Beth yw blas melyn ? Beth am sain y lliw coch ? Dim syniad ? Pa liw, felly, yw’r llythyren M, neu Ddydd Iau ? Na, dydy’r flwyddyn newydd ddim wedi fy nrysu – ond mae erthygl yn y cylchgrawn PNAS wedi f’atgoffa am y ffenomen o Synaesthesia. I’r rhai hynny sy’n meddu’r ffenomen hon, mae cyflyru un o’u synhwyrau yn creu ymdeimlad mewn synnwyr arall. Tua 4% o’r boblogaeth sy’n profi rhyw fath o synaesthesia (gan gynnwys nifer o artistiaid a cherddorion), a bellach deallwn mai lleoliad agos y rhannau cyfrifol o’r ymennydd sydd wrth wraidd hyn. Cysylltu lliwiau gyda dyddiau arbennig o’r wythnos, neu â llythrennau a rhifau (graffemau) yw’r mwyaf cyffredin – tua 1% ohonom. Roedd yr hen Roegiaid yn ymwybodol o hyn ond yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg y cafwyd yr astudiaethau modern cyntaf. Bellach mae’n destun ymchwil o ddiddordeb eang wrth i seicolegwyr blymio’n ddyfnach i weithgareddau’r ymennydd. Mae papur PNAS Vera Ludwig a’i chydweithwyr o Berlin yn rhoi inni ddisgrifiad o synaesthesia yn ein perthynas agos, y tsimpansî. Dadleua Ludwig bod tystiolaeth am sut y datblygodd iaith ddynol o synau amrwd y mwncïod. Defnyddiodd y tîm 6 tsimpansî a 33 o bobl. Ar sgrin o flaen gwrthrych yr arbrawf – boed ddyn neu epa – fflachiwyd delweddau sgwariau du neu gwyn. Rhaid oedd ymateb trwy bwyso botwm o’r un lliw. Wrth i hyn ddigwydd, ar hap, chwaraewyd sain o drawiad isel neu uchel. Cafodd y sŵn ddylanwad ar yr ymateb. Roedd y bobl a’r tsimpansïaid, fel ei gilydd, yn gwneud yn sylweddol well yn y prawf wrth glywed sain o drawiad uchel gyda sgwâr gwyn, a thrawiad isel gyda sgwâr du ac yn waeth pan gymysgwyd y lluniau a’r sain i’r gwrthwyneb. Nid yn unig y mae hyn yn dystiolaeth am darddiad cynnar iawn y ffenomen o gyd-gysylltu synhwyrau ond yn dystiolaeth ei bod yn gynhenid – ac nid wedi’i dysgu. Yn 2001 gofynnodd seicolegwyr ym Mhrifysgol Califfornia i oedolion o gefndir iaith a diwylliant gwahanol gysylltu’r geiriau diystyr “kiki” a “bouba” gyda siapiau pigog neu grwn. Bron yn ddi-ffael cysylltwyd “kiki” a siapiau pigog a “bouba” a siapiau crwn. Mae’n debyg bod plant yn ei chael hi’n haws dysgu enwau gwrthrychau crwn os oes iddynt lafariaid crwn. Cred ymchwilwyr yn y maes y byddai’r ddawn hon wedi bod o gymorth wrth ddechrau datblygu ffurfiau’r iaith soffistigedig sydd gennym. Buasent wedi gosod rhyw fath o gyd-ddealltwriaeth cysylltiadau cynhenid wrth i’r primadau cynnar ddechrau ar hyd y daith sy’n arwain at gyd-ddeall a siarad.
