Barn 37 (Medi 2010): Marwolaeth, Cyd-ddealltwriaeth, Robotiaid Rhyfel

Ddiwedd Mehefin eleni bu farw un a fu’n gymorth garw imi ar gychwyn fy ngyrfa fel biocemegydd ac a fu’n ffrind da ers hynny. Y Dr Tom Parry, Dinas Powys, oedd pennaeth adran batholeg Ysbyty Llandochau yn y 60au a’r 70au. Ganddo ef y cefais y cyfle i brofi peth o hwyl labordy proffesiynol yn ystod hafau fy chweched dosbarth – heb sôn am fy nghyflog cyntaf ! Profiad Gwaith blwyddyn 12 ac 13 fyddai’r enw arno heddiw, mae’n debyg. Bu farw yn 94 oed ar ôl bywyd hir, ffrwythlon a llwyddiannus. Gwyddwn fod ei weddw, Margaret, hefyd yn eithaf gwan; ond syndod mawr oedd clywed am ei marwolaeth hithau hefyd ar ddechrau wythnos yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy – prin 5 wythnos ar ôl ei gŵr.  Er hynny, nid peth anghyffredin yw clywed hanes o’r fath, a chyfeirir at hyn yn aml fel petai ryw ragluniaeth ar waith yn trefnu hyn.  Dangosodd sawl astudiaeth fod dynion (30%) a gwragedd (90%) mewn oed yn fwy tebygol o farw o fewn tri mis i golli cymar na’r hyn a ddisgwylir yn achos pobl eraill o’r un oed.  Tybiwyd mai cyfuniad o straen a system imiwnedd oedrannus a gwan oedd wrth wraidd hyn. Bellach mewn papurau yn y cylchgrawn Ageing Cell a Molecular Endocrinology mae Janet Lord, imwnolegydd o Brifysgol Birmingham, wedi darganfod natur y gwreiddyn hwnnw. Mae’r straen, sy’n dod o golli partner, yn cynyddu lefelau cortisol naturiol y gwaed. Yr un cortisol yw hwn a’r hyn a ddefnyddir fel meddyginiaeth i leddfu poenau corff llidiog.  Gwna hyn trwy wanhau’r gyfundrefn imiwnedd sy’n creu’r llid, a dyma a welir wrth i lefel cortisol naturiol gynyddu yn dilyn straen.  Ond yn ogystal, mae’r corff yn cynhyrchu hormon sterol (DHEAS) sy’n cyflyru adweithiau’r system imiwnedd. Cydbwysedd y ddau (cortisol a DHEAS) sy’n sicrhau fod ein himiwnedd yn parhau i’n gwarchod rhag bacteria a heintiau tebyg.  Ond, henaint ni ddaw eu hunan.  DHEAS yw un o gemegolion crai’r hormonau rhyw, testosteron ac estrogen. Wrth inni ddod yn ganol oed mae eu lefelau yn suddo. Wrth heneiddio, felly, mae llai ohono i wrthweithio effaith y cortisol. Bellach mae Janet Lord wedi darganfod cymhareb cortisol/DHEAS uchel a chelloedd gwyn yn gwanio yng ngwaed gweddwon oedrannus yn ystod deufis cyntaf eu profedigaeth. Nid yw’n annog defnyddio DHEAS ymhlith gweddwon, ond mae hi’n bwriadu ei ddefnyddio i weld a oes modd cryfhau’r celloedd gwynion ar ôl trin toriadau asgwrn y glun – straen cyffredin arall ymysg yr henoed.

Nid oes rhaid darllen meddwl i gydymdeimlo ar ôl marwolaeth, ond mae papur diweddar o Brifysgol Princeton yn PNAS yn awgrymu efallai mai dyna’n union a wnawn.  Rwyf wedi sôn yn y golofn hon o’r blaen am y celloedd “drych” yn ein hymennydd sy’n efelychu celloedd ymenyddiau pobl eraill. Mae’n debyg bod hyn yn ei gwneud hi’n haws inni ddeall beth sy’n digwydd o’n cwmpas. O bosib diffyg yn y drefn hon yw un o anawsterau Awtistiaeth.  Mae papur eleni gan Uri Hasson yn disgrifio arbrofion lle sganiwyd pennau cynulleidfa oedd yn gwrando ar wraig yn adrodd stori. (Yn ogystal â sganio pen y wraig ei hun.)  Trwy wneud hyn, ‘roedd modd dilyn pa rannau o’r ymennydd oedd yn ymateb i’r stori. Ym mhob achos ‘roedd ymenyddiau’r gwrandawyr yn dilyn un y storïwr yn union; y rhan fwyaf ohonynt ar ôl oedi o ryw 1-3 eiliad. Ond ‘roedd ambell un yn “rhagweld” y stori, a’u patrymau meddwl yn rhagflaenu patrymau meddwl y storïwr ! Y gwrandawyr gyda’r cytgord gorau oedd y goreuon wrth ail adrodd y stori.  Cred Hasson mai’r agosaf yw ein patrymau meddwl wrth gyfathrebu, y gorau yw ein cyd-ddealltwriaeth.  Wrth gwrs, nid “darllen meddwl” yn nhrefn ffug Uri Geller yw hyn – ac felly nid oedd yr un peth yn digwydd pan adroddwyd y storiâu mewn Rwsieg a oedd yn annealladwy i’r gynulleidfa. Er hynny, nid oedd modd i’r New Scientist osgoi llun y Vulcan enwog â chlustiau pigfain a chyfeirio at mind-melding wrth adrodd yr hanes.

