Wel ? Sawl pwys ychwanegol a ymddangosodd, fel petai o nunlle, ar y glorian acw yn ystod y Nadolig ? Fy esgus i oedd y bu rhaid imi gario’r twrci ar fy nghefn yr holl ffordd o Fangor i Lanllechid trwy’r eira mawr a bod angen gwneud yn iawn am yr holl ymdrech. Beth bynnag, yn ôl f’ adduned blwyddyn newydd, Swshi “Shapers” fydd fy nghinio beunyddiol am yr wythnosau nesaf. Ond efallai fod achubiaeth ar gael ar dudalennau diweddar y cylchgrawn Science. Mae Joachim Vosgerau o brifysgol yn Pittsburg yn disgrifio ei arbrofion ar sut mae’r ymennydd yn cynefino â rhai pethau. Gofynnodd i grŵp o wirfoddolwyr ddychmygu eu bod yn bwydo 33 darn arian i beiriant laundrette. Tasg grŵp arall oedd dychmygu bwydo 30 darn o arian i’r laundrette ac yna bwyta tair losinen M&M. Bu rhaid i drydydd grŵp ddychmygu eu bod yn rhoi tri darn o arian i’r peiriant a bwyta 30 M&M. Ar ôl pob ymdrech ymenyddol gwahoddwyd aelodau pob grŵp i fwyta losin M&M go iawn o fowlen. Cymerodd aelodau’r grŵp olaf, y rhai a feddyliodd am y nifer mwyaf o’r losin rhith, nifer sylweddol yn llai o’r losin gwirioneddol. Y dehongliad yw bod meddwl am rywbeth yn ysgogi’r adwaith “cynefino” â’r peth go iawn, o leiaf lle bo bwyd dan sylw. Gobeithia Vosgerau y bydd modd defnyddio’r darganfyddiad yma i awgrymu ffyrdd newydd o annog colli pwysau neu, hyd yn oed, osgoi cymryd cyffuriau. Tybed a wnes i fwyta llai o’r twrci ddydd Nadolig ar ôl meddwl amdano yn holl ffordd o Fangor?
Fel arfer yn y golofn hon, ‘rwy’n ceisio adrodd hanesion newydd a chyfamserol. Felly mae sôn am daith y llong ofod Voyager 1, 33 mlynedd ar ôl ei lansio o Cape Kennedy, yn rhyfedd. Cafodd y lansio arbennig hwnnw ddylanwad annisgwyl ar fy mywyd. Roeddwn newydd gyrraedd Bangor ac wedi derbyn gwahoddiad gan Hywel Gwynfryn i gyfrannu i Helo Bobol . Fe ddefnyddiais ddelwedd bwrdd snwcer i ddisgrifio sut oedd NASA yn mynd i fanteisio ar ddisgyrchiant y planedau mawr un ar ôl y llall i chwipio’r llong ofod trwy system yr haul. Mae’n debyg i’r ddelwedd apelio at Hywel – ac mi ges wahoddiadau i ddod yn ôl. Dyma ddechrau gyrfa sydd wedi arwain yn uniongyrchol at lunio’r erthyglau hyn ar gyfer Barn. Yn y cyfamser bu hanes hollol anhygoel i Voyager 1. Ymwelodd â’r planedau Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion a nifer o’u lleuadau gan anfon oddi yno luniau a fydd yn eiconau traean olaf yr ugeinfed ganrif. Ond dros y Nadolig dechreuodd y llong fechan, trichwarter tunnell, ar antur newydd eto. Cyrhaeddodd ffin system yr haul a dechrau mentro tuag at y gofod diddiwedd rhwng y sêr – y gwrthrych dynol cyntaf erioed i wneud hynny. Ers mis Mehefin – pan oedd wedi cyrraedd 11 biliwn milltir o’r haul – methodd ei synwyryddion â theimlo gronynnau gwynt yr haul yn llifo allan. Bellach mae grymoedd y gofod y tu hwnt i’n teulu planedol ni yn gwthio’r gwynt hwnnw i’r neilltu. Gobeithia NASA y bydd y synwyryddion priodol a’r radio yn dal i weithio hyd at 2020; a fyddant yn abl i ddweud ffarwel wrthym o’r tu draw. Ar ôl 2025 ni ddisgwylir clywed mwy gan y teithiwr. Mewn cwta 40,000 o flynyddoedd, mi fydd yn pasio o fewn 1.6 blwyddyn goleuni (9.3 triliwn milltir) i seren AC+79 388 yng nghytser Camelopardws cyn symud ymlaen – yn cludo atgof Hywel Gwynfryn a bwrdd o beli snwcer gydag ef.
