Barn 45 (Mehefin 2011)

Gallaf  gredu mai hunllef pob athrawes ac athro yw darganfod  yn ei ddosbarth ddisgybl sy’n methu â chanolbwyntio o gwbl ac sy’n orfywiog. Er hynny, dengys yr ymchwil diweddaraf bod y cyflwr yn gysylltiedig â’r ysfa a yrrodd ein cyndeidiau i fudo o Affrica i Ewrop 50,000 o flynyddoedd yn ôl. Heb yr ymddygiad hwn, ni fyddai’r un disgybl nac athro yn y dosbarth i ddechrau. Ymhlith yr ymchwil  i’r genom dynol, mae sawl astudiaeth i’r genyn DRD4. Dyma’r genyn sy’n gyfrifol am ran o fecanwaith dopamine yn yr ymennydd. Yr un dopamîn sy’n gysylltiedig â chlefyd Parkinson. Fersiwn 4R o’r genyn sydd gan y rhan fwyaf ohonom. Yn ei sgil daw tymer cymedrol, y duedd i hunan ymholi a bod yn ddarbodus. Ar y llaw arall, mae fersiynau 7R a 2R yn gysylltiedig â chymryd risg, ymddygiad byrbwyll a heriol a’r ddawn i beidio â phoeni am yr anghyfarwydd. Dengys Luke Matthews o Harvard a Paul Butler o brifysgol Boston fod dosbarthiad y fersiynau hyn ym mhoblogaethau heddiw yn dilyn ein hen lwybrau mudo. Y pellaf yr ydych yn byw o Affrica y mwyaf tebygol yw eich bod yn cario 7R neu 2R. Y ddadl yw bod y weithred o fudo yn enghraifft o bwysedd amgylcheddol  Darwinaidd;  gyda’r mwyaf eofn yn goroesi ac yn trosglwyddo’u genynnau i’r cenedlaethau sy’n dilyn. Dengys Robert Moyzis o Brifysgol California, Irvine,  i’r mwtant 7R ymddangos 40-50,000 o flynyddoedd yn ôl tua’r adeg y gadawsom Affrica ac yna lledaenu’n gyflym trwy’r boblogaeth y tu allan i’r Cyfandir Tywyll. Yn Asia, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl ymddangosodd 2R. Mae hyfdra’r Tsieni yn wahanol i’n hyfdra ni, efallai.  Mae’r astudiaethau hyn yn arbennig am eu bod yn awgrymu bod ymddygiad cymdeithasol – megis mudo – yn gallu effeithio ar esblygiad. Mae hefyd yn enghraifft gynyddol o fedru cysylltu ymddygiad cymhleth o’r fath ag un protein arbennig  yn y corff.  Er, mi wn, nad yw o gysur i athrawon yn y dosbarth wybod fod yr ymddygiad afreolus yn adlais hanfodol o’n hanes biolegol.

