Barn 54 (Mai 2012)

Sut mae mesur beth oedd dwysedd yr awyrgylch 2.7 mil miliwn o flynyddoedd yn ôl ?  Defnyddio cawod ffosil o law, wrth gwrs.   Dyna wnaeth Sanjoy Som o Brifysgol Washington, Seattle yn ddiweddar – a chyhoeddi’r canlyniadau yn Nature.  Sut mae dod o hyd i gawod ffosil ?  Tua 2.7 biliwn o flynyddoedd yn ôl bu echdoriad folcanig lle bellach mae De’r Affrig. Taenwyd o’i amgylch haen o ludw ysgafn. Cyn i’r lludw galedu daeth cawod o law – gan adael olion man glanio’r diferion unigol. Yno y maent yn y graig hyd heddiw. Trwy gymharu’r olion ffosil â chanlyniad  diferu dŵr ar ludw ffres yn y labordy, roedd modd i Som amcangyfrif cyflymder diferion y glaw cyn-hanesyddol. Gan y byddai’r cyflymder wedi newid yn ôl dwysedd yr awyr, roedd modd iddo bennu gwerth o nid mwy na 1.3 g/litr i’r dwysedd. Rhywbeth tebyg i’r 1.2 g/litr heddiw.  Fawr o newid, felly, dros hanner oes y byd. Ond mae hyn yn creu problem i seryddwyr.  Roedd yr haul yr adeg honno yn sylweddol llai llachar nag ydyw heddiw, ond mae tystiolaeth arall yn dangos i’r awyrgylch fod yn gynhesach na’r awyrgylch bresennol.  Cyn adroddiad Som, y gred oedd mai awyrgylch trwchus a dwys – yn ymddwyn fel blanced o nwyon tŷ gwydr – oedd yn gyfrifol.  Bellach mae angen ateb arall.

Ffosil o fath mwy confensiynol a gynhyrfodd y dyfroedd ar ddechrau mis Mawrth eleni.  Yn nhalaith Yunnan o Tsiena darganfuwyd nifer o benglogau dynol tua 11,500 o flynyddoedd oed. Bedyddiwyd eu perchnogion yn bobol Ogof y Carw Du. Yr hyn oedd yn annisgwyl yw eu bod yn debycach o lawer i Homo sapiens cynnar, cant a mwy o filoedd o flynyddoedd yn hŷn, nag ydynt i unrhyw ddyn modern.  Dyma godi’r cwestiwn a ydynt yn cynrychioli rhywogaeth ddiweddar arall o ddynoliaeth yn dilyn y ddwy newydd a ddarganfuwyd yn y blynyddoedd diwethaf – Hobitiaid ynys Fflores (ryw 15,000 o flynyddoedd oed) a Denisofiaid Siberia (tua 40,000 o flynyddoedd yn ôl).  A gosod hyn mewn cyd-destun Cymreig –  mae  olion “Ladi” Goch Pafiland yn profi bod Homo sapiens modern wedi hen ymsefydlu yng Nghymru erbyn 33,000 o flynyddoedd yn ôl. Hyd yma ni lwyddwyd i dynnu DNA o olion yr esgyrn newydd. Pan ddigwydd hyn, cawn ddeall ym mha le yn ein cart achau y cânt fod.

