Barn 35 (Mehefin 2010): Corach frown, Dŵr poeth, DNA Neanderthal

Roedd yn braf edrych ar dân glo yn llosgi mewn hen “range” yn un o dai Rhydycar yn Amgueddfa Sain Ffagan y diwrnod o’r blaen.  Fe wnaeth imi feddwl faint o wyddoniaeth sydd ynghudd ac allan o’r golwg â’r meddwl yn ein hoes bellach. Pan oeddwn yn fachgen, rhaid cyfaddef imi fod yn dipyn o byromaniac. Na, nid wyf yn cyfaddef ar dudalennau Barn mai fi oedd Rhys Gethin, ond adrodd fy mod wedi dysgu llawer wrth arbrofi gyda’r tanau glo a oedd yn ein cadw’n gynnes fel teulu. Taenu halen drosto i weld lliwiau’r fflamau troi’n borffor-goch wrth i’r potasiwm adweithio. Neu lwytho llwyaid o siwgr i’w weld yn toddi, llosgi ac ymgordeddu megis “lafa” o fynydd tân cyn caledu wedyn yn golsyn; model perffaith o’r hyn a welir ar lethrau llosgfynyddoedd Hawaii. Ond un o’r pethau a gysylltais yn uniongyrchol â’m dosbarthiadau ffiseg oedd lliw’r glo wrth losgi. Yn wir, mae’r geiriau Cymraeg yn berffaith – “gwynias” ar gyfer y tân poethaf a cholsyn coch ar gyfer gwres mwy cymedrol. Mewn rhan arall o Sain Ffagan, efail Llawryglyn, gellir gweld y ffenomen wrth i’r gôf ddefnyddio’i fegin. Wrth boethi, mae’r cols coch yn dringo lliwiau’r enfys – coch, oren, melyn, glas ac yna gwyn. I ddweud y gwir, nid newid lliw sy’n digwydd ond ychwanegu lliwiau. Y cyflwr poethaf yw gwyn – sef yr holl liwiau ynghyd.  Roedd yn bwysig i ôf y pentref ddefnyddio’r lliw o’r ffwrnais i reoli ei grefft – ac roedd yn cadw ei weithdy yn dywyll i’w gynorthwyo yn hyn o beth. Heddiw mae seryddwyr yn defnyddio’r un tric i fesur tymheredd sêr. Mae haearn yn troi’n hylif ar tua 1500 gradd – gryn dipyn yn uwch na’r hyn sydd ei angen ar ôf i’w weithio. O’i gymharu, mae wyneb yr haul ar dymheredd o tua 6,000 gradd canradd – ac mae’n ymddangos yn wyn o’r herwydd. (Confensiwn yw ei alw’n “felyn” – meddyliwch, petai’n felyn go iawn byddai papur “gwyn” yn ymddangos yn felyn yn ei oleuni.)  Ym mis Ebrill eleni, darganfu seryddwyr o Brifysgol Hatfield seren tua 10 blwyddyn golau o’r ddaear sy’n frown.  Corach Frown yw’r enw a roddir ar y fath yma o seren. Nid ydynt yn ddigon mawr i gynnal yr adweithiau niwclear sy’n cynnal sêr cyffredin fel ein haul. Ei ffawd, ar ôl eu ffurfio, yw pylu’n araf megis y colsyn olaf yng nghefn y lle tân. Dyma’r enghraifft agosaf i’r ddaear hyd yma – a’r seren agosaf i’w darganfod ers 1947. Ei henw yw UGPS 0722-05 a hon yw’r seren oeraf erioed i’w chanfod. Tua 230 gradd canradd yw ei hwyneb –  llai na thymheredd popty poeth yn y gegin. Byddai’n ymddangos megis haul tywyll mewn cefndir serennog o unrhyw blaned iddo.

Yn yr un mis darganfuwyd, ar waelod y Caribî, ddŵr o dymheredd dros gan radd yn uwch na hyn – digon i doddi plwm. Ar ddyfnder o 5000 metr daeth gwyddonwyr o sefydliad InterRidge o hyd i’r echdoriad folcanig dyfnaf erioed.  Darn bach o waelod y môr yn boethach na wyneb seren. Pwysedd y dŵr sy’n ei atal rhag berwi. Mae’n debyg bod lliwiau hardd hefyd i’w gweld yno – ond nid lliwiau’r gwres y tro hwn ond glas ffluoroleuo y microbau sy’n byw yno, yn amsugno’r egni cemegol o’r mineralau, ymhell o olau gwyn yr haul.

Ond y newyddion a’m synnodd fwyaf y mis hwn, oedd darllen y dystiolaeth ddiweddaraf am ein cyndadau ar y ddaear. Ddechrau Mai, yn y cylchgrawn Science, cyhoeddwyd dilyniant llawn DNA dyn Neanderthal, sef math o ddyn a ddiflannodd o wyneb y ddaear tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl. Ers dros ganrif bu cryn ddyfalu beth yn union oedd ein perthynas gyda’r hil arbennig hon o ddynoliaeth ffosil.  Roedd gwahanol fathau o ddadansoddiad o’i esgyrn yn dueddol o arwain i’r canlyniad nad oeddem yn ddisgynyddion iddynt – ond bod cyndadau’r ddwy rywogaeth wedi cyrraedd Ewrop yn annibynnol degau neu gannoedd o filoedd o flynyddoedd yn ôl.  Cyfyrdyr, neu geifn, oeddem felly, yn hytrach na brodyr. Yn wir, pan ddadansoddwyd DNA’r mitocondria a oedd wedi goroesi mewn dannedd sgerbydau rai blynyddoedd yn ôl, ‘roedd yn ymddangos nad oeddem yn perthyn yn agos. Ond rhan fechan iawn, annodweddiadol o holl DNA creadur, yw’r hyn a ddaw o’i fitocondria. Bellach daeth y newyddion syfrdanol yr ymddengys bod cymaint â 4% o’r DNA cyfan (yr hyn a elwir yn enom) trigolion Ewrop ac Asia yn hanu o’r Neanderthalaid.  Roedd le, efallai, i dybio mai yn Ewrop, lle bu’r Neanderthal yn bennaf yn byw y byddai unrhyw gyswllt i’w weld. Felly, mae’r un canlyniad am boblogaethau modern China, a hyd yn oed ynysoedd y Môr Tawel,  yn fwy annisgwyl fyth. Yn ddadlennol iawn, nid oes olion DNA Neanderthal yng ngenynnau trigolion Affrica heddiw.  Mae i’r darganfyddiad hwn bwysigrwydd wrth inni geisio deall o le, a sut, y daeth dynol ryw i lenwi’r byd. Erys o hyd y gred mai yn Affrica y mae ein gwreiddiau cynharaf – ond mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod sawl ton o’n cyndadau wedi gadael y cyfandir hwnnw ar wahanol adegau – ac yna ailgymysgu cyn symud ymlaen i ffurfio poblogaeth weddill y byd. Dyma hanes mwy cymhleth na’r un a adroddwyd yn y rhaglenni ardderchog a ddarlledwyd gan y BBC yn 2009.

‘Roedd dyn Neanderthal, er yn fwy “cyntefig” na ni, wedi dysgu sut i ddefnyddio tân. Tybed ai’r 4% o’i enynnau sydd wedi goroesi ynof innau a’m gyrrodd i arbrofi gyda’r glo – a pheryglu fy aelwyd – yr holl flynyddoedd hynny’n ôl ? Natur y cyw yn y cawl ? Pwy a ŵyr ? Rhyfedd y’n gwnaed!