Barn 28 (Hydref 2009): Colli Pwysau, Saeth Amser, Safon Bwyd

Fe wn o brofiad bellach fod hysbysebion addysg iechyd yn gweithio – ond nid o anghenraid o safbwynt eu bwriad gwreiddiol. Ryw dair blynedd yn ôl ymddangosodd hysbyseb ar S4C i gynorthwyo gwylwyr i roi’r gorau i ysmygu – neu “smôco” yn ôl y gair a ddefnyddiwyd. Rwy’n cymryd mai actorion oedd y cymeriadau. Nid wyf erioed wedi ysmygu, ond fe’n cyflyrwyd gan  frawddeg un ohonynt. “Nid yw’r awydd yn para’n hir – felly daliwch ati.”  (Neu rywbeth i’r un perwyl.) Yn y fan a’r lle fe ddechreuais ddefnyddio’r un egwyddor am fy nhueddiad i fwyta’n wirion wrth ruthro bwyta fy nghinio ar Stryd Fawr Bangor.  Nid yn anaml at stondin Pic a Mics yr hen Woolworths neu i siop gnau hyfryd a chyfleus y trown fy nghamau yn lle bwyta’n gall ar fy eistedd yn rhywle. Ond dros gyfnod o chwe mis meddyliais yn galed am eiriau’r actor caredig. Bellach nid wyf yn gweld eisiau losin Woolworths ac rwyf yn medru cerdded heibio’r siop gnau. Dros y chwe mis hynny fe gollais stôn a hanner o bwysau.   Nid wyf wedi’i ail ennill.

Nid arbrawf gwyddonol, wrth gwrs, oedd hwn. Ond yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn Appetite adroddwyd canlyniad arbrawf oedd yn cynnig dull arall i osgoi temtasiwn bwyta. O dan esgus prawf côf dangoswyd naill ai llun cacen siocled neu lun blodyn hardd i grŵp o 54 myfyriwr. Yna cynigwyd dewis o siocled neu far grawnfwyd iddynt. Ystyriwyd yr ail yn ddewis iachach. Darganfuwyd tueddiad pendant ymhlith y rhai a oedd wedi gweld llun y gacen siocled i ddewis y bwyd iachach. Roedd gweld y llun wedi cryfhau ei awydd i fwyta’n iach.  Mewn arbrawf cynharach fe welwyd bod clywed arogl bwyd braf ond afiach yn codi ystyriaeth pwysigrwydd bwyta’n iach mewn holiadur, ond dyma’r tro cyntaf i hwn cael ei brofi’n uniongyrchol. Ond mae Floor Kroese, awdur y gwaith, yn rhybuddio bod cryfder y cyflyriad yn bwysig. Gyda lluniau deniadol iawn, mae’r effaith yn glir, ond gyda delweddau gwannach mae’n bosibl iddynt weithio i’r gwrthwyneb.

I mi, gyda threigl ychydig funudau, roedd yr awch am daffi neu gneuen Brasil wedi’i gorchuddio â siocled yn mynd yn angof. Felly teimlais gydymdeimlad braf gyda’r gronynnau a oedd yn destun erthygl yn Physical Review Letters dros yr hâf. Roeddynt wedi anghofio eu bod wedi llwyddo i symud yn ôl mewn amser. Yn ei lyfr poblogaidd A Brief History of Time, mae Stephen Hawkins yn trafod pwysigrwydd ein profiad o’r bydysawd lle mae amser yn symud mewn un cyfeiriad yn unig. Nid oes modd symud yn ôl ac ymlaen mewn amser – er gwaethaf campau’r dychmygol Dr Who. Ni all wy, neu gwarel ffenest, ail ffurfio ar ôl torri megis mewn ffilm yn rhedeg yn ôl.  Eto ar lefel y cwantwm nid oes rhaid i hyn fod – dylai fod modd i amser llifo yn ôl ac ymlaen fel y myn. Pam, felly, nad oes modd gweld hyn ? Yn ei erthygl, mae Lorenzo Maccone yn dadlau fod yr wybodaeth am ddigwyddiad lle bydd amser yn troi yn ei  ôl yn diflannu. Mae’r bydysawd yn “anghofio” fod y peth wedi digwydd ac felly, mae’n peidio â bod yn rhan o’n bodolaeth ni.

