Der Mensch ist, was er ißt, ymadrodd a anfarwolwyd gan yr athronydd Ludwig Andreas Feuerbach yn 1863 wrth drafod y cysylltiad rhwng y dyrchafol a’r materol. Bellach mae You are what you eat yn nod masnach ar gyfer rhaglen fwyd boblogaidd ar Sianel 4. Fel biocemegydd rwyf wedi hen arfer esbonio i ddosbarthiadau nad ydynt yn tyfu’n foron wrth fwyta moron, neu’n lloi wrth fwyta cig eidion. Ers canrif a hanner gwyddom am y broses o dreulio’n bwyd i’w elfennau, megis asidau amino a siwgrau, amsugno’r rhain i’r gwaed o’r perfedd ac yna ail-adeiladu’n cyrff o’r darnau. Y mae’r corff yn tyfu yn yr un modd ag y tynnir un model Lego yn ddarnau cyn ail-greu model hollol wahanol o’r blociau. Wrth drafod bwyta cnydau GM, bu rhaid imi droeon atgoffa pobol ein bod yn llwyr dreulio pob genyn yn ein bwyd – boed gynhenid neu wedi’i addasu gan ddyn.
Ond yn ôl erthygl gan Chen-Yu Zhang o Brifysgol Nanjing a gyhoeddwyd yn Cell Research ddiwedd Medi nid yw hyn yn hollol gywir. Dechreuodd y tîm eu hymchwil trwy brofi gwaed dynion, merched a gwartheg iach. Er eu syndod, yn y gwaed ‘roedd molecylau cymhleth o RNA, nad oedd wedi tarddu o’r unigolyn ond o’r planhigion yr oeddent wedi bod yn eu bwyta. RNA yw’r moleciwl sy’n trosglwyddo gwybodaeth o DNA’r genynnau i weithgaredd celloedd – megis creu proteinau. Y gred gyffredin yw y byddai ensymau treulio’r stumog a’r perfedd wedi darnio’r rhain i’w helfennau – y niwcleotidau – cyn iddynt ddod yn agos i’r gwaed. Canlyniad annisgwyl ynddo’i hun. Ond roedd rhagor i ddod. Nid y negesydd RNA sy’n gyfrifol am greu proteinau oedd yno ond math o RNA nas gwelwyd tan 1993, ac nas adnabuwyd tan y flwyddyn 2000. Enw’r dosbarth hwn yw miRNA. Moleciwl cymharol fychan, tua 19-24 uned o hyd, sy’n gyfrifol am reoli ymddygiad genynnau. Mae ein miRNA cynhenid ni yn symud o gell i gell yn ein cyrff gan reoli gweithrediadau’r corff. Aeth Zhang a’i gyfeillion ati i weld a oedd y degau o wahanol miRNA a oedd yn tarddu o Ysgewyll Brwsel, Brocoli a Reis yn effeithio ar gelloedd pobl a gwartheg. Cafwyd ateb cadarnhaol. Er enghraifft, mae un math o miRNA – MIR168a – yn newid actifedd tua 50 gennyn; gan gynnwys un sy’n gyfrifol am glirio colesterol “drwg” o’r gwaed. Y syndod, wrth feddwl am enw da bresych, yw ei fod yn lleihau gweithgaredd y genyn ac yn codi lefel colesterol y gwaed. Oblygiad hyn yw bod ein bwyd yn gallu effeithio arnom mewn ffyrdd hollol annisgwyl. Hyd yn hyn ofn y genynnau GM sydd wedi cynhyrfu’r dyfroedd. Ond mae’r posibiliadau positif yn llawer cryfach. Gellir dechrau ystyried bwydydd naturiol, neu GM, fydd yn cyflwyno molecylau llesol newydd i’r corff trwy ein bwyd. Mae’n debyg fod Zhang ar hyn o bryd yn profi llysiau meddyginiaethol o Tseina yn y gobaith y bydd un yn creu miRNA sy’n lladd firysiau’r ffliw.
