Barn 59 (Tachwedd 2012)

Nid Celtic from the West (gol Barry Cunliffe a John Koch, 2010) yw’r darllen-amser-gwely hawsaf imi ymgymryd ag ef yn ddiweddar – ond mae’n gyfrol llawn honiadau a sylwadau newydd am ein hanes a ddylai fod yn rhan o wybodaeth gyffredinol pob Cymraes a Chymro. Dau honiad sy’n newydd i mi. Yn gyntaf, mai ar arfordir gorllewin Ewrop – o Bortiwgal i ynysoedd Erch – yr eginodd yr ieithoedd Celtaidd cyntaf o’u rhagflaenydd Indo-Ewropeaidd ac yn ail mai camgymeriad yw uniaethu siaradwyr yr ieithoedd hyn â’r gelf Geltaidd a gysylltwn â gwrthrychau oes haearn Hallstadt a La Tène (a Llyn Cerrig Bach). Darllenwch y gyfrol, sy’n ffrwyth cynhadledd yn Aberystwyth yn 2008, i benderfynu drosoch eich hun beth yw “Celtigrwydd”.  Ar lefel ehangach, ers degawd bu ceisiadau i ddefnyddio’r wybodaeth sydd ynghlwm yn ein DNA i ddyfalu pwy oedd ein cyndadau Ewropeaidd hynaf, beth bynnag oedd eu hiaith. Datblygodd tybiaeth bod canran sylweddol ohonom yn olrhain ein hachau yn ôl yr holl ffordd i’r ychydig unigolion a fentrodd i’r gogledd orllewin wrth i rewlifoedd Oes yr Ia gilio. Digwyddodd y gwladoli cynnar hwn ryw 12000 o flynyddoedd yn ôl.  Pan ddadansoddwyd fy mitocondria a’m cromosom Y gyda thechnoleg amrwd canol y dimdegau ar gyfer rhaglen Hel Achau S4C, dyna oedd yr awgrym amdanaf fi, er enghraifft  (ar ochr fy mam a’m tad).   Ond mae papur a ymddangosodd yn Current Biology ym mis Awst wedi cynhyrfu’r dyfroedd yn llwyr.  Mae Federico Sanches-Quinto, a’i gydweithwyr a Farselona a sawl canolfan ymchwil arall, wedi dadansoddi DNA dau ysgerbwd Mesolithig, 7000 blwydd oed,  o La Braña-Arintero yn nhalaith Leon yng Ngogledd Sbaen.  Yn Ewrop, yr oes Fesolithig yw’r cyfnod rhwng diwedd yr Oes yr Ia ddiwethaf ac ymddangosiad amaethyddiaeth. Daeth amaethyddiaeth i Orllewin  Ewrop tua 5000 o flynyddoedd yn ôl, sef miloedd o flynyddoedd ar ôl marwolaeth y ddau unigolyn o La Braña.  Y syndod cyntaf oedd darganfod pa mor debyg oedd manylion dilyniant DNA’r esgyrn i’r nifer bychan o ganlyniadau tebyg o ganol a gogledd Ewrop.  Roedd poblogaeth Ewrop yn yr oes Fesolithig yn syndod o unffurf – yr hyn a ddisgwylid pe baent i gyd yn ddisgynyddion y dyrnaid o fewnfudwyr blynyddoedd cilio’r rhew.  Ond mae’r ail ganlyniad yn fwy trawiadol. Ychydig iawn o’r 50000 o’r SNPiau (single nucleiotide polymorphism) a ddefnyddir i gymharu poblogaethau sydd yn debyg i boblogaeth bresennol Sbaen a’r Eidal.  Er bod y data am y cyfandir i gyd yn dal yn denau, yr awgrym yw nad ydym yn medru olrhain ein hachau i’r boblogaeth fesolithig, ac mai gyda’r ffermwyr cyntaf a fudodd o’r dwyrain canol y daeth ein cyndadau i Orllewin Ewrop a Chymru. Eu DNA hwy sy’n rheoli ein celloedd. Yr unig grŵp sydd efallai yn wahanol yw’r Saami o’r gogledd pell. Hwy, mae’n debyg, yw’r boblogaeth hynaf yn Ewrob.

