Yn y gerdd Yma yn ei gyfrol ddiweddaraf, wrth fyfyrio ar dreigl amser, dywed yr Athro Gwyn Thomas ein bod yn byw mewn bydysawd na wyddom ei oed. Ni fynnwn i anghytuno â Gwyn, ond byddai’r rhan fwyaf o gosmolegwyr heddiw yn weddol fodlon â’r ffigwr o 13.7 mil miliwn o flynyddoedd. O bryd i’w gilydd cyfeiriais yn y golofn hon at y dystiolaeth fanwl gynyddol. Ar y cyfan dyfodol y Bydysawd sy’n corddi’r dyfroedd yn hytrach na’i orffennol. Ond mewn erthygl bryfoclyd yn y New Scientist mae Marcus Chown yn cyfeirio at ddarlith berthnasol a draddodwyd y llynedd gan Abraham Loeb o Harvard. Yn ôl y ddau, rydym yn byw ar gyfnod breintiedig yn hanes y cread o safbwynt ei ddeall. Gan fod goleuni yn symud ar gyflymder penodedig, wrth edrych yn bell ‘rydym yn edrych yn ôl i’r gorffennol. Y flwyddyn nesaf bydd cant a hanner o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i Leon Foucault gyfrif y cyflymder hwn yn led gywir yn 1862. Ond dim ond yn y degawdau diwethaf, trwy gyfrwng telesgopau megis Hubble, a theulu bychan o delesgopau sy’n ymwneud â thonfeddi anweledig i’r llygad, y bu modd edrych yn agosach ac agosach i’r dechrau. Mae’r cwbl yn dal o fewn golwg, fel petai. Ond nid fel hyn y bydd am byth.
Un o ddarganfyddiadau gwirioneddol annisgwyl y blynyddoedd diwethaf yw y bydd y bydysawd yn tyfu yn gyflymach na chyflymder goleuni. Canlyniad hyn yw y bydd y gorffennol pell yn araf lithro y tu hwnt i’n gorwel. Byddwn yn pellhau oddi wrth y dechreubwynt yn gynt nag y gall y wybodaeth amdano ein cyrraedd. Yn araf dyma fydd ffawd holl wrthrychau’r bydysawd y tu hwnt i’n grŵp bychan ni o alaethau (y Llwybr Llaethog, Andromeda a chymylau Magelan). I gosmolegwyr y flwyddyn 100 mil miliwn, bydd yr holl dystiolaeth sydd i’w chael am hanes y bydysawd wedi diflannu am byth. Mae Loeb yn rhoi o’r neilltu’r ffaith sicr nad pobl fel ni fydd y Cosmolegwyr hyn (ac na fyddant yn byw ar ddaear sy’n troelli ein haul, a fydd wedi diflannu ers rhyw 95 mil miliwn o flynyddoedd). Yn hynny o beth mae Gwyn Thomas ac yntau’n unfarn ac mae Loeb yn gofyn a fydd modd i unrhywbeth ddeall hanes bydysawd o’r fath. Un digwyddiad o ddefnydd fydd y gwrthdrawiad mawr a ddaw wrth i Andromeda a’r Llwybr Llaethog gyd-daro megis dwy gastanen tua’r un cyfnod ag y daw hanes ein haul i ben – mewn rhyw bum mil miliwn o flynyddoedd. Er na fydd llawer o’r sêr eu hunain yn cyd-daro, caiff sêr unigol o bryd i’w gilydd eu chwipio allan o’r Alaeth Unedig (a elwir gan rai’n “Milkomeda”) wrth i ddisgyrchiant chwarae rhan ffon dafl. Rhain fydd rhai o wrthrychau cyflymaf yr Alaeth ac o astudio eu hymddygiad wrth iddynt adael Milkomeda, ceir gwybodaeth gosmolegol ddefnyddiol. Erbyn y flwyddyn deg miliwn miliwn, ysywaeth, bydd hyd yn oed y sêr mwyaf hir hoedlog wedi diffodd – beth wedyn ?
