Ap Geiriaduron yw’r eitem ffasiwn ddiweddaraf acw. A minnau newydd fuddsoddi mewn Tabled (nid Kindle gan fod Amazon yn osgoi’r Gymraeg yn yr un modd ag y maent yn osgoi talu llawer o drethi yn y wlad hon) rhaid oedd cael copi. Yn arbennig felly ar ôl i’r mab, fy ffynhonnell gwybodaeth am y pethau hyn, ddweud wrthyf am ei BUM seren. Ond ap o fath arall dynnodd fy sylw yn y wasg wyddonol y mis hwn. Genodroid yw ei enw – ac mae’n arwydd o’n hoes. Er, go brin fod llawer o ddefnydd iddo hyd yma. Fe’i datblygwyd yn un o labordai Xerox yng Nghaliffornia er mwyn i unigolion allu gwarchod cyfrinachau eu genynnau rhag camddefnydd. Yr hyn sydd wrth wraidd yr ap, yw bod modd bellach derbyn copi rhannol ond defnyddiol o’ch dilyniant DNA am gyn lleied â $299 (23&Me, Mountain View, Califfornia). Yn y blynyddoedd nesaf byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yhon amdanom ein hunain i sicrhau gwasanaethau unigolyddol, megis presgripsiwn gan ein meddyg sy’n addas ar gyfer ein cyfansoddiad unigryw. Defnydd ysgafnach, ond hynod boblogaidd, fydd defnyddio’r wybodaeth i ddiwallu’n hysfa Gymreig i weld pwy sy’n perthyn. I wneud hyn bydd rhaid cyflwyno gwybodaeth am ein genynnau i bwy bynnag sy’n cynnig y gwasanaeth. Yn anffodus, mae hefyd wybodaeth y byddai’n well inni ei gadw’n gyfrinachol yn y basau ddata hyn. Enghraifft glasurol, y bu cryn drafod arno, yw gwybodaeth am wendidau iechyd y byddai ein cwmnïau yswiriant wrth eu boddau’n ei darganfod amdanom. Hefyd, efallai na fyddem yn hapus i ddatgelu tueddiadau ein hymddygiad i ddarpar gyflogwyr – neu i gwmnïau hysbysebu nwyddau. Y mae hyn i gyd ar y gorwel agos ac o’r herwydd mae Comisiwn Arlywydd yn yr Unol Daleithiau wedi galw am ganllawiau cyfrinachedd yn y maes hwn. Mae Genodroid yn encryptio’r wybodaeth yn ofalus ac yn datgelu dim ond y darnau hanfodol i’r diben penodol ar unrhyw adeg. Ar hyn o bryd mae awduron y feddalwedd yn arddangos ei hyblygrwydd trwy gynnwys prawf ar gyfer trosglwyddo organau. Cymhwysiad addas iawn wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth yn ein gwlad i hwyluso hyn.
