Barn 52 (Mawrth 2012)

A wyddech chi fod Bwjis yn dylyfu gên ?  Dim rhyfedd, meddech chi, heb ddim ond drych, cloch a thwba o ddŵr i’w cadw’n ddifyr yn eu cawell.  Mae nifer o anifeiliaid, gan ein cynnwys ni, yn gwneud yr un modd. Ers o leiaf 1508, pan ddisgrifiodd Erasmws hyn, sylweddolwyd bod dylyfu gên ymhlith pobol yn “heintus”. Pan oeddwn yn fyfyriwr, roedd coel gwrach gennym mai dim ond un dylyfiad oedd trwy’r byd i gyd, a ninnau dim ond yn ei fenthyg am foment cyn ei drosglwyddo i’r nesaf. Rywbryd, sylweddolwyd bod yr un peth yn wir am gŵn – ymysg ei gilydd a rhyngom ni a nhw.  Er mor gyffredin ydyw, nid oes neb yn cytuno beth yw pwrpas biolegol dylyfu gên, heb sôn am pam ei fod yn “catchin’”, fel y byddai nain yn ei ddweud. Mae defnydd iddo, ac rwy’n ei ddefnyddio i osgoi’r poenau arteithiol yn y clustiau sy’n dod wrth ddisgyn tuag at y maes awyr mewn awyren. Mae dylyfu gên yn gallu agor y tiwbiau Ewstachi sy’n rheoli’r gwasgedd yn y glust fewnol – ond go brin bod hyn wedi bod yn fater o esblygiad cyn i Wilbur ac Orville Wright greu’r awyren gyntaf yn 1903. Ond i ddychwelyd at y Bwjis. Treuliodd Andrew Gallup o Brifysgol Binghamton bymtheng niwrnod yn cyfrif dylyfiadau gên 21 o’r adar bach lliwgar hyn. Roedd pob un yn agor ei geg, hanner cau ei lygaid ac ymestyn ei war unwaith i deirgwaith yr awr. Ond y peth a gyfiawnhaodd gyhoeddi’r canlyniadau yn Behavioural Processes oedd iddo ddarganfod fod hyn yn fwy tebygol o ddigwydd yn syth ar ôl i aderyn arall yn y gawell ddylyfu gen.  Mae’r broses hefyd yn heintus ym myd y Bwjis, sy’n ymuno â phrimadau a chŵn yn hyn o beth.  Syniad yr awdur yw bod yr ymddygiad yma yn cydgordio sylw torfol yr adar pan fo bygythiadau. Nid dyma’r canlyniad y byddaf i’n ei brofi, rhaid cyfaddef, wrth ddylyfu gên yn braf o flaen y tân.

Mae’r creadur bach llygadog annwyl, y Tarsier o Ynysoedd y Philipinau, hefyd yn ymddangos fel petai’n dylyfu gên o bryd i’w gilydd. Ond yn ei chyfraniad diweddar i Biology Letters mae Marissa Ramsier o Brifysgol Humboldt Califfornia yn disgrifio beth ddigwyddodd wrth osod nifer o’r anifeiliaid hyn o flaen synhwyrydd uwchsain. Nid sibrwd cysglyd oedd i’w glywed, ond sgrechiadau swnllyd o uwchsain pur.  Dyma’r disgrifiad cyntaf o alwad uwchsain pur gan brimad (sef ein perthnasau agosaf ni). Gan nad yw’r rhan fwyaf o anifeiliaid ym medru clywed ar yr amledd o 70 kiloHerz (261 Herz yw C ganol – a 20kHz yw’r uchafsain dynol) mae hon yn sianel gyfathrebu breifat ymysg yr anifeiliaid bach.

Cynyddu amledd yw un o obsesiynau technegwyr cyfathrebu dynol wrth iddynt geisio cywasgu mwy a mwy o wybodaeth i lai a llai o amser. Mae galw am fwy o sianeli teledu, radio a thelathrebu i ddefnyddio’r sbectrwm electromagnetig cyfyngedig sydd ar gael. Ydych chi’n cofio Digit Al, wrth i Gymru troi’n ddigidol  ? Roedd y dyn bach tun yn gywir. Un ffordd o wneud hyn yw troi’r signalau analog yn ddigidol a’u casglu’n seiniau pur y gellir eu storio neu eu trosglwyddo’n gyflym ac yna eu hailgymysgu pan fo’r angen.  Dyfeisiwyd y fathemateg i wneud hyn gan Joseph Fourier yn 1807. Yn yr ugeinfed ganrif defnyddiwyd trawsffurfio Fourier i gywasgu a dadansoddi data o bob math. Yn fy ngwaith ‘rwy’n ei ddefnyddio i bwyso molecylau unigol, er enghraifft. Mae’n broses gyflym iawn, iawn. Ond ym mis Ionawr cyflwynodd Dina Katabi a’i chydweithwyr o MIT ffurf newydd ar y Fast Fourier Transform sy’n 10,000 gwaith yn gyflymach eto. Wrth wraidd y broses mae rhannu’r signal llawn i setiau o amleddau (nid annhebyg i holl nodau wythfedau ar biano) ac yna dewis yr amledd mwyaf dylanwadol o fewn y set. Gellir anwybyddu’r gweddill ym mhob set heb golli llawer o gyfoeth y signal analog cyfan.  O wneud hyn ni fydd angen defnyddio cymaint o bŵer ar fatris y dyfeisiadau trydanol llaw yma sy’n araf lenwi ein bywydau pob dydd.

O’i gymharu, araf yw tyfiant math o forwellt ar wely Môr y Canoldir a ddisgrifiwyd yn PloS One ym mis Ionawr.  Posidonia oceanica – Porfa Neifion – yw ei enw ac mae’n tyfu’n helaeth oddi ar y glannau o Sbaen i Gyprus.  O bryd i’w gilydd mae sypiau o’i ddail yn dod yn rhydd ac, wedi’i sychu, yn ffurfio peli bach crwn ar hyd y traethau. Yn y môr mae’r Posidonia yn ymestyn trwy glonio – megis Crafanc yr Iâr ar hyd fy ngardd innau bob tymor !  Gellir ystyried pob aelod o glôn felly yn rhan o un organeb, un planhigyn enfawr, gydag union yr un DNA ym mhob rhan ohono. Mae Carlos Duarte o Brifysgol Gorllewin Awstralia wedi dadansoddi’r DNA yma o nifer o lecynnau. Oddi ar ynys Formentera, 4 milltir i’r de o Ibiza, daeth o hyd i glôn tanfor o’r morwellt yn ymestyn am dros15 cilomedr.  Gan fod modd gwybod ar ba gyfradd mae’n tyfu, roedd modd cyfrifo oedran y clôn.  Yr ateb: rhwng 80,000 a 200,000 o flynyddoedd. Dyma organeb byw hynaf y byd. O’i chymharu, mae’r Binwydden Wrychog hynaf (o Ogledd America), a cyfeirir ati’n aml fel yr organeb mwyaf hirhoedlog, yn llipryn ifanc 5,000 oed.  Fe fyddai’r planhigyn hwn ar ei ben ei hun, o bosibl, mor hen â’r holl hil ddynol fodern – a gychwynnodd ei thaith yn yr Affrig tua 200,000 o flynyddoedd yn ôl.  A fyddai’r Bwji yn dylyfu gên mor aml pe bai’n gwybod hynny tybed ?