Ar ôl y Nadolig, ymunais yn frwd â’r tyrfaoedd yn CineWorld Llandudno i weld Yr Hobbit yn ei holl ddimensiynau. Fel pawb arall, bydd rhaid aros am ddwy flynedd arall cyn darganfod a ydyw Bilbo a’i gyfeillion yn cyrraedd pen ei antur. Gwell peidio ag anghofio lle y gadewais y sbectol 3D. Fe gefais deimlad chwithig cyntaf y noson wrth sylweddoli fy mod yn edrych ar Ian Holm ac Elijah Wood yn llawer iau nag yr oeddynt 10 mlynedd yn ôl. Bûm yn ffan mawr o Holm ers ei berfformiad o Lech Walesa (a’i fwstas !) yn ôl yn 1981, ond roedd y colur neu’r CGI wedi ei bellhau rywsut. Yr un modd wyneb hynod Wood. Cyd-ddigwyddiad, felly, oedd darllen erthygl gan Joe Kloc yn y New Scientist yr wythnos ganlynol yn trafod ein hymateb i wynebau sydd ddim cweit yn ddynol. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ymateb yn bositif i gymeriadau cartŵn ar y sgrin neu robot mecanyddol traddodiadol, ond wrth iddynt ymdebygu yn fwyfwy i fodau dynol, yn sydyn, rydym yn teimlo’n anghyffyrddus. Mae hon yn broblem fawr i Hollywood, sy’n ceisio defnyddio cyfrifiaduron (CGI) i greu actorion yn rhannol, neu’n gyfan gwbl, ar y sgrin. Honnir mai delw CGI Tom Hanks yn Polar Express (2004) oedd yn gyfrifol am fethiant ariannol y ffilm honno.
Yn 1970 ysgrifennodd gwyddonydd robotau o Japan, Masahiro Mori, draethawd ar y ffenomen o’r enw “Bukimi No Tani” (Y Dyffryn Iasoer). Ychydig o sylw a roed i hwn yn y gorllewin nes i Karl MacDorman, bellach ym Mhrifysgol Indiana, ei gyfieithu i’r Saesneg yn 2005. Trywydd cyntaf MacDorman oedd ymchwilio i’r awgrym bod y robotiaid hyn yn ymddangos fel cyrff meirwon – ac yn ein hatgoffa o’n meidroldeb. Drwy ddefnyddio gwirfoddolwyr cafodd ychydig dystiolaeth i’r perwyl, ond dim byd a allasai gyfiawnhau cryfder yr ymateb. Wedi’r cyfan, meddai, mae edrych ar garreg fedd yn ein hatgoffa o farwolaeth heb annog yr un teimlad. Erbyn 2011 roedd sawl labordy yn defnyddio fMRI i astudio’r ffenomen. Dangosodd Ayse Saygin, UC San Diego, gyfres o ffilmiau i wirfoddolwyr yn dangos yr un gweithgareddau – ond wedi’u hactio gan robot mecanyddol, pobl go iawn neu android a oedd yn creu’r “ias” mewn gwyliwr. Ychydig o gyffro a welwyd yn ymenyddion y gwirfoddolwyr gyda’r gyntaf a’r ail. Ond bu ymateb sylweddol yn eu cortecs gweledol a symudol wrth wylio’r android. Y ddamcaniaeth oedd bod angen i’r meddwl weithio’n galetach i ddehongli’r android a bod hwn yn creu dryswch. Nid oedd hyn yn bodloni MacDorman, sy’n credu bod rhywbeth llawer dyfnach yma. Honna bod a wnelo hyn â’r broses greiddiol o’n hempathi dynol. Flwyddyn neu ddwy’n ôl mi soniais yn y golofn hon am gelloedd niwron “drych” ein cyfundrefn nerfol, sy’n ceisio ail greu oddi mewn i’n hunain yr un teimladau ag y tybiwn sydd yn y rhai hynny yr ydym yn cyfathrebu â hwynt. Diffyg yn y rhain, o bosib, sydd wrth wraidd ambell fath o Awtistiaeth. Mae ymchwil mwy clasurol wedi dangos eisioes bod tri chategori i’n hempathi. Un wybyddol (canfod persbectif), un symudol (medru dynwared ystum) ac un emosiynol (synhwyro teimladau). Mae arbrofion MacDorman yn awgrymu nad oes unrhyw broblem cynnal empathi gwybyddol a symudol â’r Android – ond nid yw’n hisymwybod yn fodlon estyn empathi emosiynol iddo. Arwain hyn at wrthdaro – a’r teimlad anghynnes. Mae’r Android wedi syrthio i’r Dyffryn Iasoer ac efallai na fydd byth modd ei achub oddi yno – neges ddiflas i Hollywood a chynllunwyr Robotiaid. Ymateb Mori, ei hun, pan ofynnwyd iddo flynyddoedd yn ôl a gredai y byddai robotiaid yn croesi’r Dyffryn oedd “Pam ceisio ?”.
