Llai na phythefnos cyn i ardal Bangor ganu’n iach i signal teledu analog am byth, fe fethodd ein signal digidol Sky. Rwy’n ymddiheuro yn syth am fod yn gefnogwr i Rupert Murdoch, ond ar ein darn bach ni o Arllechwedd, nid oes dewis. Ffoniais Bangalore, neu rywle, a siarad am hanner awr gydag un o’r brodorion. Gobeithio y bydd y signal yn ôl cyn i’r geiriau yma ymddangos mewn print, neu mi fydd Dewi Llwyd yn hen atgof inni. Byddai taid Dewi, fel fy nhaid innau, yn siomedig o ddeall bod brodorion gwlad Bryniau Casia yn anfon peirianwyr Dyffryn Ogwen allan i weithio ar y Sul – a’n bod ninnau yn fodlon eu derbyn – ond dyna’r byd sydd ohoni. Fe all fod yn llawer gwaeth. Fe allwn fod ar fyd arall. “Sut mae’r tywydd acw ?” oedd un cwestiwn gan y gŵr o India, ar ôl iddo sicrhau’n ofalus mai fi oeddwn i. Bu bron imi ddweud wrtho, pe tawn ar y blaned Sadwrn ar hyn o bryd mi fuaswn yn dioddef y storm o fellt a tharanau hiraf a welwyd erioed yng nghyfundrefn yr haul. Ym mis Ionawr fe’i gwelwyd gan y lloeren Cassini, sy’n cadw golwg ar y blaned honno. Mae’n dal i ddreigio yno heddiw – record o storm go iawn. Yn wir, bu Sadwrn yn newyddion mis Hydref am reswm arall hefyd. Wrth ddefnyddio telesgop gofod Spitzer, sy’n defnyddio goleuni is-goch, fe ddarganfuwyd haen newydd o’i chylchoedd hardd. Mae hon yn 15 miliwn milltir o ochr i ochr – 60 gwaith y pellter o’r ddaear i’r lleuad. Dyma’r cylch mwyaf sydd wedi’i ddarganfod hyd yma.
Gryn dipyn yn llai na chylchoedd Sadwrn yw’r firysau sy’n ein heintio â chlefydau megis ffliw moch. Ond, yn eu ffordd eu hunain, maent hefyd newydd symud at drothwy hynod i ffisegwyr. Mae’n debyg y bydd nifer o ddarllenwyr Barn yn gyfarwydd â chath Erwin Schroedinger. Yn 1935 disgrifiodd y ffisegydd Ellmynig y cwantwm, a oedd newydd ei ddarganfod, fel cath mewn bocs caeedig gyda photel frau o wenwyn. Heb agor y bocs nid oes modd gwybod a ydy’r gath dal yn fyw neu beidio. Ym myd y cwantwm, mae’r gath yn fyw ac yn farw’r un pryd. Dim ond wrth agor y bocs, sef wrth wneud arsylliad, mae un o’r ddau ddewis yn crisialu. Yn y byd “go iawn” mae unrhyw gyswllt â’r cwantwm a’r tu allan yn “arsylliad”, felly anodd iawn creu cath cwantwm go iawn. Ond yn athrofa Max Plank Garching yn yr Almaen yn ddiweddar aethpwyd ati i weld beth oedd y gwrthrych mwyaf y medrid rhoi’r ymddygiad yma iddo. Trwy ei ddal mewn dau belydr laser arbennig, llwyddwyd i ynysu firws yn llwyr o’i gynhwysydd. Yno fe’i cyflyrwyd i symud ac i beidio â symud ar yr un pryd – enghraifft macrosgopig o gath ddychmygol Schroedinger yn bodoli ar ddwy ffurf wahanol yr un pryd. Mae gwyddonwyr y Max Plank yn credu y dylai fod modd gwneud yr un peth gydag arth ddŵr – trychfilyn bach sy’n medru gwrthsefyll gwactod a thymheredd isel. Ond efallai nad oes yr un gynghanedd i “Arth Ddŵr Schroedinger” ag sydd i’w Gath ac yn sicr bydd rhaid aros am ychydig eto cyn medru bod yn y gwaith ac ar ein gwyliau ar yr un pryd.
