Noson Cafe Scientifique yn un o gaffis Bangor oedd yn gyfrifol am ein gwyliau yng Ngwlad yr Iâ eleni. Margaret Wood ac Angela Honey o GeoMôn oedd yno’n sôn am siwrnai Cymru ar draws wyneb y ddaear o’i gwreiddiau tectonig fel sglodyn dinod yn ystlys cyfandir cyn-hanes Gondwana ryw 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl ymhell i’r de o’r cyhydedd. Ymddangosodd y micro-cyfandir hwn megis asen o Adda. Gelwir hi, bellach, yn Afallon. Darn yn unig ohoni yw Cymru – roedd Lloegr, a Gweriniaeth Iwerddon, ond nid yr Alban, yno hefyd. Daw’r enw, nid oherwydd gwybodaeth daearegwr rhamantaidd am gerddi T. Gwyn Jones, ond o benrhyn bychan yn Newfoundland. Roedd y penrhyn hwnnw – a Boston Massachusetts – yn rhannu’r un cilcyn o ddaear â ni. Tua blwyddyn yn ôl, dinoethwyd ym Mangor rai o’r union greigiau a ffurfiwyd yn nhân geni Afallon. Wrth i chi ddarllen y geiriau yma, byddant yn diflannu unwaith eto o olau’r haul o dan seiliau adeilad newydd Pontio Prifysgol Bangor. Cysylltiad a naddwyd yn y graig rhwng dwy Brifysgol! Beth ddigwyddodd i’n rhannu?
Yn y 60au derbyniodd y Brif Ffrwd mai symud platiau tectonig sy’n creu patrwm y cyfandiroedd. Dysgais gan fy nhad, a oedd yn athro daeareg, fod Ewrop a’r Affrig wedi ffitio i arfordir dwyreiniol yr Amerig ar un adeg, fel darnau jig-so. Rhwygwyd y ddau gyfandir ar wahân wrth i’r platiau symud i’r gwrth gyfeiriadau gan arnofio ar lifeiriant y fantell. Y fantell yw’r haen drwchus led-hylifus o’r ddaear rhwng y grawen galed ond tenau (llai na 100 milltir) o dan ein traed a’r craidd hylif 2000 milltir oddi tanom. Yn y modd hwn holltwyd Afallon a rhannwyd Bangor a Boston.
Tan y blynyddoedd diwethaf, y ddamcaniaeth oedd mai dim ond haen uchaf oll y fantell oedd yn rhan o’r peiriant hwn. Ymddangosodd yn eithaf trefnus, megis grisiau symudol mewn siop aml-lawr yn diflannu ar ddiwedd y siwrnai ond yn ail godi yn ôl ar ei chychwyn. Araf iawn yw’r symud ar y wyneb; ychydig gentimedrau’r flwyddyn yn unig. Bellach mewn cyfres o bapurau ymddengys fod y byd yn llawer mwy symudol ac anhrefnus na hyn. Anodd iawn yw “edrych” i grombil y ddaear, ond deil rhai bod yr holl fantell yn rhan o’r broses. Iddynt hwy mae diwedd y “grisiau symudol” yn plymio’r holl ffordd at wyneb y craidd a bod sawl ffordd y daw’r darnau yn ôl i’r wyneb. Er enghraifft, mewn papur yn Nature mae grŵp Nicky White o Gaergrawnt yn disgrifio darn o waelod y môr ger yr Alban. Heddiw mae modd gweld olion tirwedd dau gilomedr o dan y gwaddod ar waelod y môr na allai fod wedi ei ffurfio ond ar dir sych – bryniau a chymoedd lle gynt llifai afonydd. Wrth ddadansoddi sut y newidiodd cwrs yr afonydd hyn gydag amser roedd modd i’r daearegwyr dangos iddynt gael eu codi hyd at dair mil o droedfeddi uwchben lefel y môr (uchder yr Wyddfa) cyn eu gollwng unwaith eto i ddyfnderoedd y môr – ac yna’u gorchuddio â chwe mil troedfedd o waddod. Hyn oll mewn cwta filiwn o flynyddoedd. Mae hyn yn llawer iawn cynt nag a fyddai’n bosibl trwy symud trefnus platiau tectonig confensiynol. Dadl White yw mai globyn tawdd yn codi o’r dwfn yn y fantell, megis “lava lamp” o’r 60au oedd yn gyfrifol. Ei gyffelybiad graffig yw llygoden fawr yn symud o dan garped ! A’r cyswllt gyda Gwlad yr Ia ? Cred White mai’r un globyn sy’n bwydo llosgfynyddoedd yr ynys honno sydd heddiw filoedd o droedfeddi’n uwch na gweddill y rhaniad rhwng America ac Ewrop. Llosgfynyddoedd, megis Eyjafjallajőkull (ynganer y ddwy “ll” yn debyg i’r Gymraeg) a ddylanwadodd yn sylweddol ar economi Ewrop yn ddiweddar.