Yn y cylchgrawn Behavioural Process, cof creadur arall oedd wedi synnu seicolegwyr ymchwil o brifysgol yn Ne Carolina. Am dair blynedd fe ddysgodd ci defaid o’r enw Chaser enwau dros fil o wrthrychau. Dros y cyfnod hwn fe fyddai Allison Reid a John Pilley yn gosod 20 o’r gwrthrychau hyn mewn ystafell, yna gofyn i Chaser nôl un ohonynt o ystafell arall – er mwyn osgoi i’r hyfforddwr roi cliw arall yn ddiarwybod i’r ci. Mewn 838 prawf o’r fath ni fethodd y ci gael 18 o’r 20 yn gywir. Yn ogystal â hynny ‘roedd modd i’r ci adnabod perthynas eitem nad oedd yn ei adnabod ynghanol nifer o rai “cyfarwydd” gydag enw newydd. Hefyd fe ddysgodd eu dosbarthu yn ôl eu siâp a’u swyddogaeth – rhywbeth mae plant yn ei wneud pan fyddant yn dair oed. Sylw Ádám Miklósi, o grŵp ymchwil i ymddygiad cŵn anwes ym Mudapest, oedd bod hyn yn adlewyrchiad teg o ddawn cŵn i ddeall – er bod cywirdeb Chaser wedi’i godi i’r entrychion trwy’r hyfforddiant dwys. Eu gwendid yw nad oes ganddynt y ddawn i gyfathrebu yn ôl yn yr un modd. Mae’n amlwg i Nick Park, awdur Wallace a Gromit, ddeall hyn o’r cychwyn !
Wynebau hapus Wallace a Gromit oedd yn ein cyfarch ar stampiau’r Nadolig eleni. Ond wynebau eraill o’r sgrin fach a’r cylchgronau a’m cyflyrodd i dros y misoedd yn arwain at yr Ŵyl. Wynebau’r plant ag iddynt fwlch yn eu gwefusau. Eleni bu ymgyrchu brwd gan elusenau, megis Smile Train, i gywiro’r cyflwr hwn. Hawdd deall oblygiad y cyflwr i unrhyw blentyn mewn gwlad dlawd. Ar hyn o bryd llawdriniaeth yw’r unig gymorth; ond mewn papur yn rhifyn diwethaf Developmental Biology gwelir bod Biolegwyr Moleciwlar o Brifysgol Colorado Denver wedi dechrau darganfod sylfaen genynnol y cyflwr. Defnyddiwyd peirianneg genynnau i newid lefel y protein beta-catenin yng nghelloedd allanol wynebau embryonau llygod. Ar ei eithaf, pan ddilëwyd y protein yn llwyr, ni ddatblygodd y safn waelod o gwbl. Pan gyflyrwyd mwy o’r protein na’r arfer datblygodd safn a thrwyn gor-lydan. Swyddogaeth beta-catenin yw rheoli’r miloedd o enynnau sy’n gyfrifol am ffurfio’r wyneb – gan gynnwys rhai sydd eisioes wedi’i gysylltu â bwlch gwefus. Gobeithia Trevor Williams, arweinydd y grŵp yn Denver, y bydd modd rheoli gweithgaredd y protein yma yn y groth os tybir bod risg arbennig i’r embryo. Credir, hefyd, y bydd modd trin oedolion sydd wedi clwyfo eu hwynebau trwy ailraglennu’r celloedd i ail fowldio wyneb. Yn 2010 gwelwyd trawsblaniad wyneb cyfan am y tro cyntaf – y mae ymchwil o’r fath yma yn cyflwyno’r gobaith y bydd modd “ail dyfu” wyneb, ac osgoi namau datblygu o’r math sy’n melltithio miloedd o fabanod yn y trydydd byd heddiw. Da dechrau blwyddyn newydd yn y gobaith hwn.