Barn 39 (Tachwedd 2010): Gwartheg a Sment, Stuxnet, Esblygiad, Polio,

Yr Athro Gareth Wyn Jones gychwynnodd Raglen Aeaf Cymdeithas Wyddonol Gwynedd eleni. Cafwyd detholiad ac esboniad ar sawl agwedd o adroddiad Defnydd Tir a Newid yn yr Hinsawdd a gyflwynwyd i’r Cynulliad gan bwyllgor y bu’n ei gadeirio yn gynharach yn y flwyddyn.  Brîff y pwyllgor oedd cynghori Elin Jones (Materion Gwledig) a Jane Davidson (Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai) ar sut y medrid lleihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a ddaw yn sgil diwydiant amaeth Cymru. Mae’r ffigyrau yn drawiadol, gyda’r sector yn cynhyrchu tua 11% o allyriadau Cymru. Ymddengys yn sicr y bydd newidiadau sylweddol yn y ffordd y byddwn yn cyflenwi anghenion cig eidion ac oen yn y dyfodol os ydym am ddechrau cyrraedd gofynion cytundebau megis Kyoto a Chopenhagen. Dadleua’r Adroddiad y bydd rhaid newid agweddau’r amaethwr a’r cwsmer fel ei gilydd.

Fel arfer gyda diwydiannau trwm a thrafnidiaeth y cysylltwn y nwyon sydd wrth wraidd cynhesu byd eang anthropomorffig. Yno mae’r prif gyfranogion. Un o’r rhain yw’r diwydiant sment. Wrth rostio calchfaen (calsiwm carbonad) i greu calch (calsiwm ocsid) rhyddheir swmp sylweddol o garbon deuocsid. Dros y byd i gyd, daw 1.5 biliwn tunnell bob blwyddyn o’r ffynhonnell hon. Dyma tua 5% o holl gynnyrch dyn; sy’n fwy na’r holl CO­2 a ryddheir gan awyrennau’r byd. Yn ddiweddar mae’r diwydiant wedi cynnig ateb newydd a gwreiddiol i hyn. Yn lle cynnyrch sy’n creu CO2, ceir math o sment sy’n ei fwyta. Yn lle cychwyn gyda chalsiwm carbonad, y defnydd crai yw magnesiwm silicad.  Ceir hwn mewn mwynau megis Serpentine. Wrth ei gynhesu i ryw 700ºC ffurfir magnesiwm ocsid. Mae i hwn ddwy nodwedd. Yn gyntaf, mae’r tymheredd yn is na’r hyn sydd ei angen ar odyn galch (tua 1400ºC), ac felly yn defnyddio llai o danwydd. Yn ail, trwy ddefnyddio dŵr wedi’i drwytho â CO2 mae’r nwy hwn yn dod yn rhan o’r sment yn uniongyrchol ar ffurf magnesiwm carbonad.  Yn y dyfodol agos, daw’r CO2 hwn o un o’r prosesau hidlo carbon (carbon capture) a fydd yn rhan o losgi tanwydd ffosil mewn pwerdai ac ati. Yn lle cynhyrchu’r nwy tŷ gwydr hwn, bydd y diwydiant sment yn dod yn rhan o’r ateb i un o broblemau mawr technegol ein hoes trwy ei ddefnyddio a’i leihau. Mae Novacem, cwmni o Lundain, yn honni y bydd ei gynnyrch nhw yn carcharu 50 kg am bob tunnell o sment, tra bo sment “Portland” traddodiadol yn rhyddhau 700-900 kg am bob tunnell.

Wrth gwrs, mae pob ateb Technofix o’r math yma yn dod â phroblemau yn ei sgil. Yn ddiweddar gwelwyd un eithaf sinistr. Yn 2007, ysgrifennais yn y golofn hon am y Rhyfel Seibr gyntaf wrth i Rwsia, mae’n ymddangos, “ymosod” ar systemau cyfrifiadurol banciau a chwmnïau eraill yn Estonia ar gyfnod lle bu awdurdodau’r wlad fechan honno yn ei gwneud hi’n anodd i’w phoblogaeth ethnig Rwsiaidd.  Yn awr diwydiant niwclear Iran yw’r targed.  Nid yw’n hysbys pwy yw’r ymosodwr – ond gellir meddwl am sawl posibilrwydd.  “Mwydyn” cyfrifiadurol o’r enw Stuxnet yw’r arf ac fe’i cynlluniwyd yn unswydd i heintio systemau rheoli ffatrïoedd, megis Atomfeydd.  Bydd y rhyfelwr seibr yn cario’r mwydyn ar “Go’ Bach” USB cyn ei gysylltu â chyfrifiadur o fewn rhwydwaith y ffatri. Yna mae’n epilio trwy’r system ac yn anelu at y darnau hynny o’r rhaglenni sy’n rheoli falfiau, pympiau ac ati. Gwneir hyn yn haws gan y defnyddir rhaglen, SCADA, a  ysgrifennwyd gan Siemens o’r Almaen, yn eang iawn trwy’r byd i’r diben hwn. Dywedodd llefarydd o gwmni gwarchod meddalwedd Symantec bod oblygiadau Stuxnet yn bellgyrhaeddol gyda’r bygythiad y gall ymosodwr reoli argae, safle trin carthion neu bwerdy yn y modd hwn.

