“Ni ddaw’r un cinio am ddim” yw’r ymadrodd a boblogeiddiwyd gan Milton Friedman, ymgynghorydd economaidd Ronald Reagan yn yr 80au ac enillydd gwobr Nobel yn ei faes. Yn rhifyn cyfredol y Journal of Experimental Social Psychology mae enghraifft grafog, braidd, o hyn. Mae’n debyg bod hapusrwydd yn ddrwg ichi. Defnyddiodd Joe Forgas o Brifysgol De Cymru Newydd yn Sydney dechneg gyfarwydd i bob darlithydd er mwyn rhoi eu myfyrwyr mewn hwyliau da neu ddrwg. Gwnâi hyn trwy eu canmol neu eu beirniadu am eu gwaith cartref. Yna rhoddodd wobr o A$20 i bob un ohonynt gyda’r awgrym y medrent ei rannu pe dymunent. Mae’n debyg i ganran sylweddol uwch o’r rhai a ganmolwyd cadw’r wobr iddynt eu hunain, tra bu’r grŵp anhapus yn fwy hael â’u harian. Eisioes, mewn astudiaethau eraill, mae Forgas wedi darganfod bod pobl hapus yn llai abl i ddylanwadu ar eraill, haws dylanwadu arnynt a’u twyllo a bod eu cof yn salach na’u cyfeillion anhapus.
Ar y llaw arall, mewn erthygl arall yn ddiweddar ym myd seicoleg, adroddwyd am fantais cario un o’r genynnau sy’n cynyddu’r tebygolrwydd datblygu clefyd Alzheimer. Pan gyhoeddwyd yn 2007 ddilyniant DNA James Watson, un o’r gwyddonwyr a ddarganfu strwythur y moleciwl hwnnw yn 1953, nid oedd ef am gael gwybod a oedd ef ei hun yn cario fersiwn epsilon 4 genyn o’r enw APOE ai peidio. Mae un copi o hwn yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddatblygu’r nam meddyliol bedair gwaith a dau gopi ohono hyd at ugain gwaith. Gwahanol oedd ymateb Craig Venter, yr arloeswr ym myd darllen y genynnau. Un copi sydd ganddo, ac mae hefyd yn cynyddu ei debygolrwydd o ddioddef clefyd y galon. Yn sgil hyn dechreuodd gymryd dognau cyson o gyffur gwrth-golesterol a gobeithia y bydd hwn hefyd yn arafu’r clefyd meddyliol. Ond ar y llaw arall, ymddengys bod presenoldeb y genyn yn ein gwneud yn gallach, yn fwy deallus ac yn meddu ar gof gwell pan fyddwn yn ifanc. Y darganfyddiad diweddaraf yw bod milwyr sy’n dioddef clwyfau i’r ymennydd yn Irac yn fwy tebygol o wella os oes ganddynt o leiaf un copi o epsilon 4. Yn 2000 darganfuwyd bod y rhai sy’n meddu’r genyn yn sgorio’n uwch mewn profion “IQ”. Dangosodd arolwg yng Ngweriniaeth Tsiec yn 2001 fod 87% o’r rhai sydd ag epsilon 4 yn mynd i’r brifysgol o’i gymharu â dim ond 55% o’r rhai hynny â fersiwn gwahanol o APOE. Mae Jenny Rusted, ymchwilydd ym Mhrifysgol Sussex, yn credu bod presenoldeb y genyn yn ei gwneud hi’n haws canolbwyntio ar wybodaeth bwysig, ond bod angen anwybyddu pethau amherthnasol wrth wneud hyn. Yr ail agwedd sy’n gwanhau wrth heneiddio. Er hynny nid yw’n amlwg beth yw dylanwad epsilon 4 wrth heneiddio. Un posibilrwydd yw bod gweithgaredd uwch yr ymennydd ifanc yn diffygio’r meddwl yn gynt. Does dim cinio am ddim.
