Barn 48 (Hydref 2011)

Pleser a melltith bywyd prifysgol yn y gwyddorau yw bod angen diweddaru nodiadau darlith bob blwyddyn. Ers blynyddoedd bu rhaid imi sicrhau’r dystiolaeth ffosil ddiweddaraf am fywyd cyntaf ar y ddaear. Efallai na fydd yn rhaid imi wneud hyn am yn hir eto. Dros yr haf, disgrifiwyd ffosilau mewn rhai o greigiau gwaddod hynf y byd. Mewn olion “traethell unig” a ffurfiwyd 3.43 mil miliwn o flynyddoedd yn ôl yng ngorllewin Awstralia mae Martin Brasier a’i dîm o Brifysgol Rhydychen wedi dod o hyd i olion microsgopig celloedd math o facteriwm a oedd yn byw mewn byd eithaf gwahanol i’n un ni. Byd oedd hwn cyn i brosesau ffotosynthesis ddechrau llenwi’r awyrgylch ag ocsigen tua 2.5 mil miliwn o flynyddoedd yn ôl.  Absenoldeb ocsigen pan seliwyd y celloedd yn nhywod y traeth sy’n gyfrifol am oroesiad y ffosilau. (Yn wir, ffenomen nid annhebyg mae fy ngwraig yn ei ddefnyddio heddiw wrth botelu’r cynhaeaf helaeth o eirin eleni.)  Ymhell wedi oes y ffosilau newydd, cymerodd eu disgynyddion ffotosynthetig dros 1.5 mil miliwn o flynyddoedd i godi lefel ocsigen yr awyr i rywbeth tebyg i’r hyn a brofwn heddiw. Gan fod ocsigen, sydd mor hanfodol i ni, yn wenwyn pur i’r mathau cynharaf yma o fywyd, gelwir y cyfnod hwn yn hanes y byd Yr Argyfwng Ocsigen (The Oxygen Catastrophe).  Er mae’n bosib y daw ffosiliau ychydig yn hŷn eto i’r fei, ni fedrwn ddisgwyl gweld rhai sy’n sylweddol hŷn, gan nad oes gwaddodion o’r cyfnodau hynny wedi goroesi heb eu fetamorffio’n llwyr. Gallaf adael llonydd i’r darlithoedd arbennig yma o hyn allan. Prif arwyddocâd darganfyddiadau o’r fath yw eu bod yn profi i fywyd ymddangos yn rhyfeddol o gynnar ar ôl i’r ddaear oeri ddigon i adael i ddŵr hylif gasglu ar ei hwyneb; rhywbeth a ddigwyddodd, o bosib, 4.4 mil miliwn o flynyddoedd yn ôl. Diweddar iawn yw ein rhywogaeth ni (Homo sapiens) a ymddangosodd lai na 200,000 o flynyddoedd yn ôl.

Wrth gwrs, mae’n bosibl bod digonedd o fywyd hŷn na hyn rywle arall yn y bydysawd. Os oes, efallai fod y benywod yn eu plith eisioes wedi dotio ar wrthrych un o ddarganfyddiadau’r haf a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Science gan seryddwyr o Melbourne yn Awstralia. Yn 2009 cofnodwyd seren arbennig o’r math a elwir yn Bylsar. Nid oedd hyn yn anghyffredin gan fod dros 1800 ohonynt wedi’u cofrestru ers yr un gyntaf yn 1967. Y peth anghyffredin oedd mai dyma’r drydedd yn unig i’w gweld ag iddi blanedau. Wrth i’r seryddwyr fynd ati i fesur priodoleddau’r blaned hon datgelwyd ei bod yn pwyso rhywbeth tebyg i’r blaned Iau, ond yn llawer dwysach. Yn wir, mae’n debyg mai seren yw, a herwgipiwyd gan y Pylsar a’i naddu’n blaned. Bellach mae grym disgyrchiant y blaned hon wedi’i wasgu a’i grisialeiddio – mwy na thebyg i ffurf diemwnt.  Un diemwnt enfawr, yn pwyso cymaint â phlaned fwyaf ein teulu ni – diemwnt 1031 carat !

Ond beth bynnag fo’n “cyfoeth bydol”, neu hyd yn oed arallfydol,  un peth sy’n sicr sef na fydd o werth inni ar ôl marw.  Dyluniwyd hyn yn aml mewn lluniau o’r canol-oesoedd – megis Goruchafiaeth Marwolaeth Pieter Breugel, lle gwelir sgerbydau marwolaeth yn ysbeilio trysorau’r brenin. Symbylwyd y llun hwn, a llawer un arall, gan erchyllterau’r Pla Du a laddodd draean o boblogaeth Ewrop yn y 14eg ganrif. Er pwysigrwydd hanesyddol y Pla, hyd at yn ddiweddar nid oedd sicrwydd beth yn union oedd natur y clefyd a bu cryn ddadlau ymysg meddygon a haneswyr.  Bellach ymddengys fod adroddiad gan Hendrick Poinar a’i dim o Brifysgol Hamilton Ontario yn y Proceedings of the National Academy of Sciences wedi datrys y dirgelwch.  Defnyddiwyd darnau o DNA bacteriwm pla modern (Yersina pestis), wedi’u cysylltu â gronynnau magnetig, fel “abwyd” ar gyfer samplau wedi’u tynnu o sgerbydau un o “bydewau pla” Llundain. Roedd y DNA hynafol yn ddigon tebyg i’r DNA modern i ffurfio helicsau dwbl yr oedd modd eu puro trwy ddefnyddio magnet. Nid oedd y DNA hwn yn bresennol mewn sgerbydau o Lundain a gladdwyd cyn cyfnod y Pla Du.  Er ei fod yn debyg i’r abwyd, roedd y DNA yn perthyn i straen anhysbys o Yersina.  Cred Poinar y bydd modd iddo buro digon o’r straen hwn i fedru dehongli paham y bu mor heintus a pha mor debygol y bydd straeniau tebyg ymddangos yn y dyfodol.

Mae “olion bysedd” biocemegol o’r math hwn yn tyfu’n arf pwysig i’r archeolegwyr. Yn yr un modd bu olion bysedd go iawn yn arf bwysig i heddluoedd ledled y byd, gan fod olion bysedd pawb – gan gynnwys gefeilliaid unfath – yn wahanol i’w gilydd. Datblyga’r olion hyn hanner ffordd trwy feichiogrwydd. Ond gwelir enghreifftiau prin lle nad yw hyn yn digwydd, a genir plant gyda bysedd hollol lyfn. Enwir y cyflwr hwn yn adermatoglyphia. Trwy’r byd i gyd dim ond mewn pum teulu estynedig y gwelwyd hyn. Er hynny, o bryd i’w gilydd mae’n achosi dryswch i swyddogion y tollau.  Bellach mae Eli Sprecher o Brifysgol Tel Aviv wedi lleoli’r genyn mwtant sy’n gyfrifol. Yn rhyfedd, ni all biolegwyr esbonio swyddogaeth y patrymau byseddol. Mae astudiaeth ddiweddar wedi profi nad ydynt yn gwella gafael trwy gynyddu ffrithiant, yr hen ddamcaniaeth. Yn wir i’r gwrthwyneb.  Dirgelwch arall.