Gwahanol yw presenoldeb sach awyr arbennig yng ngwddf pob primad, yn cynnwys y tsimpansî, heblaw am ddyn. “Bwla’r heioid” y gelwir y sach ac mae’n ychwanegu cryn dipyn o sŵn bas i leisiau’r anifeiliaid. Gwelir olion ohoni yn esgyrn ffosil ein cynfam tybiedig, Australopithecus afarensis, 3.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Ond cyn cyfnod Homo heidelbergensis, 600,000 o flynyddoedd yn ôl, diflannodd. Yn ddiweddar ymchwiliodd Bart de Boer, o Brifysgol Amsterdam, i effaith y bwla ar leisiau a hwylustod eu deall. Dylanwad y bwla yw gwneud i’r holl lafariaid ymdebygu i’w gilydd. Byddai hyn yn lleihau yn sylweddol y nifer posibl o eiriau y gellir eu ffurfio. Er enghraifft, byddai “pin” yn swnio fel “pen”, “pan” a “pwn”. Mae’n debyg i hyn ddigwydd i filwyr a ddioddefodd nwy gwenwyn yn ffosydd y Rhyfel Mawr wrth i olion festigiol y bwla chwyddo dan ddylanwad y nwy. Aeth de Boer un cam ymhellach trwy geisio dyfalu beth oedd y synau cyntaf. Er bod y bwla yn ymyrryd â llafariaid hefyd, llafariad yn dilyn cytsain yw’r mwyaf tebygol a “d” yn haws ei ffurfio cyn “y”. Ei gynnig felly, am yr hyn oedd y gair cyntaf yw “dy” – yn hytrach na “yg” hen ffilmiau Hollywood. Y peth sy’n fy nrysu i yw sut yr oedd adnabod Hwntws a Gogs yn yr amseroedd cynnar ?
Wn i ddim pa bryd y daeth diemwntiau yn boblogaidd ymysg merched, ond cyrhaeddodd par o rai bach dudalennau Science am reswm go arbennig yn ddiweddar. Fel y gŵyr darllenwyr Barn , ‘rydym yn byw trwy flynyddoedd cynhyrfus ym myd ffiseg. Cyn y Nadolig, bu cyhoeddiad petrus, braidd, am Boson Higgs. Hwnnw yn dilyn ar gynffon tân gwyllt y cyfryngau am y niwtrino cyflymach-na-goleuni a’r lliaws o jôcs. Ond mae yna un effaith, rhyfedd, ond uniongred, lle gwelir gwybodaeth yn symud yn gyflymach na goleuni. Yn 1935, fel rhan o’i ddadl yn erbyn damcaniaethau mecaneg cwantwm awgrymodd Albert Einstein, petai’n wir, y byddai modd i un o bar o wrthrychau ar wahân ymateb heb saib o gwbl i newid mewn gwrthrych arall. Byddai gwybodaeth yn “symud” mewn dim amser – ac felly yn gynt na goleuni. Bedyddiodd Erwin Schroedinger y broses yn “Verschränkung” – cydymblygiad (entaglement, yn Saesneg). Nid tan bron ugain mlynedd ar ôl marwolaeth Einstein y dangoswyd mewn arbrawf bod y ffenomen yn bod. Bellach ceir cryn drafod hyn ym myd bach y cwantwm.
Rai misoedd yn ôl soniais yn y golofn hon am arbrawf lle mae ffisegwyr yn ceisio symud ymddygiad cwantwm tebyg i’r byd macrosgobig . Wel – macrosgobig os ystyriwch firws yn “fawr” ! Bellach mae Ka Chung Lee a Michael Sprague, o Brifysgol Rhydychen, wedi gosod dau ddiemwnt, 3 mm o led, mewn cyflwr cydymblygiad cwantwm. Mae’r cyflyrau yma mor ansad, fel bod rhaid, fel arfer eu hoeri at yn agos i sero absoliwt ( -273.15 ºC) a bu rhaid gwneud hyn i’r firws “Schroedingaidd”. Ond yn yr achlysur yma bu modd creu’r cyflwr ar dymheredd cyffredin y labordy. Ond i wneud hyn bu raid cwblhau pob mesuriad o fewn 10-13 eiliad (0.0000000000001 eil). Un fantais oedd bod modd gwneud llawer o arbrofion unigol. Dangoswyd cydymblygiad rhwng y ddau ddiemwnt pob tro mewn 200 triliwn arbrawf ! Pa mor hir, tybed, cyn y bydd ryw dywysoges o Saudi Arabia yn gofyn am glustdlysau o’r fath ? Yn ymarferol mae hyn yn dangos bod modd gweld, a defnyddio, effeithiau rhyfeddol y cwantwm yn fwyfwy mewn teclynnau ein byd “macro” ni. Aii dyma’r nod i dîm “synchronised swimming” yr Olympics ?