Ond os hoffech fyw yn hir, ewch i fyw ar ben coeden. Dyma gasgliad par o anthropolegwyr biolegol o Brifysgol Illinois, Milena Shattuck a Scott Williams, yn y cylchgrawn sylweddol PNAS. Ers blynyddoedd bu biolegwyr esblygiad yn darogan y byddai creaduriaid ag iddynt ffordd o fyw ddiogelach yn byw yn hwy na’r gweddill ohonom; a dangoswyd bod hyn yn wir am adar ac ystlumod sy’n medru ffoi rhag eu gelynion. Yn awr mae’r ddau o Illinois wedi profi hyn am famaliaid sy’n byw mewn coed. Cymharwyd hyd oes 776 rhywogaeth wahanol. Yn ogystal â chadarnhau bod anifeiliaid mawr yn dueddol o fyw yn hwy na rhai bach darganfuwyd bod y dringwyr yn byw bron ddwywaith yn hwy na thrigolion y llawr pan gymharwyd creaduriaid o’r un maint. Un enghraifft yw’r kinkajou sy’n byw mor hir â theigr, er ei fod ond yn 1/40fed ei faint. Bellach mae’r ddau yn astudio anifeiliaid tanddaearol i weld a yw’r un peth yn wir amdanynt hwythau. Mae croeso iddynt ddod i’m gardd i ar odre’r Carneddau lle mae’r tyrchod daear yn byw am byth !
Yn ogystal â’r gwahaddod, mae gormodedd o ddŵr hefyd yn fwrn i’m hymdrechion garddwriaethol. Tan yn ddiweddar ystyriwyd na fyddai hyn yn broblem ar y lleuad. Ers ymweliadau gofotwyr Apollo, bron ddeugain mlynedd yn ôl, credid bod ei wyneb yn hollol sych. Ond bellach mae cyfres o ddarganfyddiadau wedi profi’r gwrthwyneb, rhywbeth sy’n cryfhau’r tebygolrwydd o sefydlu trefedigaethau yn llwyddiannus yno yn y dyfodol. Yn gyntaf, ym mis Tachwedd gwelwyd olion sylweddol o ddŵr yn llwch y ffrwydrad wrth i NASA blymio lloeren yn fwriadol i mewn i grater oer o’r enw Cabeus, nepell o begwn de’r lloer. Ac yn awr, mewn cynhadledd yn Houston, Texas dadlennwyd i ofodwyr Apollo 15 ddod o fewn ychydig lathenni i bridd llaith gan ddŵr yn ystod eu hymweliad yn 1971. Dyma’r ymweliad lle dangosodd David Scott a James Irwin, wirionedd damcaniaeth enwog Galileo wrth iddynt ollwng pluen a morthwyl a dangos eu bod yn syrthio ar union yr un cyflymder yn absenoldeb awyr. Y tu ôl iddynt, a’r bygi-lleuad a ddefnyddiwyd ganddynt am y tro cyntaf, mae lluniau’r daith yn dangos mynyddoedd Apennine y lleuad. Yn 2009 gwelodd camerâu lloeren Chandrayaan-1 yr India fod llethrau’r mynyddoedd hyn yn gymharol llaith (yn nhermau’r lleuad) o ddŵr. Yn wir, ar y pryd sylweddolwyd bod ychydig ddŵr yn y samplau o gerrig a ddychwelwyd gan Apollo 15 ac 17, ond ystyriwyd ei fod wedi cyrraedd yno wrth ddychwelyd i’r ddaear. Ar ôl darganfyddiad 2009 mae daearegwyr y lleuad (lleuadegwyr ?) yn ailystyried y dadansoddiadau cynnar hyn. Dywedodd Lawrence Taylor o Brifysgol Tennessee, sydd wedi dadlau yn gryf yn erbyn presenoldeb dŵr ar y lleuad yn y gorffennol, y bydd yn rhaid iddo “fwyta’i drôns” (chwedl Bart Simpson). Ym mis Mawrth dychwelodd i’r siambr lle y storiwyd samplau Apollo 15 i gasglu samplau i weld a oes modd dangos bod Scott ac Irwin wedi codi ambell dywarchen laith o odrau’r Apennine wedi’r cwbl yn ystod eu tridiau ar y lleuad.
Ar ddamwain, sangodd Irwin ar y bluen a’i cholli i’r llwch – tybed ai hon fydd tomen gompost gynta’r lleuad ? Mae pob garddwr yn gwybod am bwysigrwydd lleithder wrth greu’r sylwedd pwysig hwnnw. Cinio am ddim wedi’r cwbl ?
Cyfeiriadau