Barn 43 (Ebrill 2011)

I’r rhan fwyaf ohonom, hunllef yw’r syniad o fod yn gaeëdig mewn corff hollol ddiffrwyth a diymadferth ond er hynny’n ymwybodol o’r byd o’n cwmpas.  Yn 2007 amlygwyd y cyflwr “Locked in Syndrome” (LIS) gan y ffilm The Diving Bell and the Butterfly am fywyd y Ffrancwr a oedd yn Brif Olygydd y cylchgrawn Elle, Jean-Dominique Bauby. Yn 1995 dioddefodd Bauby strôc drom. Am y ddwy flynedd wedi hynny, ei amrant chwith oedd yr unig ran o’i gorff yr oedd ganddo reolaeth drosti. Trwy flincio bu modd iddo gofnodi hunangofiant a welodd olau fis Mawrth 1997. Dridiau wedi cyhoeddi’r llyfr bu farw o niwmonia.

Wrth i’r dechnoleg sy’n ymwneud â deall yr ymennydd wella, daw mwy o achosion i’r golwg o ansicrwydd am stad cleifion sy’n ymddangos yn hollol anymwybodol o’r byd o’u cwmpas. Un felly yw hanes Rom Houben o wlad Belg.  Yn 2009 adroddodd Steven Laureys o Brifysgol Liège yn y cylchgrawn BMC Neurobiology amdano (heb ei enwi) fel dioddefwr o LIS am dair blynedd ar hugain cyn i’r cyflwr hwn gael ei gydnabod yn 2006.  Yn naturiol, bu cryn gyhoeddusrwydd i hyn yn y wasg.  Erys hanes Houben yn ddadleuol – er yn enghraifft ddirdynnol o obeithion ceraint a theulu.

Yn llai dadleuol, bellach mae Laureys wedi cyhoeddi arolwg o agweddau’r dioddefwyr eu hunain i’r cyflwr. Gofynnodd i 168 ohonynt am eu teimladau a’u hemosiynau.  Fe’i synnwyd gan yr ymateb positif. O’r 91 a ymatebodd ‘roedd 72% yn hapus â’u cyflwr, gyda 7% yn unig yn erfyn diweddu eu bywydau. Yn ôl yr erthygl yn BMJ Open, y rhai oedd newydd ddioddef y cyflwr oedd leiaf hapus, sy’n awgrymu bod pobl â LIS yn ymdopi â’u sefyllfa gydag amser. Dadleua Laureys, felly, y dylid aros i gleifion sefydlu yn gorfforol a seicolegol cyn symud i gyfeiriad ewthanasia yn y rhannau hynny o’r byd sydd yn ei ganiatáu. Mae gwersi llai dadleuol i’w cael o’r arolwg. Dim ond 21% oedd yn treulio’r rhan fwyaf o’r diwrnod yn gwneud pethau gwerth chweil. Roedd 40% arall eisiau mwy o gwmni cymdeithasol a 12% fwy o adloniant. Dywed Laureys fod modd ymateb i’r gofynion hyn fwyfwy trwy ddefnyddio technoleg – megis cysylltiadau uniongyrchol rhwng ymennydd a chyfrifiadur a dyfeisiadau tracio symud llygaid.  Gyda chymaint o’r boblogaeth holliach bellach yn treulio oriau lawer ar y we, bydd cysylltiadau o’r fath gydag unigolion LIS yn ymdebygu fwyfwy i ymddygiad cyffredinol. Mae’n gweld chwyldro yn y ffordd y byddwn yn ymdrin â’r clefyd hwn yn y blynyddoedd i ddod.

