“Bioamrywiaeth”. Un o themâu eiconig ein hoes. Ond pryd daeth yr amrywiaeth hwn i fod; os nad yng Ngardd Eden? Un o ddarganfyddiadau mawr y degawdau diweddaraf yw sylweddoli pa mor hen yw bywyd ar y ddaear. Buasai hyn yn sioc fawr i Darwin. Ffurfiwyd ein planed 4.54 mil miliwn o flynyddoedd yn ôl, ryw gwta 30 miliwn ar ôl i’r haul ffurfio, yn belen o nwyon a mineralau tanllyd anghyfannedd. Bellach mae tystiolaeth yn gwthio tarddiad bywyd yn ôl tuag at y 4 mil miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn sicr, erbyn 3.5 mil miliwn o flynyddoedd yn ôl mae olion ffosil y credir eu bod yn dynodi bacteria o’r môr – y stromatolidau. Gan fod dŵr mor hanfodol i fywyd, arafach o lawer oedd ymddangosiad bywyd ar dir sych. Mae tystiolaeth anuniongyrchol dros dybio i facteria ddechrau gwladychu tir sych erbyn 1.2 mil miliwn o flynyddoedd yn ôl. Anialwch difywyd, di-bridd, fu’r cyfandiroedd cyn hynny am dros dair mil miliwn o flynyddoedd. Ymddengys planhigion ar dir sych tua 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl – o bosibl wrth i algae a ffwng o’r môr gydweithio. Wrth i bethau gwerth eu cynhaeafu ymddangos, dechreuodd anifeiliaid fentro ar eu holau tua 510 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Porwyr yr haenau microsgopig oedd y rhain i ddechrau, creaduriaid tebyg i wlithod neu falwod. Ychydig yn hwyrach daeth cramenogion. Dros y Nadolig cyhoeddwyd dyddiad o bwys arbennig i ni, ddynol ryw, yn y dilyniant hwn. Tystiolaeth o’n cyndadau tir-sych cynharaf. Yng nghreigiau mynyddoedd Gwlad Pwyl darganfuwyd olion troed anifeiliaid asgwrn cefn, pedwartroed yn dyddio o 397 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Anifeiliaid sylweddol eu maint, chwe throedfedd o hyd, yr un siâp â’r crocodeilod a ymddangosodd filiynau lawer o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae’r darganfyddiad annisgwyl hwn yn gwthio’r dyddiad yr esblygodd yr ymlusgiaid gyntaf o bysgod yn ôl o leiaf 18 miliwn o flynyddoedd. Hefyd yn wahanol i’r syniad gynt, nid mewn corstir dŵr croyw ond ar lannau hallt lagŵn y gadawyd yr olion diweddaraf hyn. Cafwyd disgrifiad graffig o’r creaduriaid gan Per Ahlberg, un o’r tîm darganfod o Brifysgol Uppsala, Sweden. Dychmygodd hwynt fel cwsmeriaid cyntaf smorgasbord wrth i’r llanw a thrai ddarparu fruits de mer ffres ddwywaith y dydd ar y traeth.