Arwydd arall o’r tswnami o ddatblygiadau biodechnoleg oedd y cyhoeddiad ar ddechrau Tachwedd bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi caniatâu’r Therapi Genyn cyntaf yn Ewrop. Yn fuan ar ôl darganfod mai dilyniant DNA oedd allwedd deall clefydau etifeddol, aethpwyd ati i ddarganfod mwtaniadau. Ar ôl dechrau dod o hyd iddynt – megis genyn Ffibrosis Sistig yn 80au’r ganrif ddiwethaf – dadleuwyd y byddai modd eu “trwsio” trwy ail ysgrifennu’r DNA mewn modd nid annhebyg i ddefnyddio cywirwr sillafu – megis Cysill. Ond hir fu’r aros. Ar ôl dechrau addawol, yn 1999 daeth popeth i stop pan fu farw Jessie Gelsinger ar ôl adwaith imiwn i’r driniaeth. Gwaeth na hynny, y flwyddyn ganlynol bu farw claf o lewcemia wrth ddefnyddio’r therapi i geisio trin ei ddiffyg imiwnedd llwyr (X-SCID). Roedd yn ymddangos mai’r therapi oedd yn gyfrifol am y cancr. Gwraidd y broblem oedd mai trwy heintio’r claf gyda firws y mae modd cyflwyno’r “cywiriad”. Y syniad yw addasu’r firws nid yn unig i gario’r genyn dynol angenrheidiol a’i osod mewn miloedd o’i gelloedd ond gofalu nad yw’r firws ei hun yn beryglus i’r claf. Yn achos y dioddefwr X-SCID, mae’n ymddangos i’r firws osod y genyn ynghanol darn pwysig o’i DNA cynhenid. Cymhareb fyddai gosod cywiriad o gamgymeriad mewn llyfr rysetiau bwyd; ond yn lle ei osod ar dudalen wag – ei deipio i ganol ryset hollbwysig arall – gan ddifetha hwnnw. Yn 2003 mentrodd awdurdodau Tsieina ganiatáu’r therapi clinigol cyntaf yno. Bellach mae Ewrop wedi’i dilyn trwy awdurdodi Glybera gan uniQure o Amsterdam. Mae Glybera yn defnyddio AAV (adeno-associated virus) i gyflwyno genyn i gelloedd y cyhyrau. Cynnyrch y genyn yw ensym sy’n treulio braster yn y gwaed. Bydd absenoldeb yr ensym yn achosi math poenus iawn o glefyd y cefndedyn (pancreatitis). Er ei fod yn glefyd prin iawn (tua un ym mhob miliwn o’r boblogaeth), fe all fod yn farwol. Cred yr awdurdodau fod manylion proses uniQure gyda’r AAV yn ddigonol i’w ganiatáu. Mae hon yn garreg filltir o bwys mewn meddygaeth. Yn awr mae’r cwmni yn ceisio ei gyflwyno i’r Unol Daleithiau (lle nad oes eto’r un enghraifft o therapi genynnau) a gwledydd eraill. Mae’n debyg bod defnyddio AAV ar gyfer mathau o haemoffilia a phroblemau’r retina ar eu ffordd – ynghyd â threialon clinigol technegau tebyg i glefyd Parkinson a Dystroffi’r Cyhyrau.
Cyflwyno doniau o fath gwahanol i anifeiliaid oedd yr hanes mewn erthyglau diweddar yn Current Biology. Yn gyntaf adroddiad gan wyddonwyr o Sefydliad Mamaliaid Môr, San Diego, bod un o’u morfilod Beluga wedi dechrau siarad Saesneg. Yn 1977 daliwyd anifail, a enwyd yn Noc, pan oedd yn ifanc iawn. Erbyn 1984, roedd yn creu synau rhyfedd. Un bore synnwyd un o’r staff a oedd yn nofio yn y tanc pan glywodd y geiriau “out ! out ! out !”. Meddyliodd mai un o’i gydweithwyr oedd yn ei rybuddio. Ond ar ôl ymchwilio – y Beluga oedd yn “siarad”, neu o leiaf yn dynwared. Yna yn y rhifyn nesaf, bu adroddiad am eliffant, o’r enw Koshik, yn siarad iaith Korea – lle bu’n byw am gyfnod sylweddol ar ben ei hun mewn Sw. Datblygodd eirfa, gyfyng braidd, o bum gair – gan gynnwys “da” a “helo”. Y rhyfeddod yw nad oes gan eliffantod wefusau – a bu rhaid i Koshik osod ei drwnc yn ei geg i greu’r synau. Ond, yn ôl yr erthygl, bellach nid yw’r eliffant bach unig mor rhugl yn ei iaith fabwysiedig. Fe gafodd gariad eliffantaidd, a bellach yn ei hiaith hi yn unig y mae’n llefaru. Dylanwad y ferch yn amlwg ar iaith yr Aelwyd !
Pynciau: Ap App, Therapi, Anifeiliaid yn siarad