Barn 47 (Medi 2011)

Sawl gwaith y flwyddyn ‘rydym yn esgusodi mewnfudwr am beidio â siarad Cymraeg gan ddweud wrtho ein bod yn deall yn iawn nad yw’n hawdd i oedolyn ddysgu iaith newydd ?  Efallai na ddylem fod mor garedig. Yn ôl Sara Ferman o Brifysgol Tel Aviv, o dan ei hamodau arbrofi, mae oedolion yn perfformio’n well, nid gwaeth, na phlant wrth ddysgu sgiliau iaith newydd. Y gred gyffredinol yw bod plant o dan 7 yn dysgu iaith yn ddifeddwl wrth i’w hymennydd hyblyg ail-weirio’u hun. Geilw hyn yn gof ymhlyg. Cred fod oedolion, ar y llaw arall, yn dibynnu ar gof echblyg lle mae angen ymdrech i ddysgu rheolau gramadegol iaith.  Ond yn ei darlith i Gynhadledd Iaith Plant ym Montreal ym mis Gorffennaf honna Ferman mai ein hagwedd wahanol at blant ac oedolion, yn hytrach na gwahaniaethau yn yr ymennydd, sy’n gyfrifol am y gwahaniaeth.  Pan fo oedolion yn gwneud camgymeriad, nid ydym am eu sarhau trwy eu cywiro; tra byddwn yn cywiro plant trwy’r amser.  Dyfeisiodd Ferman, a’i chydweithiwr Avi Karni, arbrawf i gymharu sgiliau plant 8 oed, plant 12 oed ac oedolion i ddysgu iaith o dan amodau gwyddonol.  Darganfuwyd mai’r oedolion, nid y plant, oedd y mwyaf llwyddiannus.  Roedd yr oedolion a’r plant 12 oed yn medru defnyddio cof echblyg i gyffredinoli’r hyn a ddysgent – rhywbeth anodd iawn i’r plant 8 oed, ac yn amhosibl i blant 5 oed.   Ond, yn allweddol, roedd cryn botensial i’r oedolion ddefnyddio ffyrdd ymhlyg hefyd pan oeddent yn rhydd o ragfarnau ac agweddau cymdeithas. Mae’n debyg fod yr athrawon ail iaith gorau yn manteisio ar hyn wrth geisio cyflwyno hwyl “plentynnaidd” wrth ddysgu. Tybed pa lwyddiant a gaf i wrth ddefnyddio’r un dechneg gyda’m cydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor ?

Tybed sut y dysgodd yr ystlum Glossophaga soricina, sy’n byw yn Cuba, ddehongli sŵn y gwinwydd Marcgravia evenia ? Wel, nid yn union sŵn y planhigyn, ond yr adlais ohono. Mae’r ystlum yn bwyta neithdar y blodyn – ac wrth wneud hynny yn ei drawsbeillio. Rhywbeth o bwys mawr i’r planhigyn.  I ddenu’r ystlum, mae’r planhigyn wedi esblygu deilen siap powlen uwchben ei flodau a’i neithdarfâu. Yn y cylchgrawn Science, yn ddiweddar, bu Ralph Simon o Brifysgol Ulm yn yr Almaen yn disgrifio canlyniad arbrofion lle chwaraeodd gwahanol synau i’r Marcgravia a mesur yr atseiniau.  Go wan oedd adlais y dail cyffredin – ond tarddodd sŵn sylweddol, a oedd i’w glywed o bob cyfeiriad, o’r dail siap powlen.  Trwy ddefnyddio modelau o’r planhigyn, dangosodd Simon y byddai’r ystlumod yn canfod neithdar o dan y bowlen yn llawer cyflymach nag o dan ddeilen gyffredin.  Technoleg hollol i’r gwrthwyneb i’r cynlluniau “stealth” a ddefnyddir gan yr awyrennau milwrol diweddaraf yw hon.  Tybed a oes enghreifftiau o hon, hefyd, yn y gwyllt ?

Un modd o ddilyn manylion moleciwlar cadwyni bwyd yn y gwyllt yw defnyddio “tagiau” ymbelydrol. Wrth i foleciwl, megis siwgr, mewn bwyd droi yn unrhyw foleciwl yng nghorff yr hyn sy’n ei fwyta erys y signal ymbelydrol. Yn anffodus o aml, dyma’r ffordd y gwelwn pa mor effeithiol yr ydym wrth halogi’r biosffer. Ond mae i’r dechnoleg ei fanteision mewn labordy. Un o’r tagiau ymbelydrol mwyaf defnyddiol yno yw 14C, sef isotop ymbelydrol carbon cyffredin, sef 12C. Cyfeiria’r rhif at fas atomig yr atom; sy’n agos iawn at fod swm ei elfennau, y protonau a’r niwtronau. Mae gan 12C, er enghraifft, chwech o’r naill a’r llall.  Yn ogystal â bod yn arf defnyddiol i’r biocemegydd, mae 14C wedi hen ennill ei le ym myd archaeoleg. Ers y 1950au cynnar, pan ddyfeisiwyd y dechneg gan Willard Libby, defnyddir y ffaith fod 14C yn dadfeilio (i 14N) ar raddfa hollol gyson gyda’i hanner wedi newid mewn 5730 o flynyddoedd.  O fesur cymhareb y ddau isotop carbon mewn gwrthrych, mae modd gwybod pryd ffurfiwyd y gwrthrych hwnnw. Er enghraifft, os ydy’r 14C yn hanner yr hyn a ddisgwylir o gynnwys 12C gwrthrych, ffurfiwyd molecylau’r gwrthrych hwnnw – gan ffotosynthesis o CO2 yr awyr – 5730 o flynyddoedd yn ôl. Os chwarter, 11,460 o flynyddoedd yn ôl – ac yn y blaen. Adnewyddir cymhareb gyson CO2 yr awyr gan belydrau cosmig yn taro 14N  yr awyrgylch tua 10 milltir uwch ein pennau.

Yn syndod, er iddo gael ei ddefnyddio’n gyffredin, tan eleni bu sylfaen hanner oes 14C yn ddirgelwch. Niwtron yn niwclews yr atom ymbelydrol yn troi’n broton sy’n gyfrifol am ei dranc. Mae hon yn broses gyffredin i elfennau ymbelydrol, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt sy’n gwneud hyn yn “marw” mewn llai na diwrnod. Eleni, mae Pieter Maris o Brifysgol Talaeth Iowa a’i dîm wedi dod o hyd i gyfrinach yr hoedl miloedd o flynyddoedd. Bydd darllenwyr cyson y golofn hon yn cofio imi gyfeirio at gath cwantwm byw-a-marw Schroedinger y mis diwethaf. Fel gyda’r gath, mae sawl ffurf cwantwm niwclews 14C yn bodoli ar yr un pryd, pob un ceisio troi’n 14N. Mewn elfennau eraill mae un ffurf cwantwm yn arglwyddiaethu ar y broses, a dyr niwtron yn weddol fuan.  Dengys mathemateg Pieter Maris fod dwy o ffurfiau cwantwm niwclews carbon â bron yr union un tebygolrwydd o fodoli. Cymer filoedd o flynyddoedd i ddatrys pa un sy’n ennill – ac i’r atom benderfynu sut i farw.  Tybed a’i cof ymhlyg neu echblyg sydd gan yr atom yn y cyfamser ?