Rhaid imi ddechrau fy ngholofn y mis hwn gyda theyrnged i’m cydweithiwr a chyfaill Geraint George a fu farw cyn y Pasg. Roedd ei ymdrechion ymarferol a di-stŵr i hybu addysg wyddonol trwy’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn ddihafal. Bu’n ysbrydoliaeth i mi ac i eraill. Bydd colled aruthrol ar ei ôl. Un arwydd o’i ddylanwad yw bod ei lwyddiant wedi cynorthwyo’i adran i sefydlu tîm o staff gwyddonol Cymraeg ifanc a brwd a fydd yn cynnal ei weledigaeth i’r dyfodol. Cydymdeimlaf yn ddwys â’i wraig a’u merched.
Fis neu ddau yn ôl bu cynnwrf yn y wasg Gymraeg wrth i adroddiadau ymddangos am ddyfodol rhan Geraint o’n Prifysgol. Nid wyf am ychwanegu at y drafodaeth honno, dim ond adrodd am un digwyddiad a ddaeth yn ei sgil a ogleisiodd ef a minnau. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn wreiddiol ar wefan Golwg 360 yn y Gymraeg. Roedd ein cydweithwyr di-Gymraeg am wybod ar unwaith beth oedd cynnwys yr adroddiad ac er eu bod wedi gweithio yng Ngwynedd ers degawdau ni fedrent ddarllen y cynnwys. Aeth un ohonynt ar ei union i ddefnyddio offer cyfieithu Google, peiriant chwilio’r we. Dyma’r tro cyntaf imi sylweddoli ei fod ar gael a pha mor effeithiol ydoedd. O dorri a phastio’r testun, mewn ffracsiwn o eiliad roedd trosiad digon derbyniol wedi ymddangos. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig, felly, mewn erthygl am gyfieithu trwy beiriant yng nghylchgrawn y New Scientist yn ddiweddar. Mae’n debyg bod tîm cyfieithwyr Google yn trosi rhwng 52 iaith ar hyn o bryd. (Hyd y gwelaf i nid yw fersiwn Gymraeg Google, sef Gŵgl, yn cynnig y gwasanaeth hwn eto.) Wrth arbrofi’n bersonol, darganfûm fod trosiadau i’r Gymraeg o’r Saesneg yn fwy gwallus, yn fwy gwallus fyth o’r Almaeneg a dim ond yn lled ddealladwy o’r Lithwaneg (nid ydwyf yn siarad Lithwaneg). Y rheswm am hyn yw’r broses fathemategol a ddefnyddir wrth gyfieithu trwy beiriant. Wrth fynd ati mae’r cyfrifiadur yn pori’n helaeth mewn enghreifftiau blaenorol o’r ieithoedd ac yn ailadrodd ymadroddion a phatrymau sy’n ymddangos eu bod wedi gweithio yn y gorffennol. Mewn geiriau eraill, mae’n dysgu trwy brofiad. Yn naturiol, os nad oes llawer o enghreifftiau (megis trosiadau i’r Gymraeg) bydd yn rhaid trosi fesul gair, a derbyn yr holl amwyster a ddaw yn sgil hynny. Ar waelod cyfieithiadau Google mae modd i’r defnyddiwr ddychwelyd golygiadau a chywiriadau a fydd yn gwella’r safon y tro nesaf y daw’r cyfieithydd electronig o hyd i’r patrymau hyn. Mae sawl gwefan ar gyfer cyfieithwyr proffesiynol yn defnyddio adborth o’r un fath. Mae’n debyg bod technegwyr Google yn paratoi fersiwn y bydd modd cyflwyno’r testun ar ffurf ffotograff – megis un wedi’i dynnu gan ffôn symudol. Bydd modd eistedd mewn caffe yn yr Almaen, er enghraifft, tynnu llun y fwydlen a derbyn cyfieithiad ohono’n syth. Mewn ymgais fwriadol i bontio gagendor pwysig, mae’r wefan Meedan yn defnyddio’r un dechnoleg i gyfieithu eitemau newyddion rhwng Arabeg a Saesneg gan eu gosod ochr yn ochr. (A ellir dweud bellach “Nid Meedan mo’r Moor “?). Yn yr achos hwn mae bodau cig a gwaed yn golygu’r cyfieithiad cyn ei gyhoeddi. Ar y llaw arall mae blog newydd Mojofiti yn trosi’n awtomatig bob sylw i 27 iaith. Nid yw hyn yn cynnwys y Gymraeg ar hyn o bryd.