Triniaeth arall a ddaeth, yn 20au’r ganrif ddiwethaf, â gobaith bywyd i rai a gâi glefyd marwol bryd hynny oedd defnyddio inswlin i drin clefyd siwgr.  Dros y 90 mlynedd diwethaf derbyniodd miliynau o ddioddefwyr clefyd siwgr Math 1 iechyd trwy’r pigiadau beunyddiol.  Swyddogaeth inswlin yw clirio’r gormodedd o siwgr o’r cylchrediad gwaed ar ôl pryd o fwyd. Ysgoga’r cyhyrau ac, yn arbennig, yr afu i’w gadw ar ffurf polymer o’r enw glycogen. Pan ddaw’r angen am danwydd i brosesau’r corff bydd glycogen, fel yr awgryma’i enw, yn creu siwgr.  Hormon arall, o’r enw glwcagon, sy’n gyfrifol am hyn – fel ryw fath o Efnisien yn gwrthwneud gwaith ei frawd Nisien.  Er bod swyddogaeth glwcagon yn hysbys ers degawdau lawer, dim ond yn ddiweddar y trowyd ato am driniaeth posibl i glefyd siwgr. Yn rhifyn diweddar y cylchgrawn Diabetes disgrifir arbrofion gan Roger Unger o Brifysgol Texas ar lygod sy’n methu ag ymateb i glwcagon.  Enghraifft glasurol yw hyn o’r dechneg gyffredin o fridio, trwy beirianneg genynnau, math arbennig o lygod i astudio clefyd unigol.  Yn annisgwyl ‘roedd lefel y siwgr yng ngwaed y llygod hyn yn hollol normal.  Rhagwelid y byddent  yn dioddef o ddiffyg siwgr wrth i’r glycogen aros yn yr afu.  Ond daeth canlyniad annisgwyl arall. Pan ddefnyddiodd y tîm ymchwil gemegyn lladd celloedd y cefndedyn ( yr organ sy’n cynhyrchu inswlin) sef y driniaeth sy’n creu clefyd siwgr mewn llygod cyffredin, arhosodd y llygod arbennig yn rhydd o’r clefyd.  Roedd hyn hyd yn oed yn wir ar ôl bwydo’r llygod â gormodedd o siwgr.  Y sialens yn awr yw trosi’r canlyniadau ar lygod i driniaeth ymarferol i bobl.  Nid oes modd dileu glwcagon yn llwyr o’r corff dynol heb greu problemau eraill ond mae cwmni Amylin Pharmaceuticals o Galiffornia yn bwriadu defnyddio hormon arall o’r enw Leptin. Yn 2008 darganfu Unger bod hwn yn tawelu gweithgaredd glwcagon. Cyn hynny ‘roedd Leptin wedi dod i’r brig fel triniaeth bosibl i ordewdra, ond stori arall yw honno.  Nid yw’n hysbys sut yn union y mae lefelau siwgr yn y gwaed yn aros yn normal pan na cheir inswlin a glwcagon a bydd yn rhaid i mi newid fy narlithoedd  i fyfyrwyr Bangor pan ddaw’r ateb.  Yn y cyfamser mae’r ymchwil yma yn cynnig triniaethau newydd sbon i glefyd siwgr wedi i insiwlin deyrnasu am 90 mlynedd.

Nid oes llawer sy’n fyw heddiw yn cofio’r holl amser a aeth heibio ers 1921, ond ar y cyfan nid ydym yn cael trafferth ystyried treigl amser.  Nid felly, o bosib, ein cefndryd agosaf,  y simpansi.  Mewn cyfres o brofion, cuddiodd Marusha Dekleva o Brifysgol Utrecht  wahanol fwydydd mewn costreli.  Dysgodd yr epaod yn fuan ym mha gostreli yr oedd eu hoff fwyd. Yna dechreuodd Dekleva dynnu peth o’u hoff fwyd o’r costreli ar adegau cyson ar ôl dechrau’r arbrawf.  Y disgwyl oedd y byddai’r simpansïod yn dysgu’n sydyn sut i gael gafael ar y danteithion cyn iddynt “ddiflannu”.  Er mawr syndod, ni ddigwyddodd hyn.  Un dehongliad o’r arbrawf yw nad oes modd i’r anifeiliaid yma amgyffred treigl amser. Gan fod hyn yn ymddangos mor bwysig i’n cymdeithas ni, mae’n amlwg fod y gallu hwn wedi esblygu yn ein cyndadau wedi i’n tras ni wahanu oddi wrth y  simpansi. Mae’n debyg, felly, na fyddai simpansi yn sylweddoli bod yn rhaid aros am fis tan y copi nesaf o Barn. Gwyn ei fyd !