Rhwng 6 a 7 mil gradd canradd yw’r amcangyfrif gorau presennol o dymheredd canol craidd y ddaear sy’n gyrru’r symudiadau hyn. Mae hyn fesul rhewbwynt dŵr i’w gymharu â’r tymheredd a grëwyd dros yr haf yn y Gwrthdrawydd Hadron Mawr ger Genefa. Ychydig ddiwrnodau ar ôl i Rhodri Jones draddodi prif Ddarlith Gwyddoniaeth a Thechnoleg (tra-amserol a dylai pob un â diddordeb mewn gwyddoniaeth yn Gymraeg fynnu copi o hon) yr Eisteddfod Genedlaethol ar ei “degan” rhyfeddol, cyhoeddwyd mewn cynhadledd yn Washington DC fod ffisegwyr Genefa wedi creu’r tymheredd poethaf erioed mewn arbrawf ar y ddaear. Trwy yrru dau baladr o ionau plwm at ei gilydd, mewn modd tebyg i’r gwrthdrawiad protonau a arweiniodd at ymddangosiad tebygol Boson Higgs yn gynharach, cyrhaeddwyd tymheredd o 5 triliwn gradd canradd. Honna CERN mai am amrant, dyma fan poethaf y Galaeth. Llwyddwyd i wneud hyn yn ôl yn 2010, ond nid oedd modd mesur y tymheredd ar y pryd. Fel yr esboniodd Rhodri, ail greu plasma cwarc-glwon a fodolai ficroeiliadau ar ôl y Glec Fawr ar ddechrau amser, 13.75 biliwn o flynyddoedd ynôl, yw’r amcan. A’r nod yw deall natur y cyfnod cynharaf – a’r modd y newidiodd y meinweoedd cynharaf i’r mater cyfarwydd o brotonau a niwtronau sydd o’n cwmpas heddiw.
Ond nid tymheredd yw’r unig beth sy’n newid gydag amser. Ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod dienyddiwyd Marvin Wilson am lofruddiaeth yng Ngharchar Huntsville, Texas. Nid yw hyn yn beth anghyffredin yn y dalaith honno, lle ceir mwy o ddienyddiadau nag mewn unrhyw dalith arall.. Yr hyn a gydiodd yn y penawdau oedd IQ Wilson. Ers 2002, fel arfer yn yr Unol Daleithiau, mae canlyniad isel (dan 70) yn ddigon i liniaru’r gosb eithaf. Yn achos Wilson, nid oedd cytundeb am ei IQ. Un rheswm am hyn oedd ffenomen sydd newydd ei darganfod – effaith Flynn; a enwyd ar ôl James Flynn, cyn athro Gwyddor Gwleidyddiaeth Prifysgol Otago. Ymddengys dros y byd fod canlyniadau IQ pobl yn cynyddu’n gyson. Yn yr Unol Daleithiau mae hyn ar raddfa hyd at 3 phwynt y degawd. (Cyhoeddwyd llyfr Flynn, Are we getting smarter ? Rising IQ in the twenty-first century, gan CUP ym mis Medi.) Un ddadl yw bod amgylchiadau’r byd modern – gyrru ceir, chwarae gemau cyfrifiadur – yn hyfforddi’n ymennydd i fedru sgorio’n well na’n cyndadau. Yng Nghyfundrefn Cyfiawnder yr UD, gall achos carcharor bara am ddegawdau – a dibynna’r dyfarniad byw neu farw ar brofion ddegawd neu fwy ynghynt. Heb gonsensws Barnwyr, hap yw ffawd rhywun sy’n agos i’r ffin. Mae’r gymdeithas broffesiynol sy’n cynrychioli seicolegwyr y maes hwn, yr AAIDD, yn prysur baratoi cyfeirlyfr i’r llysoedd a fydd yn pwyso arnynt i ystyried effaith Flynn. Diolch i’r drefn nad yw hyn yn ystyriaeth yr ochr hon i’r Iwerydd. Gallwn ddiolch i’r grymoedd ymhell o dan ein traed a holltodd Afallon am hynny.