Caf wefr bob tro y darllenaf am sut mae gosod y fath dyddiadau pendant ar gynhanes y ddaear. Mewn dwy erthygl ddiweddar cafwyd enghreifftiau gwych o hyn. Y gyntaf yn taflu dŵr oer ar y sinigiaid oedd yn bwrw sen ar y modd y dangosodd cyfarwyddwyr Hollywood ddyfodiad Oes Rhew mewn dim o dro yn y ffilm The Day after Tomorrow. Bu William Patterson o Brifysgol Saskatchewan a’i dîm yn dadansoddi gwaddod o waelod Llyn Monreagh yng ngorllewin Iwerddon. Mae prosesau bywyd yn newid patrwm isotopau carbon, a thymheredd a glawiad yn effeithio ar isotopau ocsigen. Cofnodir y newidiadau hyn yn fanwl yn haenau gwaddod y llyn. Hyd yma llwyddwyd i ddilyn y patrwm i fanylder o ychydig fisoedd. Dyma’r gorau erioed o’r cyfnod hwn, tua 12,800 o flynyddoedd yn ôl pan syrthiodd Ewrop yn ôl i oes rew fer, y Dryas Diweddaraf. Ychydig dros 1,300 o flynyddoedd y parodd hwn – ond fe gafodd ddylanwad sylweddol ar ein cyndeidiau cynharaf a oedd newydd ail-wladoli Cymru ar ôl yr oes rew fawr ddiweddaraf, y Würm. Syndod y canlyniadau yw mai ychydig fisoedd yn unig a gymerodd i’r cyfandir rewi’n ei ôl. Neges glir i’r gwleidyddion yn sgil methiant Copenhagen. Nid rhywbeth araf, o anghenraid, yw newid hinsawdd sylweddol. Mae Patterson a’i dîm bellach yn adeiladu robot bychan a fydd yn medru dadansoddi’r gwaddodion a’u gwybodaeth am y tywydd, i fanylder cywirach na diwrnod dros filiynau o flynyddoedd ! Digon da i Mari Grug neu Erin Roberts, efallai ?
Gollwng dŵr yn ddramatig o lyn enfawr a orchuddiai’r rhan fwyaf o Ogledd Orllewin Canada gan ymyrryd ar Lif y Gwlff oedd yn gyfrifol am hyn, mae’n debyg. Mewn erthygl gyfredol yn y cylchgrawn Nature disgrifir ffenomen debyg a ddigwyddodd dros gyfnod o ychydig fisoedd 5.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Bu’n hysbys ers blynyddoedd bod Môr y Canoldir yn sychu’n llwyr o bryd i’w gilydd wrth i gyfandir Affrica wthio’n erbyn Ewrop a chau Culfor Gibraltar. Yr un symudiad cyfandirol sy’n gyfrifol am dŵf yr Alpau. Un dystiolaeth o hyn yw’r ffaith bod gwaelod dyffryn y Neil ger Cairo ryw filltir a hanner o dan wyneb presennol y tir – yn ddyfnach na’r Grand Canyon, sydd tua milltir ar ei ddyfnaf. Byddai’r Wyddfa wedi diflannu’n hawdd iddo. Heddiw, gwaddod sy’n llenwi’r cafn hwn, ond nid 5.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yna ar ôl ychydig ganrifoedd o orlifo ysgafn, “methodd” yr argae naturiol wrth waelod craig Gibraltar a llifodd dyfroedd yr Iwerydd i mewn i faddon enfawr Môr y Canoldir. Y darganfyddiad newydd yw mai dim ond ychydig fisoedd a gymerodd i’r môr ei lenwi. Yn ei anterth roedd llif y dyfroedd fil o weithiau’n fwy na llif presennol yr Amazon ar ei llawnaf. Torrwyd cafn 800 troedfedd o ddyfnder a 125 milltir o hyd. Nid oedd yr un Seithennyn cynhanesyddol yno yn dyst ar y pryd, ond megis effaith y Dryas Diweddaraf ar drigolion cynnar Cymru, cafodd y gorlif hwn effaith holl bwysig ar ddyfodiad dyn cynnar i Orllewin Ewrop o Affrica. Wrth iddo wneud hynny, ryw 4 miliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach, bu rhaid iddo fudo’r holl ffordd trwy’r Dwyrain Canol yn hytrach na chroesi’r “bont” o Affrica. Wrth edrych i’r dyfodol, ysywaeth, mae Affrica yn dal i symud tua’r gogledd. Caeir Culfor Gibraltar eto, gan droi Môr y Canoldir yn llyn unwaith yn rhagor. Bydd hwn, yn ei dro, yn sychu wrth i’r afonydd sy’n arllwys iddo fethu â chystadlu â’r anweddiad oddi ar ei wyneb. Gwell ichi fwcio’r crŵs yna tra bydd yn dal ar gael. Er efallai y byddai cerdded i Affrica yn apelio’n fwy !