Nid yw cam-gyfieithu yn estron ym myd bioleg ychwaith. Mewn erthygl ddiweddar yn y cylchgrawn Nature adroddwyd am y cyswllt rhwng blas Wasabi – sef yr hyn a elwir yn farchruddygl (horse-radish) Siapan ac a fwyteir gyda Swshi – a’r modd y mae nadroedd yn gweld yn y tywyllwch. Rai misoedd yn ôl disgrifiais ymchwil i’r proteinau mewn celloedd y tafod a’r geg sy’n gyfrifol am synhwyro gwahanol flasau. Peth diweddar yw ein dealltwriaeth o fanylion y proteinau hyn ac mae’n destun cryn ymchwil. Mae pob blas yn ffitio ei synhwyrydd megis allwedd mewn twll clo ac wrth ei “droi” anfonir gwefr drydanol i’r ymennydd. Syndod oedd darganfod bod ambell neidr yn defnyddio proteinau tebyg i synhwyrydd Wasabi i weld yn y nôs. Efelychu’r camerâu is-goch hynny sydd mor gyfarwydd i garedigion anifeiliaid y nôs mae’r proteinau, sydd i’w canfod mewn tyllau ar hyd wyneb nadroedd megis y rattlesnake. Y rhain sy’n creu’r ddelwedd yn ymennydd y creadur. Pa bryd, tybed, yn hanes esblygiad y seirff y trodd iaith blas yn iaith gweld.
Pan oeddwn yn fyfyriwr, flynyddoedd maith yn ôl, fe’m cyflwynwyd i gerfiadau ar feini hirion a cherrig eraill o’r Alban sy’n dyddio o gyfnod y Pictiaid, rhwng y 4edd a’r 9fed ganrif oed Crist. Ar y pryd esboniwyd imi nad oedd llawer o wybodaeth am natur iaith y Pictiaid, er bod enwau lleoedd yn awgrymu mai iaith Geltaidd o’r un dras â’r Gymraeg, yn hytrach na’r Aeleg, ydoedd. Roedd y cerfiadau ar gerrig yn peri rhwystredigaeth i’r ieithwyr. Ai arysgrifau o iaith y Pictiaid oeddynt neu beidio ? Ers blynyddoedd mae mathemategwyr wedi defnyddio mathemateg ystadegau i ddadansoddi sgriptiau o’r fath. Penodi gwerth “entropig” – arwydd o drefn – arnynt. Er enghraifft byddai llai o’r drefn hon ar iaith Beibl William Morgan o’i chymharu â llun-lythrennau’r hen Aifft, neu gôd Morse. Yn anffodus hyd yma ni chafwyd digon o enghreifftiau o waith y Pictiaid i alluogi astudiaeth o’r fath. Yn awr mae Rob Lee, o Brifysgol Gaerwysg, wedi dyfeisio techneg fathemategol i oresgyn yr anhawster hwn. Cymerir y nifer o barau o symbolau a symbolau unigol – ac yna gosodir y dadansoddiad hwn ochr yn ochr â’r un dadansoddiad o ysgrifau modern. Daeth i’r amlwg mai iaith ysgrifenedig go iawn sydd yma, ac nid cyfres o ddelweddau symbolaidd. Hefyd, datgelodd y fathemateg ei bod yn cyfateb i iaith fodern ag iddi eirfa fechan. Disgrifiad yr awdur yw ei bod yn ymdebygu i lefel iaith llyfrau dysgu darllen “Janet a John” o’r 50au a’r 60au, a oedd yn gyfrwng i 70% o oedolion Prydain ddysgu darllen. Croesawyd y darganfyddiad hwn gan arbenigwyr yr Alban. Yn anffodus, nid yw’n gymorth i ddeall beth yw ystyr yr arysgrifau. Bydd rhaid aros am ychydig eto cyn cael y Bicteg yn un o ieithoedd trosiadwy Google.
Cyfeiriadau
Y Bicteg: Rob Lee, Philip Jonathan, Pauline Ziman (2010) Pictish symbols revealed as a written language through application of Shannon entropy. Proc Roy Soc A (ar lein). http://rspa.royalsocietypublishing.org/content/early/2010/03/26/rspa.2010.0041