Barn 46 (Hâf 2011)

Ym mha le y mae canfod hapusrwydd?  Yn 2007 cyhoeddodd gwyddonwyr o Brifysgol Wisconsin-Maddison mai Matthieu Ricard, mynach Bwdïaidd yn wreiddiol o Ffrainc, oedd y dyn mwyaf bodlon o’r cannoedd o wirfoddolwyr a astudiwyd trwy ddefnyddio sganiwr ymennydd MRI. I’r wasg boblogaidd ef oedd dyn hapusa’r byd. Yn ddiweddar darlledwyd cyfweliad ganddo yn esbonio ei athroniaeth ar raglen Today y BBC. Tybed a oes ganddo ddau gopi o fersiwn hir y genyn 5-HTTLPR ? Fel rheol nid yw hanesion “y genyn ar gyfer hyn neu’r llall” yn dal fy sylw am yn hir – ond roedd gweld sôn am adroddiad yn y Journal of Human Genetics am ddarganfod yn ffurfiol am y tro cyntaf y genyn ar gyfer hapusrwydd yn wahanol. Er bod Jan-Emmanuel de Neve o’r LSE yn Llundain yn pwysleisio nad hwn fydd yr unig ffactor o bell ffordd, roedd ei waith yn dangos bod y rhai hynny a feddiannodd ddau gopi o’r fersiwn hir yn ddwywaith mwy tebygol o ddweud eu bod yn fodlon eu byd nag oedd y rhai hynny ag iddynt ddau gopi byr o’r un genyn.  Astudiodd ddata o 2574 o bobl ifanc yn eu harddegau o’r Unol Daleithiau. Mae 5-HTTLPR yn ymwneud â’r ffordd y mae celloedd yr ymennydd yn cyfathrebu â’i gilydd trwy ddefnyddio’r negesydd cemegol Serotonin.  Yr un negesydd sydd wrth wraidd ymddygiad y Prosac enwog a roddodd ei enw i genhedlaeth nad oedd ddim mor fodlon â Matthieu Ricard.

Yn sicr mae angen rhywbeth o’r fath ar y dolffiniaid a ddisgrifir yn rhifyn diwethaf Marine Mamalian Science.  Yn y gorffennol, cafwyd disgrifiadau o’r creaduriaid hardd hyn yn ymosod yn ddiysgog ar lamhidyddion ym moroedd Gwledydd Prydain. Yn awr mae Mark Cotter, cadwraethwr o Moss Landing, Califfornia, wedi disgrifio’r ymddygiad yn fanwl mewn mamaliaid tebyg o’r Môr Tawel. Mewn un digwyddiad nodweddiadol, ymosododd tri o’r dolffiniaid ar lamhidydd, ei gornelu a’i daro’r ddidrugaredd. Wrth iddynt wneud hyn ymunodd saith dolffin arall yn yr ymosodiad. Trawyd y llamhidydd i farwolaeth. Yna arhosodd dau i chwarae gyda’r corff nes colli diddordeb a’i wthio i gyfeiriad y cwch yr oedd Cotter yn ei ddefnyddio i’w hastudio – fel petaent yn dymuno iddo yntau, hefyd, gael rhan yn yr hwyl. Yr arsylw allweddol, yn ôl Cotter, oedd mai gwrywod oedd 21 o’r 23 dolffin a welwyd yn ymddwyn fel hyn. Cred mai ymddygiad rhwystredig anifeiliaid nad oedd modd iddynt gystadlu â’r gwrywod mwy profiadol hŷn am gymar benywaidd oedd yn gyfrifol.  Y mis diwethaf yn y golofn hon ‘roeddwn yn son am ymgais i gyfathrebu â’r mamaliaid hyn. Efallai mai cymorth seicolegol yw eu hangen pennaf !

