r “bearings” yn rhedeg yn sych. Wrth ei orffwys mae NASA yn gobeithio y bydd yr olew yn llifo yn ôl. Ymateb sydd yn f’atgoffa ohonof fy hun pan fyddaf yn rhy ddiog i fynd â’r car i’w wasanaethu !). Erys y posibilrwydd o ddarganfod rhyw fath o fywyd ar blanedau a lleuadau system yr haul. Ond nid wyf yn disgwyl dim byd cymhleth. Ond sut mae synhwyro bywyd blynyddoedd goleuni i ffwrdd ? Yr ateb symlaf yw trwy weld ei liw. Yn y cylchgrawn Astrobiology diweddaraf mae Siddharth Hegde a Lisa Kaltenegger o’r Max Planck yn Heidelberg yn disgrifio sut y dylai bod modd gweld olion algae a chen ar blanedau pellennig. Eisioes yr ydym yn defnyddio camerâu yn y gofod i ddilyn symudiad algae yng nghefnforoedd y ddaear wrth synhwyro lliw ac adlewyrchiad cloroffyl a molecylau ffotosynthetig eraill. Dyma sut mae modd gweld effaith llygredd amaethyddol yn llifo i’r moroedd wrth iddo greu “blŵm” tebyg i’r hyn a ddigwyddodd yn Llynnoedd Tegid a Phadarn yn ddiweddar. Dadl Hegde a Kaltenegger yw y bydd modd hefyd canfod llofnodion lliw organebau ffotosynthetig ar diroedd cras a sych planedau heb lawer o ddŵr arnynt. Nid Na’vi Pandora, planed ddychmygol y ffilm Avatar, efallai, ond mwy na digon o wefr bywyd i fiocemegydd planhigion fel fi !
Yn y cyfamser mae digon i’w bryderu yn ei gylch am fywyd ar y ddaear. Ofnaf fy mod yn un sy’n dra phesimistaidd am ei dyfodol yn sgil newidiadau hinsawdd yn dilyn gweithgareddau dynoliaeth. Felly, gydag ychydig rhyddhad y darllenais am erthyglau mwy optimistaidd yn ddiweddar. Wrth i economi Gwlad Groeg blymio ers 2007 gwelwyd cwymp cyfatebol sylweddol yn nwyon llygredd y wlad honno – yn arbennig ocsidau nitrogen, carbon monocsid a sylffwr deuocsid. Bu gostyngiad cyfatebol, ond llai, dros Ewrop a’r Unol Dalaethiau yn ystod yr un cyfnod. Dywed Ronald Cohen o Brifysgol Berkeley, a adroddodd am yr UD yn Atmospheric Chemistry and Physics yn ddiweddar, fod llywodraethau’r cyfandiroedd hynny wedi llwyddo i fanteisio ar hyn trwy sicrhau parhad y gostyngiad ers dyfnderoedd y dirwasgiad. Cred na fydd llygredd awyr yn broblem yno mewn deng mlynedd. Yn anffodus, nid yw llywodraeth Groeg wedi cyfrannu lawer at hyn. Yno eisioes rhoddwyd o’r neilltu ddatblygiadau technoleg werdd. Hefyd, yn anffodus, ni welwyd yr un ffenomen mewn nwyon tŷ gwydr. Ar ôl cwymp bychan byd eang yn 2009 bu cynnydd sylweddol yn 2010 a 2011.
Mewn rhifyn diweddar o’r Journal of Geophysical Research, mae Tami Bond o Brifysgol Illinois wedi dangos cysylltiad rhwng y ddwy ffenomen o lygredd confensiynol a thŷ gwydr. Honna fod huddyg yn yr awyr yn cyfrannu hyd at ddwywaith yr effaith cynhesu y cyhoeddwyd amdano gan yr IPCC – y pwyllgor rhyngwladol sy’n monitro’r newidiadau hinsawdd. Os yw hyn yn wir, mae gan huddyg fwy o ddylanwad na’r holl nwyon tŷ gwydr heblaw am garbon deuocsid. (Ganol mis Ionawr eleni torrodd lefelau smog Beijing record trwy gyrraedd 30 gwaith y lefel a argymhellir gan y WHO.) Ochr bositif y darganfyddiad hwn yw mai mai am ychydig o ddiwrnodau’n unig y mae’r huddyg yn aros yn yr awyr. Byddai buddsoddi i gynhyrchu llai ohono o danau glo, allyriadau diesel ac ystofau coginio yn cael dylanwad mewn byr o dro. O’i gymharu, mae cylch amser carbon deuocsid yn yr awyrgylch i’w fesur mewn degawdau lawer. Yn ogystal â newid hinsawdd mae’n debyg bod yr huddyg yma’n lladd ryw 2 filiwn o bobl bob blwyddyn – yn bennaf trwy lygredd yn y tŷ o’r ystofau coginio. Dim rhyfedd,felly, nad oes modd mwynhau’r Llwybr Llaethog o strydoedd dinasoedd y ddaear.
Pynciau: Chwilen y dom / Llwybr llaethog, Bywyd yn y gofod, Allyriadau huddyg.