Fe’m cynhyrfwyd gan hanes arall am DNA yn ystod y mis, un yn ymdrin â newidiadau ar lefel oriau yn hytrach na milenia ac yn ymwneud â’m diddordeb diweddar mewn gwenyn.  Ers dyddiau Darwin gwrthodwyd y syniad fod modd etifeddu yn fiolegol nodweddion a ffurfiwyd mewn un genhedlaeth gan y genhedlaeth nesaf .  Syniad oedd hwn a ddisgrifir yn “Lamarcaidd” ar ôl y biolegydd o Ffrainc a’i hawgrymodd. Ond dros y ddegawd ddiwethaf sylweddolwyd nad trwy’r dilyniant DNA yn unig mae nodweddion etifeddol yn symud o genhedlaeth i genhedlaeth. Un enghraifft o’r effeithiau epigenetig hyn yw gosod tagiau cemegol ar enynnau unigol i’w tawelu neu eu cynhyrfu wrth eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf.  Fel arfer ailosodir y rhain i’r “default” yn yr wy ffrwythlon, ond nid bob tro. Yr eithriadau hyn sy’n trosglwyddo ffactorau “Lamarcaidd”.  Oblygiadau hyn sydd y tu ôl i wyddoniaeth Gwobr Nobel Meddygaeth eleni a ddyfarnwyd yn gynharach yn y mis i John Gurdon and Shinya Yamanaka am eu darganfyddiadau ym myd datblygiad ac ailraglennu celloedd y corff. Ond cyfraniad gwenyn ?  Yn Nature Neuroscience fis Medi cyhoeddwyd papur gan Brian Herb a’i gydweithwyr o Ysgol Feddygol Johns Hopkins yn disgrifio newidiadau epigenetig sydd wrth wraidd newid ymddygiad am y tro cyntaf.  Yr ymddygiad dan sylw yw’r newid ymhlith gweithwragedd y gwenyn o’u swydd yn meithrin y cynrhon a’r crwybr i fod yn helwragedd paill a neithdar. Yn draddodiadol ystyriwyd mai treigl amser a henaint oedd yn gyfrifol am y newid hwn. Yn gyntaf, dangosodd Herb fod newidiadau yn nhagiau epigenetig 155 o enynnau’r gwenyn wrth iddynt droi at hela. Yna dyfeisiodd fodd i’w troi yn ôl yn feithrinwragedd. Un diwrnod, pan oedd yr helwragedd allan yn brysur yn hela, tynnwyd yr holl feithrinwragedd o’r nyth. Pan ddychwelodd yr helwyr, nid oedd neb i dderbyn ffrwyth eu helfa. Dros gyfnod o oriau yn unig, newidiodd nifer ohonynt yn ôl i’w ffurf flaenorol i lenwi’r bwlch. Pan ddadansoddwyd yr adnewidiad gwelwyd fod 57 o dagiau’r DNA wedi newid yn ôl hefyd. A’r awgrym yw mai hwn oedd yn gyfrifol am y newid ymddygiad.. Dyma’r tro cyntaf i’r broses dagio hon gael ei chanfod yn ymwneud ag ymarweddiad. Y sialens yn awr yw chwilio am ddigwyddiadau tebyg wrth i anifeiliaid eraill – gan gynnwys dyn – newid ymddygiad. Mae’r oblygiadau yn enfawr – gan gynnwys y posibilrwydd fod patrymau ymddygiad a ffurfiwyd mewn un genhedlaeth yn ymddangos yn y nesaf.

Un ymddygiad hollol reddfol yw hoffter adar a chreaduriaid eraill o ffrwyth lliwgar. Un o’r lliwiau hyn yw glas. Yn aml mewn natur nid pigment sy’n gyfrifol am las llachar – megis plu’r paun – ond strwythur o ddrychau a phrismau microsgopig. Hwy sydd wrth wraidd symudliw ieir bach yr haf a chwilod. Cyn hyn yr iâr fach yr haf Morpho o Dde’r Amerig oedd yn hawlio’r wobr, ond yn PNAS y mis diwethaf disgrifiwyd eirin Pollia condensata o dde’r Sahara fel y lliw glas symudliw mwyaf tanbaid ym myd natur.  Gan mai strwythur yn hytrach na chemegyn sy’n gyfrifol, mae’r lliw yn para ar ôl i’r ffrwyth syrthio o’r llwyni a chrino. Dywed yr awdures, Beverley Glover o Brifysgol Caergrawnt, bod eirin hanner can mlwydd oed i’w gweld mor llachar â rhai ffres. Tybed a oedd y rhain yn rhan o fwydlen ein cyndadau Mesolithig o ogledd Affrica ? Efallai y dylai rhywun ddweud wrth David Cameron am ei arwyddocâd i liw ei blaid ?