Barn 30 (Nadolig 2009): Moeseg Cyffuriau, Esblygiad Merched, Brechiadau Microsgopig

Wrth fynd yn hŷn, mae ambell wyddonydd yn troi at wleidyddiaeth tra bydd un arall yn troi at y tŵr ifori.   Yn ystod y mis diwethaf bu dwy stori perthnasol i hyn yn y wasg Brydeinig a’r wrth i’r ddau wrthdaro. Roedd y ddwy stori yn ymwneud â chyffuriau.  Beth oedd yn ddiddorol i mi oedd sylweddoli bod y mater hwn yn wahanol iawn i broblemau mawr technegol eraill ein hoes, megis gwresogi byd eang, gorboblogi, ynni niwclear a hyd yn oed cnydau GM.

Wrth ymdrin â chanabis ac alcohol rydym yn trafod materion sydd o fewn cwmpawd profiad pob un ohonom – sef ymddygiad ein cyd-feidrolion a’n perthynas â nhw. Materion yw’r rhain  lle mae eu dylanwad uniongyrchol ar ein cymdeithas yn glir.  Buaswn yn dadlau’n gryf nad ydy hyn yn wir am ynni niwclear, newid hinsawdd neu GM. Anecdotau pobl eraill yw ein profiad o’r meysydd hynny i bob pwrpas.  Sawl darllenydd, tybed sydd wedi trin defnydd ymbelydrol neu blanhigyn GM ?  (Er rhaid cyfaddef ei bod yn debygol bod y Cymry Cymraeg ymhlith y grŵp gyda’r canran uchaf yn y byd o bobl a fu’n gwneud  gwaith ymbelydrol rhwng profiadau yn atomfeydd Trawsfynydd a’r Wylfa ac yn y fyddin a’n hysbytai).  Ond sawl un ohonom nad yw wedi gweld rhywun meddw ?

Y ddwy stori, wrth gwrs, oedd helynt David Nutt, cadeirydd Pwyllgor Ymgynghori’r Llywodraeth ar Gamddefnyddio Cyffuriau , a chyhoeddi drafft strategaeth Corff Iechyd y Byd (y WHO) ar gamddefnyddio alcohol.   Wrth gymharu peryglon y cyffur ecstasi â bwyta cnau mwnci neu farchogaeth ceffyl ‘roedd Nutt yn gwneud rhywbeth sy’n hollol arferol i wyddonydd y “twr ifori”.  Roedd yn cymharu pethau oedd yn ddigyswllt i asesu y risg cysylltiedig. Peth anodd yw egluro risg a pherygl dan unrhyw amod.  Trwy dynnu’r holl gysylltiadau goddrychol mae modd canolbwyntio ar y prif gwestiwn.  Y dull canolbwyntio (reductionist approach) hwn yw un o brif arfau gwyddoniaeth. Wrth gwrs i aelod seneddol, ac, os gai’i fentro dweud, i ddarllenydd cyffredin y Daily Mail, mae cymharu gweithred dosbarth breintiedig (marchogaeth) neu peanuts (fel yn yr ymadrodd yn ymwneud â gwerth rhywbeth) â phroblem cyffuriau ein cymdeithasau yn ymddangos yn wamal.  Roedd hyn yn amlwg o drafodaeth y ddwy brif blaid Brydeinig yn y senedd. Hawdd i mi, fel gwyddonydd tŵr ifori dwt-twtio hyn. Ond credaf ei bod llawn mor bwysig i wyddonwyr ddeall meddylfryd trwch y boblogaeth.  Nid clustiau pigfain y mythol-logical Mr Spock – arwr Star-trek – sydd gan yr un ohonom, boed yn wyddonwyr proffesiynol neu beidio.  Y dasg anoddaf yw pontio’r bwlch – dyma lle mae’r Gwleidydd yn ennill ei gyflog. Tafoli a phenderfynu yw ei swyddogaeth ef – nid diswyddo cynrychiolwyr y nail ochr na’r llall – fel y bu yn achos yr Athro Nutt.

Yn eironig braidd digwyddodd hyn yr un pryd â chyhoeddi drafft adroddiad y WHO. Gwêl y New Scientist, er enghraifft, ei bod yn hen bryd symud ymlaen i daclo problem gor-yfed alcohol yn ein byd yn awr bod y frwydr yn erbyn ysmygu wedi ei hennill.  Dadleuir ein bod yn lled dderbyn alcohol a hyd yn oed clodfori’r meddwyn hapus. Ond y ffigyrau moel yw i alcohol ladd 2.4 miliwn ledled y byd yn 2004 – tua hanner y nifer a fu farw trwy ysmygu.  Credir bod alcohol wrth wraidd 20-30% o sirosis yr afu, llofruddiaethau a damweiniau ffyrdd sy’n digwydd ledled y byd.  Ond mae’r WHO eisiau defnyddio dadl arall a fu’n llwyddiannus yn y frwydr yn erbyn tobacco – sef y syniad o “yfed goddefol”, ar batrwm peryglon “smygu goddefol”. Yn aml iawn nid y gor-yfwr yw’r unig un i ddioddef o’r weithred. Dioddefa ei holl gylch cymdeithasol. Yng ngwledydd Prydain,  yn ôl adroddiad Liam Donaldson, prif swyddog meddygol y llywodraeth, bu 125,000 achos o drais yn y cartref, ganwyd 6,000 o fabanod â syndrom alcohol yn y groth a niweidiwyd 7,000 (gyda 560 yn marw) a hwythau heb fod yn gyrru eu hunain, ar y ffyrdd yn ystod 2008. Dyma’r “yfed goddefol” y sonnir amdano.  Ffocws adroddiad y WHO a ddisgwylir yn y Flwyddyn Newydd, mae’n debyg, fydd canolbwyntio ar reoli yfed trwy godi prisiau ond y nod yw ceisio newid agwedd cymdeithas.  Tybed a fyddant yn edrych ar weithgareddau ein mudiad ieuenctid cenedlaethol ?

