Yn yr Ysgol Sul ers talwm fe’m dysgwyd i feddwl mai tebyg iawn i’w gilydd, yn y bôn, yw pob aelod o ddynoliaeth. Ond rhaid cyfaddef, wrth imi dreulio oes yn cydweithio gyda gwyddonwyr o bedwar ban byd, fe ddes yn fwyfwy i sylweddoli mai ffalasi oedd hyn. Dyma bwnc papur diweddar gan dri seicolegydd o Brifysgol British Columbia yn y cylchgrawn . Nid ydynt yn dweud fod rhywrai yn well na’i gilydd – fel yr arferid ei wneud ar un adeg – ond ein bod yn sylfaenol wahanol. Teitl y papur yw “The weirdest people in the world?” – nid wy’n ei gyfieithu’n fwriadol er mwyn cyflwyno ei acronym canolog ichi. WEIRD yw Western, Educated, Industrialised, Rich a Democratic. Go brin bod yna’r un darllenydd Barn sydd ddim yn un o’r rhain. Dadleua Joe Henrich, Steven Heine ac Ara Norenzayan bod seicolegwyr proffesiynol dros y byd yn dibynnu ar ganlyniadau astudiaethau’r grŵp weird yma i ddeall gweithgareddau’r meddwl dynol. Eu rhybudd yw mai annodweddiadol iawn yw’r dogn hon o boblogaeth y byd. Daw 96% o’r canlyniadau a gyhoeddwyd o wledydd y Gorllewin Diwydiannol a dau draean o’r rhain o blith myfyrwyr seicoleg. Ond nid yw 7 o bob 8 enaid byw ar y blaned yn perthyn i’r grŵp hwn a gwelir dro ar ôl tro, bellach, bod ein hymddygiad a chanfyddiad yn aml ar eithafion y sbectrwm byd eang. Mae ambell enghraifft yn gyfarwydd inni. Rhith Müller-Lyer yw enw’r diagram o ddwy linell gyfartal gyfochrog gyda phen saeth ar y ddeupen. Pan fo’r saethau yn anelu am allan ymddengys bod y llinell yn fyrrach na phan fo’r saethau ar i mewn. Yn ôl yn y 60au mesurwyd gan faint oedd angen cynyddu’r uchaf cyn iddo ymddangos yr un hyd a’r isaf. Roedd y canlyniad yn amrywio’n aruthrol ymhlith cenhedloedd y byd. I fyfyrwyr o Evanston, Illinois ‘roedd rhaid cynyddu’r uchaf o 20% cyn i’r ddau ymddangos yr un hyd. Ar y pegwn arall, doedd brodorion y San o’r Kalahari ddim yn gweld y rhith o gwbl – iddynt hwy roedd y ddwy linell yr un hyd. Credodd Marshall Segall, a wnaeth y gwaith yn y 60au, fod amgylchiadau ein bywydau WEIRD yn newid ein canfyddiad o geometreg ein byd ac felly ni sydd yn gwyrdroi’r realiti arbennig yma yn fwy na neb arall yn y byd. Enghraifft arall yw ein canfyddiad o berthynas pethau. Mae ieithoedd Indo-Ewropeaidd, fel y Gymraeg, yn hunan-ganolog yn hyn o beth. Wrth edrych ar ddafad mewn cae eglurwn, er enghraifft, fod y ddafad i’r chwith o’r goeden sydd hefyd yno. Ond nid yw’r patrwm hwn yn bod ym mhob iaith. I frodorion Namibia byddent yn dweud rhywbeth megis “mae’r ddafad i’r dwyrain o’r goeden”; patrwm arall-ganolog. Yn 2009 gwnaethpwyd arbrofion ar grwpiau o blant o’r Almaen a Namibia i weld dylanwad hyn. Dysgwyd dawns i’r plant a oedd yn cynnwys camau de, chwith, de, de. Yna trowyd y plant trwy 180 gradd a gofynnwyd iddynt ail wneud y ddawns. Dilynodd yr Almaenwyr yr un patrwm – ond gwelwyd y Namibiaid yn stepio chwith, de, chwith, chwith wrth iddynt ddilyn y canllawiau arall-ganolog. Wedi’r cyfan nid oedd y byd wedi troi trwy 180 gradd, ond dim ond y nhw! Credir mai’r patrwm arall-ganolog yw’r gwreiddiol a bod yr hunan-ganolog wedi ymddangos wrth i gymdeithasau dyfu o ran maint. Enghraifft arall sy’n dilyn yr un patrwm yw bod aelodau o grwpiau bychain yn fwy tebygol o ddisgrifio’r byd naturiol yn nhermau’r genws (bedw, derw, ffawydd) tra bod y meddwl WEIRD yn gweld “coed”. Er mai anwybodaeth oherwydd patrwm bywyd dinesig sydd wrth wraidd hyn, mae’n dylanwadu’n fawr ar sut mae’r unigolyn yn canfod ei hunan mewn cymdeithas. Un canlyniad i hyn yw amrywiaethau mawr o ran y canfyddiad o degwch a chyfiawnder. Mae’r rhain yn ymddangos yn glir mewn arbrofion labordy yn ogystal ag yn y gymdeithas. Mae cosbi yn anghyffredin iawn mewn grwpiau o tua 50. Mae grwpiau mawr sy’n ymwneud â marchnata yn fwy tebygol o fod yn fwy hael wrth estroniaid. Dadleua Henrich a’i gydweithwyr mai ni, y bobl WEIRD, yw’r eithriaid ac na fyddai ein cyndadau cynhanesyddol yn rhannu ein gwerthoedd. Ar ôl darllen yr erthyglau hyn, mi fydd yn rhaid imi ystyried yn ddwys sut yr af ati i gyfarwyddo myfyrwyr yn y dyfodol.