Pwy bynnag yr oeddynt, mae’n debyg i’r holl rywogaethau hyn ddefnyddio tân mewn ryw fodd i goginio’u bwyd.  Mae olion yr aelwydydd diymwad cynharaf  tua 400,000 o flynyddoedd oed, cyn ymddangosiad dynion modern.  Ond mewn papur yn PNAS ym mis Ebrill honna Michael Chazan o Brifysgol Toronto ei fod wedi canfod tystiolaeth fod Homo erectus yn defnyddio tân i goginio dros filiwn o flynyddoedd yn ôl. Daw’r dystiolaeth o ogof Wonderwerk yn Ne’r Affrig lle  daeth o hyd i esgyrn anifeiliaid – gan gynnwys crwbanod – wedi’u llosgi tua 30 metr o geg yr ogof.  Dadleua y byddai hyn yn rhy bell i fod yn ganlyniad tanau gwyllt. Nid oes awgrym, er hynny, y byddai’r dynion wedi medru cynnau tân yn fwriadol, dim ond ei gasglu yn achlysurol o’r gwyllt.  Ond mae’r awgrym yn bwydo’r dadleuon ynglŷn â beth yn union oedd y ffactorau a fu’n gyfrifol am esblygu safn ysgafn dynion modern tua 1.9 miliwn o flynyddoedd yn ôl.  Dadleua Richard Wrangham o Brifysgol Havard, a’i debyg, i goginio chwarae rhan yn hyn. Nid oes angen safn cyn gryfed i gnoi bwyd wedi’i goginio. Wrth leihâi’r angen am angoriad sylweddol cyhyrau’r safn roedd modd i’r benglog ei hun ymestyn a chaniatáu ymennydd mwy.  Hefyd, mae angen llai o egni i dreulio bwyd sydd wedi’i goginio a gellir defnyddio’r egni a ryddheir i fwydo’r ymennydd mwy. Mae gweithgaredd yr ymennydd dynol yn creu canran sylweddol o holl angen egni’r corff.  Ar hyn o bryd, mae Wrangham yn cytuno nad yw’r dystiolaeth yn bodoli am ba mor gyffredin oedd Dudley Newberys cyfnod y paleolithig. Felly damcaniaethol o hyd yw’r syniad bod ein coginio wedi ffurfio ein rhywogaeth yn un damcaniaethol.

Mewn papur arall yn PNAS disgrifiwyd enghraifft bendant o fwyd yn effeithio ar esblygiad anifail. Mae’n ymddangos nad oes gan yr udfil (yr hyena), a nifer o famaliaid eraill sy’n gigysyddion, “ddant melys”. Yn wir, nid ydynt yn blasu siwgr o gwbl. Mae’n debyg mai absenoldeb siwgr yn eu porthiant arferol sy’n gyfrifol am hyn.  Ar y llaw arall, ychydig iawn o flasbwyntiau (taste-buds) sydd gan gŵn. Priodoledd sy’n gyfrifol am y ffaith eu bod yn fodlon bwyta unrhyw beth !  Rhywbeth i’w ystyried wrth wylio’r hysbysebion bwyd ci ar y teledu.

Ond papur yng nghylchgrawn Nature sy’n cael y wobr am esblygiad i mi y mis hwn.  Y  gred gyffredinol yw bod angen asgwrn cefn mewn anifail cyn bod modd iddo ddatblygu ymennydd patrwm cymhleth – o’r un anian ag un ni – gyda phatrymau o ganolbwyntiau nerfol.  Yn nhrefn esblygiad, ymennydd syml sydd gan ein perthnasau di-asgwrn-cefn agosaf – megis y chwistrell fôr a’r pysgodyn pengoll (lanceled).  Ond yn awr mae Chris Lowe, o brifysgol Stanford, yn cwestiynnu hyn ar ôl darganfod elfennau ymennydd cymhleth, er yn llawer llai,  mewn mwydyn  o’r enw Saccoglossus kowalevskii sy’n bellach oddi wrthym, yn nhermau esblygiad, na’r chwistrell fôr. Yn ogystal, mae wedi canfod proteinau ynddo sy’n cyfateb i’r rhai sy’n gyfrifol am ddatblygiad canolbwyntiau nerfol ein hymennydd cymhleth ni. Mae labordai eraill wedi medru dyddio ymddangosiad y proteinau hyn i dros 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Dadleuir na fyddai angen esblygu’r proteinau oni bai bod ymennydd cymhleth gan eu perchnogion. Ond nid yw’n amhosibl i’r proteinau dyfu’n anweithredol wedi hynny,ond gan atgyfodi miliynau o flynyddoedd yn hwyrach. Os yw hyn yn wir, efallai i’r ymennydd patrwm cymhleth ymddangos yn gynnar yn hanes esblygiad anifeiliaid, ond yna diflannu am gyfnod maith yn ein hachau ni. Mae’n bwysig cofio nad yw esblygiad yn broses sy’n cymhlethu pethau o hyd.  Weithiau mae angen symleiddio i oroesi helbulon yr amgylchedd. A oes gwers yma i’n cymdeithas ni, tybed ?