Barn 39 (Hydref 2010): Y Jetlif, DNA’r Gwyddelod

Nid yw pethau’n hawdd i’r rhai hynny sy’n ceisio profi mai gweithgaredd dyn sydd wrth wraidd newid hinsawdd.  Rhaid cofio iddi gymryd bron i hanner ganrif i genedlaethau o wyddonwyr berswadio’r awdurdodau fod ysmygu tybaco yn beryglus. Un ffactor oedd hwnnw, ac un sy’n lladd hanner y rhai hynny sy’n ymwneud ag ef. O’i gymharu bydd newid meddwl “gwrthodwyr newid hinsawdd” yn filwaith anoddach. Nid dim ond un diwydiant – y diwydiant tybaco – oedd â chymaint i’w golli yn hanes y naill ond carfan eang o’n ffordd faterol ddiwydiannol ni o fyw sy’n gwrthwynebu yn achos newid hinsawdd. Yn anffodus, nid oes gennym hanner can mlynedd i newid pethau.  Un o’r anawsterau yw ei bod yn hanfodol bod gwyddonwyr yn dal wrth egwyddorion gwrthrychiaeth eu galwedigaeth. Nid yw hyn yn hawdd mewn brwydr wleidyddol o’r fath.  Roedd patrymau dinistriol tywydd Asia a rhannau eraill o’r byd eleni yn enghraifft o hyn. Hawdd fyddai clochdar mai dynoliaeth oedd yn gyfrifol.   Bu’n haf o eithafion – yn enwedig yng ngorllewin Rwsia, lle bu fforestydd yn llosgi ar raddfa aruthrol a chymaint o golledion yn y cynhaeaf grawn fel y bu rhaid i’r Arlywydd Putin wahardd allforio er mwyn cadw pris bara rhag codi’n sylweddol yn ei wlad.  Fe brofon ni fel teulu effaith y tanau yma wrth deithio o Fosgo i Kazan ganol Awst. Er na welsom mo’r fflamau o’r trên, roedd y siwrnai yn debyg i’r profiad hwnnw o gael eich dal mewn mwg coelcerth pan fo’r gwynt yn sydyn yn troi yn eich erbyn. Yr un fu’r hanes i’r de ym Mhacistan, lle darlledwyd i’r byd luniau effeithiau’r llifogydd ar fywydau miliynau o drigolion y wlad honno.  Yn Siapan bu farw dros 60 yn uniongyrchol oherwydd y gwres aruthrol, a bu tywydd anghyffredin yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Hawdd fyddai cymryd yn ganiataol mai ein hoffter ni o losgi tanwydd ffosil oedd wrth gefn hyn oll. Onid enghreifftiau clir o wresogi byd eang oeddynt ?  Yn anffodus, mae’n ymddangos nad hynny oedd ar fai y tro hwn. Cysylltwyd yr holl ddigwyddiadau hyn – a hefyd diwedd sydyn ein cyfnod o dywydd braf ni yng Nghymru, a hynny mewn pryd i’r glaw ddisgyn ar Lyn Ebwy wythnos yr Eisteddfod, gan un patrwm awyr rhwng 5 a 9 milltir uwch ein pennau. Yno y llifa Jetlif y Pegwn – afon o wynt nerthol sy’n rhuo yn grwn o gwmpas y byd o’r gorllewin i’r dwyrain.  Defnyddia awyrennau modern yr afon hon i gwtogi amser teithio tua’r dwyrain – megis wrth hedfan o Efrog Newydd i Lundain. Ond nid yw llif yr afon hon yn llyfn, gan y bydd yn ymgordeddu wrth i wyntoedd cryf wthio tuag ato o’r de a’r gogledd.  Gelwir yr ystumiau yma, sy’n ymestyn dros filoedd o filltiroedd, yn donnau Rossby ar ôl y ffisegydd Carl-Gustav Arvid Rossby a’u darganfu yn 1939. Fel arfer mae’r tonnau hyn, yn symud yn barhaus megis symudiadau mwydyn newydd ei godi o’r pridd. Brwydr yw’r patrwm rhwng y llif ei hun, sy’n symud i’r dwyrain ar gyflymder o ryw gan milltir yr awr, a’r effaith Rossby sy’n gwthio tua’r gorllewin. Yr haf hwn am dros wythnos bu’r ddau yn hollol gyfartal. Rhewodd y patrwm dros ran helaeth o Asia. Parhaodd gwyntoedd poeth gwlyb i lifo o’r Affrig i’r gogledd yn ddi-dor. Wrth groesi dwyrain Ewrop disgynnodd y glaw gan adael awyr boethach, sych lifo dros Mosgo a dwyrain Rwsia. Megin i gynhesu einion dros fil o filltiroedd ar ei thraws. Ar yr un pryd bu llifoedd oer o’r gogledd o’r ddeutu i’r Jetlif siâp pedol hwn. Daeth un â haf cynnar gorllewin Ewrop i ben a’r llall, gan greu argyfwng, â glaw mawr i’r mynyddoedd sy’n gorwedd i’r gogledd o Bacistan.  Mewn erthygl yn y cylchgrawn Environmental Research Letters mae’r astroffisegydd Mike Lockwood o Brifysgol Reading yn cyflwyno tystiolaeth a gasglwyd dros 350 o flynyddoedd i gysylltu’r cyfnodau “rhewi” hyn â phatrymau yn newidiadau actifedd yr haul. Er enghraifft, profwyd nifer anghyffredin ohonynt yn ystod y tair blynedd diwethaf – cyfnod tawel yn hanes actifedd yr haul. Un dylanwad positif oedd i’r patrwm ohirio am ychydig gychwyn tymor y stormydd trofannol yn Gwlff Mecsico gan roi mwy o amser i BP gau gorlif olew’r Deepwater Horizon.

Wn i ddim sawl peiriannydd o dras Wyddelig a fu’n rhan o’r ymgyrch honno, ond mae grŵp o fiolegwyr moleciwlar ym Mhrifysgol Dulyn wedi dangos eu bod o dras pur wahanol i’r gweddill ohonom. Ar ddechrau Medi cyhoeddwyd trefniant cyfan cyntaf DNA cynrychiolydd o’r Ynys Werdd.  Gwelwyd nifer sylweddol o amrywiadau anghyffredin ynddo – dros 400,000 ohonynt. Roedd hyn yn llawer mwy nag a ddisgwylid, a thystiolaeth o dras wahanol nad oedd wedi’i chanfod o’r blaen wrth astudio DNA’r byd.  Bydd hyn o ddefnydd mawr i’r rhai hynny sy’n ceisio dilyn symudiadau pobloedd trwy gydol hanes. Yn bwysicach, efallai, bydd modd cysylltu nifer o’r rhain – rhyw 8000 – â chlefydau megis llid y coluddyn a chlefydau’r afu. Trwy wneud hynny bydd modd deall mwy am darddiad yr anhwylderau hyn a sut i’w trin. Tybed a fydd modd darganfod genynnau ar gyfer siarad ffraeth o’r dystiolaeth ? Neu o leiaf ddarganfod mecanwaith dylanwad cusanu carreg castell Blarney. Rhywbeth sydd hyd yn oed yn fwy astrus na deall patrymau hinsawdd y byd. Pob lwc iddynt.