Nid genynnau bresych yw’r unig ddarnau DNA ac RNA annisgwyl a ddarganfuwyd yng ngwaed y Tseiniaid yn ddiweddar. Yn dilyn yn gyflym ar sawdl y darganfyddiad ym mis Mai 2010 ein bod ni yn cario tua 4% o enynnau a darddodd o gyfathrach rhwng ein cynteidiau a neiniau a’r Neanderthaliaid, mae ail ffynhonnell o enynnau estron o’r un fath wedi dod i’r fei yn Asia. Yn 2008 darganfuwyd esgyrn rhywogaeth newydd o bobl gynnar ym mynyddoedd yr Altai yn Siberia. Roedd yr olion hyn tua 40,000 mlwydd oed. Fe’u henwyd yn Denisofaid ar ôl yr ogof lle’r oedd yr esgyrn yn gorwedd. Trydydd dyn cyfnod y Pleistosen. Trwy ddadansoddi’r DNA a oedd wedi goroesi yn yr olion ‘roedd modd dangos eu bod wedi ymwahanu o’n tras ni, ac o dras y Neanderthal, tua miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn fwy arwyddocaol, ‘roeddynt wedi gadael Affrica yn annibynnol arnom ni a’r Neanderthal. Ond mewn papur diweddar yn Nature, cyhoeddod Mark Stoneking o Athrofa Max Plank Leipzig ei fod wedi darganfod olion eu DNA ym mrodorion Papua Gini Newydd heddiw, miloedd o filltiroedd o’r Altai. Bellach ymddangosodd yr olion moleciwlar mewn 33 o wahanol bobloedd yn ymestyn o dir mawr Asia i Bolynesia. Tystiolaeth bendant o gyfathrach rhwng y ddwy rywogaeth ddegau o filoedd o flynyddoedd yn ôl. Ond i’r rhai hynny sy’n astudio poblogaethau dynion cynnar Asia y cwestiwn yw ymhle y cymysgodd y ddwy ? Cred rhai bod hynny wedi digwydd yn agos i’r Altai yng nghanol y cyfandir. Dadleua Stoneking, ar y llaw arall, mai yn ne-ddwyrain Asia y digwyddodd hyn. Os gwir hynny, byddai hyn yn dangos bod y Denisofaid wedi llwyddo i fyw dros ystod lledred sylweddol. O oerfel Siberia i wres y trofannau. Ystod bellach na’r un hominin arall heblaw am ddyn modern. Arwydd o hyblygrwydd rhyfeddol.
Megis chwinciad yw’r amser ers diflaniad ein cefndryd Neanderthal a Denisofaidd o’i gymharu â dawns dectonig y cyfandiroedd. Yn y cylchgrawn Terra Nova, mae Masaki Yoshida a Madhava Santosh o Japan wedi ceisio creu map o’r byd 250 miliwn o flynyddoedd i’r dyfodol. Wrth i’r cyfandiroedd symud mae eu creigiau megis hen dâp magnetig yn cofnodi eu safleoedd. Mae daearegwyr yn darllen y tapiau hyn i ddilyn symudiadau’r gorffennol. Un cyfandir wedi’i amgylchynu â moroedd oedd ar y ddaear 2 – 1.3 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Gelwir ef yn Columbia. Holltodd hwn, ond ail ymunodd i ffurfio Rodinia a barodd o tua 1 i 0.6 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Hollti eto fu hanes hwn nes uno eto fel Pangea ryw 350 o filiynau o flynyddoedd wedi hynny. O bwys i ni oedd ymddangosiad plât bychan Avalonia yn y cyfnod rhwng Rodinia a Pangea , yn y cyfnod a enwir ar ôl yr Ordoficiaid – erys darn ohono o dan ein traed fel Cymru heddiw. Yn y ddawns, chwalu yn ei thro fu hanes Pangea a mudodd y saith cyfandir i’w lleoliadau cyfarwydd. Ond y maent yn dal i symud o hyd, a’r gred yw y bydd “Pangea” yn ail ffurfio mewn rhyw 250 miliwn o flynyddoedd i ddod. Mae Affrica eisioes ar ei ffordd i ymuno ag Ewrop (yr Alpau yw canlyniad y trawiad) ac mae Awstralia yn cyd-daro ag Asia. Cyfraniad Yoshida a Santosh i’r dyfalu yw darogan na fydd De America na’r Antarctig yn ymuno yn y “Big Hug” nesaf. O dan Affrica a de’r Môr Tawel mae dwy ymchwydd enfawr yn codi o’r Fantell fil a mwy o filltiroedd o dan ein traed, bydd y rhain yn cadw’r Môr Tawel ar agor am y set hon o’r ddawns. Tybed pwy fydd yma, a’i miRNA yn dal i’w reoli, i’w weld ?