Delio â sgitsoffrenia’r bydysawd, dim llai, y mae papur diweddar ar wefan arXiv.org. Yn wir, mae’r wefan hon ei hun yn un arbennig o ddiddorol a dylanwadol. Fe’i cychwynnwyd yn 1991 yn archif ar gyfer papurau electronaidd a oedd wedi’u cyhoeddi mewn nifer o gylchgronau traddodiadol, yn bennaf ym meysydd Ffiseg a Mathemateg. Bu’n ysgogiad allweddol i’r ymgyrch “Open Access” ym myd cyhoeddi academaidd sydd wedi chwyldroi’r modd y mae gwyddonwyr ac eraill yn gallu dod o hyd i bapurau ei gilydd trwy’r We. Papur agored gwreiddiol gan Raphael Bousso o Berkeley a Leonard Susskind o Stanford ar y safle sy’n cynhyrfu’r Blogosffer ffiseg ar hyn o bryd.  Ar ddechrau Mehefin aeth colofn olygyddol y New Scientist mor bell â dweud eu bod yn llwyddo i symud yr angen am Dduw o ddisgrifiad cwantwm y Cread.  Gwraidd yr hyn mae Bousso a Susskind yn ei geisio yw esboniad am sut y mae’r bydysawd o’n cwmpas yn ymddangos yn esboniadwy tra bo elfennau ei wneuthuriad yn gaeth i ymddygiad “ansicr” (yn nhermau Heisenberg) y cwantwm.  Mae ffawd “Cath Schrödinger” yn un o ddelweddau hynotaf yr ugeinfed ganrif.  Arbrawf “rhith” yw hwn lle y dychmygir bod cath mewn bocs wedi’i chau mewn ffordd nad oes modd cael unrhyw wybodaeth allan ohono. Gyda’r gath mae potel o wenwyn a fydd yn torri – a lladd y gath – pan fydd atom ymbelydrol arbennig yn hollti. Y pwynt yw nad oes modd darogan pryd y digwydd hynny. I’r arsyllwr oddi allan nid oes unrhyw ffordd i wybod a yw’r gath yn fyw neu’n farw.  Er mwyn esbonio’r sefyllfa (a disgrifio’r rhan yma o’r bydysawd) rhaid derbyn bod y gath yn fyw ac yn farw ar yr un pryd.  Wrth gwrs ni fu erioed y fath gath, er imi adrodd yn y golofn hon unwaith am arbrawf go-iawn lle llwyddwyd i greu “Firws Schrödinger”. Dameg yw’r gath o ymddygiad y gronynnau is-atomig sef brics a mortar popeth o’n cwmpas. Nid rhith yw eu hymddygiad hwy – ond ymddygiad naturiol bob dydd. Dyma Ansicrwydd Heisenberg. Yn y byd o’n gwmpas, ysywaeth yr ydym yma i weld “realiti”. Megis agor y bocs, y mae presenoldeb arsyllwr yn gorfodi un ffawd yn unig. Gelwir hyn yn ymgwympiad (collapse) ac mae pawb yn hapus a’r cread o’n cwmpas yn osgoi sgitsoffrenia.  Y paradocs wrth feddwl am y bydysawd yn ei grynswth yw nad oes iddo arsyllwr – yn wir, nid oes dim y tu hwnt iddo, oni bai eich bod yn gosod Duw i wneud y gwaith. Dyma oedd wrth wraidd colofn olygyddol y New Scientist. Heb arsyllwr, nid oes modd i’r Bydysawd ymgwympo i un stad bendant cwantwm esboniadwy. Dylai fod yn “fyw” ac yn “farw” ar yr un pryd. Ond nid fel hyn yr ydym yn ei ganfod.  A oes esboniad heb y math uchod o “Dduw”? Gosodiad Bousso a Susskind yw pob tro y mae’n rhaid i’r bydysawd ddilyn un trywydd neu’r llall (byw neu farw i ddilyn dameg y Gath) y mae’n hollti’n ddwy – ac mae dau fydysawd cyfochrog yn ffurfio. Yn hollol debyg i’w gilydd ond am yr un digwyddiad. Yn un mi fydd y gath yn “fyw”, yn y llall mi fydd yn “farw”.  O ganlyniad tŷf nifer anfeidraidd o fydysodau sy’n cynnwys pob canlyniad posibl pob dewis cwantaidd.   Ers nifer o flynyddoedd trafodir o ddifrif y syniad o Amlfydysodau a bu hyn yn rhan o un o’m hysgrifau blaenorol.  Mae awduron y papur diweddar hwn wedi dod â syniad yr Amlfydysawd ac ymddygiad y cwantwm at ei gilydd yn un atebiad mathemategol.  Fel arsyllwr o fiocemegydd, rwy’n synhwyro cryn gynnwrf ymysg fy nghydwyddonwyr ffisegol ar hyn o bryd.  Yn sicr, bydd hyn yn eu cadw’n fodlon pa bynnag ffurf o’u genyn hapusrwydd sydd ganddynt.