Wn i ddim a fyddai’n weddus i Ferched y Wawr ddechrau trefnu rhywbeth tebyg i’w haelodau, ond mae merched ym myd mwncïod Assam (Macaca assamensis) wedi darganfod y gyfrinach o garu gyda’u hoff bartneriaid gan gadw’r holl “alffa males” yn hapus yr un pryd. Yr ateb yw iddynt oll garu ar yr un diwrnod ! Ni all y prif fwncïod gwryw baru gyda’r cwbl – felly mae modd i’r rhan fwyaf o’r merched ddewis partneriaid eraill. Dyma ddarganfyddiad diweddar Ines Fürtbauer o Brifysgol Göttingen. Fel gydag aelodau Merched y Wawr, nid oes nod allanol i ddangos pa adeg o’r flwyddyn y mae “Merched y Jwngl” yn ffrwythlon. Ond wrth ddadansoddi baw yr anifeiliaid gwelodd Fürtbauer nad oeddynt wedi syncroneiddio eu cylchoedd cenhedlu er gwaetha’r ymddygiad torfol yma. Gan nad oes modd i’r gwrywod wybod pa rai o’r benywod sy’n ffrwythlon, cred y sŵolegydd mai trwy wneud hyn mae modd i’r benywod benderfynu pwy fydd tadau eu plant. Gallwch ddarllen y manylion “News of the Worldaidd” yng nghylchgrawn PloS One diwethaf.
Dewis tebyg oedd testun erthygl gyfredol gan Craig Roberts, o Stirling, yn y Proceedings of the Royal Society. Mae merched sydd ar y bilsen atal cenhedlu yn fwy tebygol o ddewis partner a fydd yn cynnal perthynas mwy hirhoedlog na merched sydd heb fod yn cymryd y bilsen. Cadarnhaodd yr ymchwil hwn, a wnaethpwyd ar 2500 o ferched, astudiaethau labordy a oedd wedi dangos bod y bilsen yn newid y math o ddyn a oedd yn apelio. Un esboniad yw, bod y bilsen wrth efelychu bod yn feichiog yn cryfhau’r awydd am ddewis partneriaid a fyddai’n fwy tebygol o fod yn ffyddlon. Yn ystod y cylch arferol mae wynebau dynion a gysylltir â genynnau “da” ond sy’n ymddwyn yn anwadal yn apelio. Heb y cylch mae hyn yn newid. Ar gyfartaledd, roedd y 1000 o ferched a gymerodd y bilsen wrth ddewis yn fwy bodlon eu byd, yn mwynhau teyrngarwch a chefnogaeth ariannol. Y pris i’w dalu oedd bod y 1500 nad oedd wedi bod ar y bilsen yn ystadegol fwy tebygol o gael boddhad yn y gwely. Ond dyna ddigon, mewn cylchgrawn i’r teulu, fel Barn, gwell imi droi at destun arall !
Wn i ddim beth yw effaith y bilsen ar fleiddiaid, ond mae adroddiad yn y cylchgrawn Behavioural Processes yn awgrymu nad ydynt mor gyfrwys ag yr oeddem wedi arfer meddwl. Sawl gwaith y’n cynhyrfwyd gan raglen byd natur wrth weld haid o fleiddiaid yn corlannu eu hysglyfaeth ac yn eu gyrru tuag at un a oedd yn aros i wneud ambush. Onid yw sgiliau cyd-weithio trefnus a deallusrwydd yr anifeiliaid yn hynod ? Nid felly, medd y mathemategwyr o Goleg Amherst. Creodd Raymond Coppinger, a’i dim, raglen gyfrifiadur i esbonio’r ymddygiad trwy ddefnyddio dwy reol robotaidd syml. Yn y rhaglen symudodd pob blaidd at yr ysglyfaeth nes cyrraedd pellter diogel arbennig. Yna symudodd i ffwrdd o unrhyw flaidd arall a oedd yr un pellter o’r ysglyfaeth. Ar sgrin y cyfrifiadur roedd ymddygiad y “bleiddiaid” yn union yr hyn a welir go iawn, gyda’r cigysyddion yn amgylchynu’r ysglyfaeth. Os oedd yr ysglyfaeth yn symud i’r dde neu’r chwith, roedd un o’r bleiddiaid yn tynnu’n ôl – i gadw ei bellter o’i gyd fleiddiaid – ac yn ymddangos yn union fel petai’n aros yn unswydd am yr ambush. Y ddadl yw nad oes llawer o gydweithio ymysg yr haid wrth hela. Yn fwyfwy mae’n ymddangos nad er mwyn hela y mae bleiddiaid a llewod yn byw mewn grwpiau. Nid oes, er enghraifft, fantais hela mewn haid fawr o’i gymharu â haid fechan.
Mae medru gweld yn amod y ddau ymddygiad uchod. Ymgais i geisio rhoi rhyw fath o olwg i’r dall oedd i’w weld yn PNAS ym mis Hydref. Mae pob un ohonom, mae’n debyg, wedi “gweld sêr” ar ryw achlysur. Codi’n rhy gyflym – neu daro pen ar drawst isel, efallai. Yr enw a roddir i’r fflachiadau bach o olau yw “ffosffenau”. Mae’r deillion yn eu profi, yn yr un modd â phobl sy’n gweld. Aeth Peter Schiller o MIT ati i astudio’r ffenomen mewn mwncïod – nid annhebyg i rai Assam. I gychwyn, hyfforddodd Schiller y mwncïod i ymateb i fflachiadau ar sgrin. Yna, trwy ddefnyddio electrodau yn rhannau priodol ymennydd yr anifeiliaid dechreuodd greu patrymau ffosffenau ynddynt. Trwy astudio ymateb y mwncïod roedd modd iddo fapio lleoliad, maint a lliw’r ffosffenau yma. Nod Schiller yw cysylltu electrodau ym mhennau pobl ddall gyda chamera bychan er mwyn cyflwyno rhyw fath o olwg iddynt.
Nid hwn oedd yr unig hanes am electrodau ymennydd a ddaliodd fy sylw y Nadolig hwn. Flwyddyn yn ôl collais gwmni cyfaill ar y bws o Fangor i Lanllechid wrth i’r Athro David Linden a’i deulu symud o Rachub (prynodd fy mam eu tŷ) i Gaerdydd. Da oedd gweld hanes am ei waith diweddaraf ar glefyd Parkinson ar dudalennau’r Journal of Neuroscience. Mae defnyddio’r electrodau yn gallu lleddfu peth ar symptomau’r clefyd creulon hwn. Syniad Linden oedd y dylai fod modd i’r cleifion ddefnyddio’u hewyllys i danio’r un celloedd yn y pen. Y gyfrinach yw dangos i’r claf scan fMRI o’i ymennydd wrth iddo feddwl am symud. Roedd modd eu hyfforddi i feddwl mewn ffordd a oedd yn cyflyru’r rhan honno o’r ymennydd sy’n ymwneud â symud. Yna anfonwyd y cleifion adref i barhau i fyfyrio fel hyn. Ar ôl deufis roedd gwellhad o draean ymhlith y rhai a hyfforddwyd â’r sgan, o’i gymharu â’r grwp control. Almaenwyr yw Linden a’r wraig ond mae’u plant yn mynychu ysgolion Cymraeg Caerdydd. Dyna ddau hanesyn gobeithiol, felly, i ddarllenwyr Barn y Nadolig hwn !