Os ydy defnydd meddalwedd cyfrifiadurol yn esblygu, ar dudalennau Biology Letters yn ddiweddar cyhoeddwyd tystiolaeth glir o ddylanwad dyn ar esblygiad pysgodyn sy’n byw mewn ogof ym Mecsico. Unwaith y flwyddyn mae aelodau tylwyth y Zoque yn taflu gwreiddiau planhigyn y Barbasco i ddyfroedd drewllyd ogof Cueva del Azufre. Seremoni grefyddol yw hon, lle mae gwenwyn yn y gwreiddyn yn lladd pysgod dyfroedd yr ogof wrth i’r llwyth ymbil ar y Duwiau i ddod â glaw i’r ardal.  Cymharodd Mark Tobler o Brifysgol A&M Tecsas ymateb y pysgod o’r llyn ag ymateb rhai eraill a ddaliodd yn nes i darddle nant yr ogof. Synnodd weld nad oedd y pysgod eraill hyn yn gallu gwrthsefyll effeithiau’r gwenwyn gystal â physgod Cueva del Azufre. Roedd y rheiny wedi addasu dros y canrifoedd i weithgaredd y Zoque. Enghraifft bendant o ddyn yn chwarae rhan yn esblygiad y pysgodyn bach.

Yr enghraifft fwyaf amlwg o effaith dyn ar organeb byw, mae’n debyg, yw ei dileu. Dyma beth a ddigwyddodd yn 1979 pan ddilëwyd firws melltith y Frech Wen o bobloedd y byd.  Ers hynny araf iawn fu llwyddiant tebyg yn erbyn firws arall – Polio. Ers 1988, pan gyhoeddodd y WHO’r nod hwn, bu llwyddiannau mawr, ond hefyd, rwystredigaethau mawr.  Ar un adeg, er enghraifft, ‘roedd arweinwyr Mwslimaidd Nigeria wedi pregethu yn erbyn y brechiad a honni ei fod yn dwyll gan y gorllewin. Bellach, daeth newid yn eu hagwedd a gostyngodd nifer yr achosion o’r clefyd 99% yn y wlad honno. Yn India, hefyd, mae lleihad o 88% wedi bod eleni ac mae awdurdodau Pacistan wedi ei gadw draw er gwaethaf y llifogydd mawr.  Ond wrth i’r dirwasgiad gerdded y byd mae problemau yn dod yn ei sgil. Bu Tajikistan a Gweriniaeth y Congo yn rhydd o’r clefyd ers degawd. Ond wrth feddwl fod y broblem ar ben cafwyd gostyngiad yng nghanran y brechiadau yn y gwledydd hyn ac, unwaith eto, parlyswyd cannoedd o blant. Dywed Ymgyrch Gwaredu Polio’r Byd eu bod yn fyr o bron i draean o’r $2.6 biliwn sydd ei hangen eleni.

Hyd yma cyflenwi’r brechlyn yw’r anhawster. Nid cost uniongyrchol y cyffur yw’r broblem gymaint â’r angen am gyfundrefn soffistigedig gostus o rewgelloedd ac ati i’w ddosbarthu i bob cwr o’r byd. Ond nawr y mae bygythiad arall. Bu farw naw babi yng Nghaliffornia a phedwar yn Awstralia eleni o’r Pâs.  Dyma’r epidemig gwaethaf ers blynyddoedd yng ngwledydd cyfoethog y byd. Unwaith eto, diffyg cynnal canran digon uchel o frechiadau yw’r prif reswm, ond mae hefyd dystiolaeth bod y bacteriwm yn dechrau magu gwrthiant i’r brechiad. Os yw hyn yn wir, dyma fydd yr enghraifft gyntaf o hyn ymhlith clefydau dynol.

Rwy’n sicr y byddwn yn clywed am hyn rywbryd yng Nghymdeithas Wyddonol Gwynedd. Cofiwch ddod draw os ydych yn byw yn yr ardal. Nos Lun cyntaf y mis.