Llwynogod magnetig ! Yn ôl yn Awst 2008 cyhoeddwyd papur yn y Proceedings of the North American Academy of Science, un o brif gylchgronau gwyddonol y byd, yn honni bod gwartheg ledled y byd yn dueddol o sefyll â’u cyrff ar hyd llinell y de-ogledd. Roedd yr awduron, sŵolegwyr o’r Almaen a’r Weriniaeth Tsiec, wedi defnyddio lluniau lloeren o dros wyth mil o wartheg o dros 308 llecyn ledled y byd. Cofnodwyd canlyniadau tebyg wrth edrych ar ewigod a cheirw coch yn yr un modd. Yr esboniad a gynigwyd oedd eu bod yn synhwyro, a defnyddio, maes magnetig y byd i wneud hyn. Nid yw defnyddio “cwmpawd” magnetig yn anghyffredin mewn creaduriaid – o facteria i gimychiaid – a dyma gyfrinach colomennod wrth fordwyo i’w cytiau yng nghymoedd y De. Ond nid yw mor amlwg bod mamaliaid, gan gynnwys dyn, yn gwneud hyn. Ar y pryd bu cryn drafodaeth a oedd hyn yn wir ai peidio. Synnai’r sŵolegwyr nad oedd ffermwyr na helwyr wedi sylwi ar hyn o’r blaen.
Yn awr mae’r un gwyddonwyr wedi cyhoeddi darganfyddiad hynotach fyth. Mae llwynogod bron yn ddieithriad yn neidio ar eu hysglyfaeth o gyfeiriad y de-orllewin – yn arbennig pan nad ydynt yn gallu gweld y prae cyn neidio yn uchel i’r awyr, yn ôl eu h arfer. Yn ôl papur yn Biology Lertters, bydd y neidiadau i’r gogledd-ddwyrain yn 72% llwyddiannus, tra bydd y llwyddiant yn gostwng i 18% o unrhyw gyfeiriad arall. Awgryma Hynek Burda, y prif awdur, bod llwynogod yn gweld cysgod ar retina eu llygaid sy’n ddyfnach i gyfeiriad y gogledd magnetig. Mae’r cysgod hwn bob amser yn ymddangos fel petai’r un pellter i ffwrdd. Y syniad yw bod y llwynog yn gosod y targed, neu o leiaf ei sŵn, yn y “cysgod” hwn, ac yna yn gwybod yn union i le i neidio. Tybed os oedd Siôn Blewyn Coch yn gyfarwydd â’r ystryw ?
Yr un modd fel ysglyfaeth y llwynog, ceisio cuddio yw camp pob milwr ar feysydd y gad fodern. Yn bur wahanol i’r llinellau cochion amlwg oes Wellington a Napoleon. Ond un peth yw cuddio dyn, peth arall yw cuddio tanc a hynny’n rhad am $ 4.5 miliwn yr un. Y syniad yw peidio â’u colli mewn brwydr. Syniad BAE Systems o Sweden yw troi’r tanc yn ryw fath o set deledu ar draciau. Byddai camerâu fideo ar y cerbyd yn cofnodi’r cefndir o bob cyfeiriad, ac yna yn ail greu’r llun ar sgriniau wedi’u cynnwys yn yr arfwisg ar ochr y tanc. Yn naturiol, nid yw BAE Systems yn awyddus i gyhoeddi’r manylion, ond gobeithir cael fersiwn weithredol o fewn pum mlynedd. Sialens fawr, mae’n debyg, yw cuddio to’r bwystfil a’r traciau. Ond problem fwy fyth yw cuddio’r gwres sy’n dod o’r cerbyd. Unwaith eto mae modd cymharu hyn â’r hyn syd’n digwydd ym myd natur yma, gan fod ambell neidr, megis y neidr ruglo (rattlesnake), yn hela’i hysglyfaeth yn y nos trwy synhwyro’r golau is-goch, sef y gwres, sydd dod ohono. Gwyddom fod chwysu yn oeri’r croen – ac efelychu hyn yw bwriad y peirianwyr arfau. Ffrydir dŵr o egsost y tanc ar hyd ei ochrau gan eu hoeri a’u cuddio rhag synwyryddion is-goch taflegrau. Y bwriad yw mynd gam ymhellach na gorchudd syml. Yn ôl BAE Systems, trwy reoli yn union pa rannau o’r arfwisg a oerir, neu y newidir eu lliw, byddai modd gwneud i’r tanc edrych fel Ford Focus, neu hyd yn oed fuwch !
Fel hen fuwch y gwelai Alf Garnett ei wraig yn Till Death do us part. Tacteg arall sydd gan ferched i’w hamddiffyn rhag dynion sy’n dangos gormod o ddiddordeb ynddynt. Yn y cychrgawn Science ceir disgrifiad o effaith arogleuo’u dagrau ar ddynion. Mewn arbrofion ar 24 dyn yn Athrofa Weizmann yn Rehovot Israel, diffoddai’r arogl eu cynnwrf rhywiol. Casglwyd dagrau dwy wraig wrth iddynt edrych ar ffilmiau trist. Ni allai’r dynion wahaniaethu rhwng dagrau â dŵr hallt wrth iddynt fynd ati i wneud hynny’n fwriadol, ond pan ofynnwyd i’r dynion dafoli pa mor atyniadol oedd cyfres o luniau o wynebau merched, roedd presenoldeb dagrau yn cael effaith sylweddol. Yna dangoswyd y ffilmiau trist i’r dynion – i weld a oedd cyswllt uniongyrchol. Y tro hwn mesurwyd lefelau testosteron y dynion, arwydd o gynnwrf rhywiol. Suddodd testosteron y dynion wrth weld y ffilmiau – ond dim ond os oeddynt yn clywed arogl y dagrau. Dywed Robert Provine, o Brifysgol Maryland fod hyn yn dangos bod dagrau yn creu signal cemegol a gweledol effeithiol – sy’n gweithio mewn goleuni neu dywyllwch. Nid yw’n amlwg pa mor bwysig yw’r broses hon mewn cydberthynas dynion a gwragedd, ond ymddengys bod merched yn crio mwy yn ystod y misglwyf – cyfnod diffrwyth o ran cenhedlu. Cred Noam Sobel, yn Rehovot, ei bod wedi darganfod y gair “na” yn ieithwedd cyfathrebu cemegol. Tybed a fydda’n werth chwistrellu dagrau, yn lle allyriant egsost, dros danciau’r byd? Nid yw Athrofa Weizmann nemor gan milltir o Rama, lle’r wylodd Rachel am ei phlant “am nad oeddynt mwy”.