Yn anffodus, nid oes ansicrwydd am ffyniant y firws arall hwnnw, HIV. Yn ôl y WHO, er i filiwn arall o bobl derbyn cyffuriau trin AIDS yn 2008 nag yn 2007, heintiwyd 2.7 miliwn yn fwy na’r flwyddyn flaenorol. Amserol iawn, felly, oedd y cyhoeddiad ar ddiwedd Medi am arbrawf yn ymwneud â brechiad a oedd yn gwneud gwahaniaeth. Gwnaed môr a mynydd gan wasg y byd am y prawf a wnaethpwyd ar y cyd rhwng byddin yr Unol Daleithiau a Llywodraeth Gwlad Thai. Ni ŵyr neb paham, ond hyd yma mae pob ymgais i greu brechiad i’r aflwydd wedi methu’n llwyr. Byddai darganfod hyd yn oed ychydig o amddiffyn yn profi y byddai modd newid hyn rywbryd yn y dyfodol. Cyhoeddwyd mewn cynhadledd i’r wasg bod y meddygon wedi lleihau risg heintio ryw 31%. Dim digon ar gyfer brechiad ymarferol, ond digon i droi cornel ar y llwybr i ddarganfod un. Yn anffodus, nid yw pethau mor eglur mewn gwirionedd. Mewn arolwg o’r fath, rhaid sicrhau nad ar hap y ceid y canlyniad. Fel arfer sicrheir hyn trwy ddefnyddio digon o wirfoddolwyr yn y gwaith. Yn wir defnyddiwyd dros 16,000 ohonynt y tro hwn – hanner yn derbyn y brechiad, a hanner yn derbyn “placebo” – sef ffug frechiad. O’r grŵp cyntaf heintiwyd 51 gan HIV, o’r ail grŵp, heintiwyd 74. Roedd y canlyniad positif yn dibynnu ar ddim ond 11 allan o’r 16,000. Yn 2007, mewn arbrawf tebyg dangosodd canlyniadau amrwd o’r un math bod y brechiad yn debygol o arwain at fwy, nid llai, o’r haint. Dim ond ar ôl dadansoddiad mathemategol cywir, y dangoswyd nad oedd unrhyw effaith o gwbl. Nid yw’r dadansoddiad hwn wedi’i wneud eto yn yr achlysur yma. Gobeithio nad yr un fydd yr hanes y tro hwn.
Ond i orffen y mis hwn eto ym myd y firws. Y mae yna newyddion da yn hanes hirhoedlog y pandemig ffliw moch. Fel arfer, gyda haint newydd bydd angen dau frechiad – ychydig wythnosau ar wahân – y brechiad a’r “bŵster”. Y cyntaf yn dihuno’r amddiffyn – a’r ail yn ei gynhyrfu. Ystyriwyd y byddai hyn yn wir am y pandemig presennol. Ond mewn erthygl yn y New England Journal of Medicine, dywedir bod chwarter y rhai hynny a brofwyd â’r brechiad newydd wedi adweithio’n bositif yn syth ar ôl y dogn cyntaf. Yr esboniad tebygol, ond hollol annisgwyl, yw bod y canran hwn wedi dioddef o’r math cyffredin o deulu H1N1 a bod hyn wedi’u paratoi ar gyfer y straen newydd. Rheswm da i sicrhau eich bod yn cael y brechiad arferol eleni. Mae’n ymddangos yn fwyfwy tebygol na fydd y pandemig hwn hanner cyn waethed ag yr oedd rhai – minnau yn eu plith – wedi’i ofni. ‘R un man imi dalu am Sky am flwyddyn arall eto – petai ond i edrych ar hen rifynnau o’r Dyn Sâl.