Cwestiwn nid annhebyg a ofynnir weithiau i Gosmolegwyr yw hwnnw a luniwyd yn gyntaf gan Enrico Fermi yn 1950. Gan ei bod yn debygol bod bywyd deallus yn weddol gyffredin trwy’r bydysawd pam nad ydym hyd yma wedi’i synhwyro neu’i gyfarfod ? Nawr mae Adrian Kent o Athrofa Perimeter, Ontario, wedi cynnig esboniad gwreiddiol. Un a seilir ar ddamcaniaeth esblygiad Darwin. Dadl Kent yw y gall cystadlu am adnoddau fod yn rhywbeth a all ddigwydd ar lefel gosmolegol. Wrth i rywogaethau o blanedau gwahanol fanteisio ar ei gilydd (peth cyffredin fel y gwŷr pob “Trekkie”) byddai poblogaethau sy’n osgoi tynnu sylw, naill ai’n fwriadol neu trwy ddiogi, yn goroesi wrth i’r Ymerodraethau ddinistrio ei gilydd a pheidio â bod. Neges Kent yw y dylem beidio â gwasgaru ein lloerennau yn ddiofal trwy’r gofod. Beth oedd yr hanes hwnnw am Voyager -1 y soniais amdano yn rhifyn Nadolig Barn ? Peidiwch â sôn amdano wrth y Klingoniaid !
Ond dau hanesyn am gyflymder esblygiad dyn ar y ddaear a ddenodd fy sylw i’n ddiweddar. Yn ystod brwydr yr etholiad nid anghyffredin oedd clywed son am “esblygiad polisi” fel arwydd o absenoldeb rhuthr difeddwl. Yn wir y gred boblogaidd yw bod esblygiad biolegol yn rhywbeth araf a phwyllog, yn enwedig wrth ystyried esblygiad dynoliaeth. Ond gwahanol yw’r wers a ddysgir inni gan enghreifftiau o ucheldir Gini Newydd ac o boblogaeth Tibet ar “Dô’r Byd”. Yn y 1960au sylweddolwyd bod clefyd Prion, tebyg i CJD a BSE (a ddarganfuwyd yn ddiweddarach) yn lladd trigolion llwyth y Ffore ym Mhapua Gini Newydd. Mae’r hanes am sut y darganfuwyd mai drwy fwyta cyrff y meirw, a’r merched yn bwyta’r ymennydd, y lledaenwyd y clefyd, yn stori dditectif go iawn. Mewn ambell bentref, lladdwyd bron yr holl wragedd gan y clefyd. Bellach sylweddolir mai disgynyddion unigolyn a anwyd tua 200 mlynedd yn ôl oedd y rhan fwyaf o’r rhai o’r gwragedd a oroesodd. Erbyn heddiw mae’n hysbys bod mwtaniad yng ngenyn y Prion yn y person hwn wedi lledaenu i hanner gwragedd yr ardal – a thrwy hynny yn eu gwneud yn rhydd o’r clefyd. Daeth yr arfer o fwyta cyrff y meirw i ben yn y 1950au ac oni bai am hynny credir y byddai canran uwch o’r llwyth wedi’i ddethol yn naturiol yn y modd hwn. Ffactor amgylcheddol llai dramatig sy’n gyfrifol bod 78% o drigolion Tibet yn cario un math arbennig o ensym sy’n rheoli cyfansoddiad y gwaed mewn modd sy’n eu galluogi i fyw ar uchder lle mae lefel yr ocsigen yn yr awyr yn isel. Mae hyn yn cymharu â dim ond 9% ym mhoblogaeth yr Han yn Tsieina. Ymrannodd llinach Tibet o’r Han tua 3000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddar cofnodwyd ymhlith merched Tibet sy’n byw’n uwch na 4000 metr fod y rhai hynny sydd â lefel uchel o ocsigen yn eu gwaed yn cael 3.6 plentyn byw ar gyfartaledd, tra mai dim ond 1.6 a gaiff y lleill. Dau hanesyn clasurol o esblygiad Darwinaidd yn dilyn pwysedd yr amgylchedd. Does dim rhyfedd, felly, bod Gwyn Thomas yn ein gweld wedi ein rhaglennu i beidio â bod yma. Rydym eisioes yn prysur newid i fod yn rhywbeth arall.