Dyffryn dwfn o fath hollol wahanol, dyffryn potensial trydanol, a ddisgrifiwyd yn Nature cyn y Nadolig. Prin yw’r gweithgareddau o’n heiddo y dyddiau hyn nad ydynt yn ymwneud rhywsut â micro-electroneg – yn gyffredinol, a’r transistor yn arbennig. Ers 1947 cymerodd y teclyn hwn le’r falf annwyl, ond hollol angof bellach, yng nghrombil ein gwareiddiad. Tap ar gyfer electronau yw transistor. Mae haen o led-ddargludydd yn rhannu terfynau dargludol – megis mêl mewn brechdan. Trwy reoli gwefr drydanol y “mêl” mae modd agor neu gau llif electronau o un terfyn i’r llall. Trwy gydol fy oes aeth y transistor a’i ddyfeisiadau yn llai ac yn llai – bellach maent mor fychan fel mai electroneg y cwantwm ac uwchddargludyddiaeth yw’r ffâs ymchwil. (Er, rhaid cofio mae Brian Josephson, Enillydd Gwobr Nobel o Gaerdydd, oedd un o’r cyntaf i’r maes yn y 60au). Mewn ymgais i geisio deall mwy am sut i ddefnyddio’r rhain yn ymarferol, yn anfwriadol fe greodd Tilman Esslinger o Uned Electroneg y Cwantwm, Zurich, “dransistor” nid i electronau, ond i atomau. Creodd fodel microsgopig i efelychu’r transistor cwantwm. Yr atomau yw nwy o’r metal Lithiwm wedi’i hoeri i ddim ond 500 nano-gradd uwchben sero absoliwt. Ar y tymheredd hwn mae’n troi’n uwch-hylif ac ym medru llifo heb ffrithiant o ffynhonnell i ddraen 20 micromedr i ffwrdd. Mae’r “transistor atomau” ar agor. Trwy ddefnyddio nifer o laserau wedi’i hanelu at y “dyffryn” rhwng y ffynhonnell a’r draen mae modd troi’r lithiwm yn ôl yn hylif cyffredin llawn ffrithiant, ac mae’n peidio â llifo. Dyfais sy’n cyfateb yn union i dransistor cwantwm – golau yn lle trydan i’w rheoli ac uwch-hylif yn cymryd lle uwch-ddargludydd. Nid oes defnydd ymarferol i’r ddyfais hon – ond wrth fesur ymddygiad yr atomau (cymharol fawr ac yn hawdd eu mesur) yn y labordy bydd modd darogan ymddygiad electronau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddyfeisiadau.
Ond mor fyr yw clod ! Ynghanol cynhadledd fis Ionawr Cymdeithas Seryddol America, lle datgelwyd i’r byd bod ryw 17 mil miliwn o sêr ag iddynt blaned tua’r un maint â’r ddaear yn bodoli yn ein galaeth – cofiwch mai dim ond yn 1992 y canfuwyd yr ecsoblaned gyntaf o unrhyw faint – gwnaed y sylw “Exoplanets are so last year !”. Hyn gan neb llai na Barry Welsh o Berkeley wrth iddo gyhoeddi ei ddarganfyddiad bod nifer o gomedau yn troelli o gwmpas systemau solar eraill ar draws ein galaeth. Beth fyddai cymeriadau eraill John Sparkes wedi ei ddweud tybed ? Anfon Hugh Pugh ar eu holau, mae’n siŵr !
Pynciau: Android, Transistor atomau, Ecsogomedau