Efallai y byddai’n well ganddynt ddysgu dolffiniaid?  Mae hanesion am bobl yn ymwneud â’r mamaliaid môr hyfryd hyn ers cyfnod hen drigolion gwlad Groeg a’r India.  O’r 1960au bu ymgais wyddonol i gyfathrebu â nhw. Yn blentyn ysgol, cofiaf ddarllen comic addysgiadol (beth ddigwyddodd iddynt, a’u patrwm Superman, tybed?) am waith arloesol John Lilly i’r perwyl hwn.  Ers 1990 ail ddechreuodd yr ymdrech, a bu modd dysgu dros gant o eiriau, ynghyd ag ystumiau, iddynt eu deall  mewn labordai môr. Ond ar batrwm hyfforddi cŵn oedd hynny. Yn fwy diweddar bu Denise Herzing o Jupiter, Fflorida, yn ceisio deall yr hyn y mae’r dolffiniaid yn ei ddweud fel ymateb i ni. Rhywbeth llawer anoddach. I ddechrau mae ystod traw seiniau dolffiniaid ymhell y tu hwnt i’n heiddo ni. (Hyd at 200 kiloherz.  Gyda chymorth y Dr Stephen Rees, cyfrifaf bod hyn bedwar wythawd uwchben clyw dynol – a phump uwchben nodyn uchaf piano.)    I gwmpasu hyn rhaid defnyddio heidroffonau a chyfrifiadur.  Un broblem ymarferol arall yw bod y creaduriaid yn creu’r sŵn heb symud eu pennau – ac anodd gwybod pa anifail o fewn y pod sy’n “siarad”.  Hefyd mae modd iddynt gyfeirio’r synau i gyfeiriadau gwahanol. Yn hwyrach eleni bydd y tîm yn dechrau trwy gyfeirio synau a chysylltiadau wedi’u dysgu (megis “gwymon”) at y dolffiniaid yn y gobaith y byddant yn eu hail adrodd, mewn cyd-destun ystyrlon,  yn ôl. Modd i galibreiddio’r meddalwedd cyfrifiadur fydd hwn.  Y cam mawr fydd defnyddio’r meddalwedd i geisio adnabod patrymau sŵn cynhenid sydd yn “unedau sylfaenol” cyfathrebu. Yn cyfateb, o bosib, i’r ffonemau – neu hyd yn oed eiriau –  mewn ieithoedd dynol.  Petai modd darganfod y rhain byddai modd gweld effaith eu chwarae yn ôl i’r creaduriaid fel cam cyntaf creu Carreg Rosetta rhyng-rhywogaethol.  Ar hyn o bryd, nid yw’n amlwg o gwbl, ysywaeth, fod gan y dolffiniaid y ffasiwn beth â ffonemau ystyrlon, heb sôn am eiriau. Mae Justin Gregg o brosiect arall sy’n ceisio cyfathrebu â dolffiniaid, sydd ychydig yn amheus, yn cyffelybu’r cyfeiriad ymchwil hwn i frodor o’r gofod yn cerdded trwy Manhattan yn ei siwt ofod yn llefaru llinellau digyswllt  o’r ffilm The Godfather i drigolion Efrog Newydd – ac yn disgwyl ymateb dealladwy.

Nid hollol annhebyg, efallai, yw cyfathrach rhwng slefrod môr a choed. Yn rhifyn diweddaraf Current Biology, mae Dan-Eric Nilsson o brifysgol Lund yn Sweden yn adrodd canlyniadau astudio ymddygiad y slefren Tripedalia cystophora.  Cyntefig, fel y buasech yn deall, yw “llygaid” y slefren; er bod iddynt lens a retina, a hyd yn oed iris, yn hynod o debyg i’n llygaid ni.  Roedd Nilsson a’i dîm wedi sylwi bod crisialau bychain ond trwm o gypswm ynghlwm wrth nifer o’r llygaid.  Effaith y crisialau hyn yw cadw’r llygaid yn cyfeirio at i fyny o hyd – mewn modd nid annhebyg i’r teganau plant hynny ar ffurf clown, sydd bob amser yn codi i fyny ar ôl cael eu taro i lawr. Y cwestiwn oedd pam y byddai slefren fôr am edrych i’r cyfeiriad yma? Gosododd Nilsson y slefrod mewn tanciau ac yna gosod y tanciau mewn gwahanol lefydd mewn cors mangrof ym Mhwerto Rico, cartref y slefrod.  Pan osodwyd y tanciau ger y coed, nofiodd y slefrod tuag atynt.  Ymhell o’r coed, nofiai’r slefrod i bob cyfeiriad.  Roedd y creaduriaid yn gweld ac yn adweithio i’r coed oherwydd eu bod yn eu cysylltu â chramenogion, sy’n fwyd i’r slefrod, a fyddai dan eu cysgod.  Dyma’r tro cyntaf i unrhyw anifail dŵr heb asgwrn cefn ymateb i signal o dir sych. Pwy a ŵyr, efallai mai cipolwg tebyg oedd y cam gyntaf i’n cyndeidiau ddechrau cael awydd mudo o’r môr i’r tir yn y lle cyntaf? Tybed beth fyddai tynged slefren fôr sy’n dioddef o ADHD ? Wedi’r cyfan, yn Saesneg, fel rheol y maent yn barod i’w canfod mewn “school”.