Cyfeiriad at y Trekkies Trist ymhlith darllenwyr Barn yn unig, efallai, oedd hynny. Ond roedd erthygl yn rhifyn Mis Gorffennaf o Scientific American yn mynd â ni yn anhygoel o agos i fyd y Terminator. Sôn oedd yr awdur, Peter. W. Singer, am y defnydd o filwyr robot yn rhyfeloedd y dyfodol. Yn wir, yn rhyfeloedd y presennol. Yn ôl yn y 70au cynnar ffurfiwyd cymdeithas broffesiynol o’r rhai hynny â diddordeb mewn systemau rhyfel di-beilot (unmanned). Am ddegawd a mwy, grŵp di-ddylanwad o anoraciaid, megis dilynwyr Star Trek, oeddynt.  Wrth i’r cynghreiriad ymosod ar filwyr Saddam Hussein yn 2003 nid oedd yr un arf o’r fath yma yn eu meddiant. Ond bu cryn dro ar fyd. Bellach ymunodd 7,000 o awyrennau di-beilot a thros 12,000 o gerbydau eraill heb griw rhengoedd yr Unol Daleithiau. Mae ganddynt ddyletswyddau yn hela saethwyr cudd (snipers), bomio uchel-swyddogion al-Qaeda a gweithgaredd tebyg. Ceir manylion o bob math o daclau yn llyfr Singer – Wired for war:  The Robotics Revolution and Conflict in the 21st Century a gyhoeddwyd yn 2009. Ond nid technoleg ddramatig pethau megis y drôn sbïo ar ffurf a maint hummingbird a ddaliodd fy sylw, ond ei sylwadau am newid natur rhyfel. Yn fuan iawn cawn weld arfau llwyr hunangynhaliol yn chwilio yn awtomatig am dargedau. Robot yn ceisio gwahaniaethu yn y tywyllwch rhwng baban cynnes yng nghôl ei fam â Kalashnikov AK47 newydd ei danio ar arffed rhyfelwr Affghan – ac yna’n saethu, neu beidio â saethu.

Ond eisioes gofynnir pwy sydd ar fai, chwedl Bob Dylan, pan fo pethau’n mynd o chwith. Yn ddiweddar cam-raglennwyd un arf saethu awyrennau awtomatig yn Ne’r Affrig. Yn lle saethu i’r awyr, jamiodd y gwn yn llorweddol a saethu mewn cylch gan ladd naw milwr cyn rhedeg allan o fwledi. Pwy oedd ar fai – y rhaglennydd ? y peiriannydd ? y swyddog ?  Ar hyn o bryd mae gan y rhan fwyaf o’r arfau “di-beilot” hyn yrrwr – yn eistedd o bell wrth gyfrifiadur, megis chwaraewr gemau rhyfel. Pan glywn am hanes un o’r awyrennau di-beilot yma’n lladd rhyfelwr, neu deulu diniwed (amcangyfrifir bod rhwng 200 i 1000 teulu hyd yma), yn Affghanistan y mae’r “gyrrwr” hwnnw yn gweithio mewn swyddfa 7000 o filltiroedd i ffwrdd yn yr Unol Daleithiau. Cyfeiria Singer at y ffaith mai’r perygl mwyaf i hwnnw yw’r siwrnai nôl adref o’r gwaith gyda’r nos. Gofynna Singer, onid yw yntau’n darged “cyfreithlon” i’w dargedau yntau? Ai terfysgaeth fyddai ymosod arno yn ystod ei daith adref, neu wrth ei frecwast, neu wrth fynd â’i ferch i’r pwll nofio fore Sadwrn ? Bu rheolau i ryfela erioed – ers dyddiau sifalri a chyn hynny.  Tristwch yw sylweddoli ei bod yn anochel y bydd yn rhaid cyfannu  i ddilyniant hanes trais y ddynoliaeth trwy eu hailysgrifennu eto ar gyfer rhyfeloedd yr unfed ganrif ar hugain.

Ond i geisio osgoi gorffen ar draw pesimistaidd. Yng nghynhadledd Cymdeithas Deallusrwydd Artiffisial America ym mis Gorffennaf, darllenwyd papur ar ddefnyddio’r un dechnoleg yng nghyd-destun dod o hyd i bobl sydd ar goll a’u hachub.  Efallai’n wir y cawn weld hofrenyddion awtomatig di-beilot yn cymryd lle’r peiriannau melyn â’u criwiau o’r Fali sydd mor brysur yn fy ardal i yn Nyffryn Ogwen trwy gydol y flwyddyn. Tybed a fyddai modd i ambell fugail fodio pas ganddynt i lawr o’r mynydd ?  Byddai hynny yn lleihau lefelau cortisol pawb o bob oed.