Efallai y bydd dynoliaeth yn esblygu i’r cyfeiriad gogoneddus hwn ? Ond arferid credu bod meddygaeth fodern wedi dod ag esblygiad yr hil ddynol drwy broses Darwinaidd i ben. Onid yw’r iach a’r afiach fel ei gilydd yn goroesi ? Ond o bryd i’w gilydd daw tystiolaeth i’r gwrthwyneb.  Yn rhifyn diweddar o’r Proceedings of the National Academy of Sciences, dadleua Stephen Stearns o Brifysgol Iâl, bod modd gweld merched, beth bynnag, yn newid o flaen ein llygaid. Yn rhan o’r astudiaeth fwyaf trylwyr erioed ar esblygiad dynoliaeth heddiw, dadansoddodd 14,000 o dair cenhedlaeth o Framingham, Massechussets ers y flwyddyn 1948. Ar ôl cywiro’r data am wahaniaethau cymdeithasol a diwylliannol, gwelwyd bod sawl priodoledd fiolegol yn cydredeg â’r nifer o blant a oedd gan fenyw – sef “llwyddiant” Darwinaidd. Y briodoledd fwyaf pendant, efallai, yw bod merched byrrach a thrymach yn cael mwy o blant. Fel y gellid disgwyl, efallai, yr un oedd hanes merched a oedd yn dechrau teulu yn gynharach ac yn cyrraedd y “terfyn oed”  (y change) yn hwyrach.  Yr un modd gwelwyd bod y plant yn etifeddu’r priodoleddau hyn.  Darogana Stearns, erbyn y flwyddyn 2409, y bydd merched Framingham ar gyfartaledd yn 2cm yn fyrrach ac un cilogram yn drymach na heddiw. Tebyg oedd yr hanes ynglwn â phwysedd gwaed a lefelau colesterol – y ddau yn debygol o leihau trwy’r cenedlaethau. Effaith genetig, ac nid cymdeithasol, yw hwn (nature nid nurture).  Wrth ymestyn y gwaith gobeithia Stearns ddechrau mesur cyd-chwarae’r ddau. Esblygiad trwy ddethol cymar oedd un o ddiddordebau mawr Darwin.

Nodwedd o esblygiad Darwinaidd yw trosi defnydd rhan o gorff i ddiben newydd, defnyddiol. Weithiau defnyddir rhan o un creadur gan greadur arall – cranc feudwy yn defnyddio cragen pysgodyn neu gelloedd ffwng yn defnyddio celloedd alga wrth greu cen. Mae cwmni o Israel o’r enw NanoCyte wedi manteisio ar y syniad i geisio gwella triniaethau meddygol  trwy ddefnyddio’r un egwyddor.  Dwyn celloedd anifeiliaid i’n dibenion ni. Nid oes neb yn hoff o chwistrelliad. Ond syniad NanoCyte yw defnyddio celloedd pigo microsgopig Anemonïau’r Môr Coch i chwistrellu pethau’n ddi-boen i’r croen.  Trwy broses gyfrinachol mae’r cwmni yn tynnu’r celloedd (sydd ddim yn annhebyg i bigiadau pysgodyn jeli) o’r anemoni heb eu niweidio.  Tynnir cynnwys gwreiddiol y celloedd pigo ac yna eu cymysgu â hufen sy’n cynnwys y sylwedd i’w chwistrellu. Mae’r celloedd yn llenwi â’r sylwedd. Wrth rwbio’r cymysgedd ar y croen mae’r celloedd yn tanio – gyda rhai ohonynt yn saethu eu cynnwys trwy eu nodwyddau microsgopig i’r croen. Ar ôl tanio mae’r celloedd yn ail lenwi a’r hufen ac mae modd ail adrodd y broses. Gyda miliwn o’r fath gelloedd  i’r centimedr sgwâr mae modd trosglwyddo gryn dipyn trwy’r croen. Ym mis Hydref, cwblhawyd treialon cyfnod II gan ddefnyddio lindocên, anaesthetig a ddefnyddir gan ddeintyddion. Gobeithir lansio cosmetig “gwrth-heneiddio”, gan ddefnyddio’r un  egwyddor, yn y flwyddyn newydd.   Mae poblogrwydd Botox – math o anaesthetig a chwistrellir i rannau o’r wyneb – yn dangos bod eisioes farchnad i’r math hwn o driniaeth.  Er ei bod hi’n anoddach o lawer cyflwyno defnydd meddygol na thriniaeth gosmetig, mae NanoCyte yn gobeithio y bydd modd ymestyn i’r maes hwn hefyd. Eisioes profwyd, gan ddefnyddio llygod, bod modd cyflwyno inswlin trwy’r croen wrth ddefnyddio’r nodwyddau microsgopig yr anemoni.

Felly ar ôl taflu ychydig o ddŵr oer ar smôcs a diodydd y Tymor, o leiaf mae rhywbeth digon positif i edrych ymlaen ato yn 2010.  Blwyddyn Newydd Wyddonol Dda i Bawb !