Rhaid pwysleisio nad oes tystiolaeth mai effeithiau etifeddegol sy’n gyfrifol am yr amrywiaeth hwn mewn canfyddiad; “Nurture” nid “Nature”. Ond yn gynyddol mae’r ffin rhwng y ddau yn ymddangos yn llai eglur beth bynnag. Cyfleustra peryglus yw’r duedd yn y wasg boblogaidd i gyhoeddi bod biolegwyr moleciwlar wedi darganfod genyn ar gyfer y cyflwr hwn neu’r llall. Hyd yn ddiweddar heresi fyddai dweud fod gweithredoedd un genhedlaeth yn effeithio ar enynnau’r nesaf; tir athroniaeth Lamarck a Lyshenko. Ond nid yw hyn mor wir bellach. Gwelwyd, rai blynyddoedd yn ôl, fod plant ac wyrion trigolion yr Iseldiroedd a ddioddefodd newyn tua diwedd yr ail ryfel byd, wedi mwynhau iechyd y corff gwell na’r disgwyl. Yr esboniad yw newidiadau epigenetig – sef newidiadau a ychwanegir i DNA ein genynnau heb newid y genynnau eu hunain. Credwyd tan yn ddiweddar, y dilëwyd yr holl ychwanegiadau hyn wrth ffurfio’r wy a’r had. Ond bellach ceir tystiolaeth eu bod yn para dros ddwy neu dair cenhedlaeth. Dros y misoedd diwethaf cyhoeddwyd sawl papur sy’n cyflwyno hyn mewn maes pur “wleidyddol”, sef ymddygiad rhieni tuag at eu plant. Ar dudalennau Biological Psychiatry rhoddir disgrifiad o arbrawf gyda llygod mawr. Ataliwyd gofal mam i un grŵp o gywion gwrywaidd yn ystod eu hwythnosau cyntaf. O ganlyniad datblygodd y llygod iselder ysbryd parhaol. Y syndod oedd bod yr un iselder yn ymddangos yn eu meibion a’u hwyrion, er eu bod hwy wedi mwynhau magwraeth llawn gofal. Yn wahanol i astudiaethau cynt o’r math hwn fe lwyddodd yr awduron i ddadansoddi’r newidiadau cemegol i’r DNA – ac felly brofi’r gadwyn epigenetig. Mewn dwy astudiaeth debyg ym Mhifysgolion Alabama a Montreal llwyddwyd i ddadansoddi pa rannau o’r DNA a effeithiwyd. Yn y ddwy darganfuwyd newidiadau mewn genynnau a oedd yn gysylltiedig â sgitsoffrenia ac anhwylder bi-polar mewn pobl. Mae’r awgrym yn glir. Mae modd i ymddygiad un genhedlaeth effeithio ar etifeddiaeth y ddwy nesaf. Y gobaith yw, wrth ddechrau deall y prosesau hyn y bydd modd deall mwy am effeithiau amgylchiadau ar iechyd meddwl – ac hefyd ar sut i ymyrry yn gemegol i ddadwneud y newidiadau niweidiol epigenetegol.
Ond i orffen dyma ddathlu pen-blwydd arbennig eleni. Mae’r system “SI” yn hanner cant oed eleni. Yn 1960 cytunwyd yn gyntaf ar Le Système International, sef nifer bychan o unedau mesur creiddiol a fyddai’n sylfaen i fesur masnach a thechnoleg y byd a’r bydysawd. Aeth hyn yn llawer pellach na “metrigeiddio”, er bod y metr yn enghraifft o un o’r unedau creiddiol. Un canlyniad oedd rhoi’r gorau, yn y cyfamser, i ddefnyddio gwrthrychau hanesyddol fel y “safon” a throi at ffenomenau cyffredinol. Er enghraifft, trodd y metr “perffaith” o fod yn hyd un darn arbennig o blatinwm ac iridiwm mewn Athrofa yn Sèvres, Ffrainc i fod yn gyfwerth a’r pellter mae goleuni yn symud mewn 1/299,792,458 eiliad. Bellach dim ond un o’r unedau sylfaenol sydd wedi’i diffinio yn ôl un gwrthrych hanesyddol. Erys y kilogram yn gyfwerth a silindr, hefyd o blatinwm ac iridiwm, wedi’i gadw’n ofalus yn Sèvres. Ond mae cynlluniau ar droed i newid hyd yn oed hwn. Ar ôl hynny, efallai y byddwn yn dal i anghytuno ar sut yr ydym yn canfod y byd yn gymdeithasol a chelfyddydol – ond ni fydd esgus i beidio â chytuno ar sut i’w fesur. WEIRD yn wir. Blwyddyn Newydd Dda i bawb sy’n digwydd cychwyn eu blynyddoedd yn ystod yr wythnosau nesaf !