Yn anffodus, mae’n llawer mwy anodd anghofio am yr effeithiau newid hinsawdd sy’n ymddangos yn fwyfwy amlwg o’n cwmpas. Yn bendant, mi fydd yn anodd iawn troi’r cloc yn ei ôl.  Un gobaith oedd, gan mai COyw “bwyd” planhigion, y byddai cynnydd ynddo yn yr awyrgylch yn  cynyddu’r cynhaeaf er mwyn bwydo poblogaeth y byd. I raddau mae hyn yn wir – mae rhai planhigion, megis gwenith yn tyfu’n gynt.  Yn anffodus, ar yr un pryd mae gwerth maethlon y gwenith yn gostwng.  Roedd eisoes yn hysbys bod lefel protein y gwenith yn is, bellach mewn erthygl yn y rhifyn diweddaraf o Plant Biology,  cylchgrawn Cymdeithas Botaneg yr Almaen, cyhoeddir bod hefyd gwymp sylweddol yn y mineralau hanfodol – megis haearn.  Ar yr un pryd mae eraill, megis Wolfram Schlenker o Brifysgol Columbia, Efrog Newydd, wedi bod yn darogan effeithiau cynhesu ar gynnyrch cnydau yn yr Unol Daleithiau. Wrth edrych yn ôl ar ddata’r hanner canrif ddiwethaf, gwelodd mai un o’r arwyddion gorau o faint cynhaeaf oedd y nifer o ddiwrnodau yn y flwyddyn lle cododd y tymheredd dros 29 gradd C.  Wrth luosi’r nifer o ddiwrnodau a’r tymheredd dros 29 C, gwelwyd cwymp o 0.6 y cant am bob diwrnod-gradd, felly, bydau un diwrnod yn y flwyddyn ar 30 C yn lleihau’r cynhaeaf o 0.6%. Ar hyn o bryd yn yr Unol Daleithiau, gwelir 57 diwrnod-gradd dros 29 C mewn blwyddyn. Mi fydd hyn yn cynyddu gyda gwresogi byd eang, gyda modelau’r gwyddonwyr yn darogan ffigwr o 413, a chwymp yn y cynhaeaf india-corn o 82% erbyn diwedd y ganrif os caniateir y duedd bresennol.  Hyd yn oed pe bai llywodraethau’r byd yn medru cytuno ar y toriad o 50% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, bydd y cynhaeaf india-corn, soia a chotwm yn gostwng rhwng 30 a 46 % o’r lefel bresennol.  Un tristwch i mi yn hyn yw bod cyn lleied o’r nifer cynyddol o fyfyrwyr sy’n mynychu ein prifysgolion yn dewis astudio planhigion a chnydau. Ond os meddyliaf yn ddigon cryf am yr actor S4C hwnnw, bydd y tristwch yn diflannu.


Cyfeiriadau:

Colli Pwysau: Kroese FM, Evers C, De Ridder DT.  (2009)  How chocolate keeps you slim. The effect of food temptations on weight watching goal importance, intentions, and eating behavior. Appetite 53(3):430-3   doi: 10.1016/j.appet.2009.08.002. 

Saeth Amser: Lorenzo Maccone (2009) Quantum Solution to the Arrow-of-Time Dilemma. Phys. Rev. Lett. 103, 080401 doi: doi.org/10.1103/PhysRevLett.103.080401

Safon Bwyd: P.Högy,  H.Wieser, P.Köhler, K.Schwadorf, J.Breuer, J.Franzaring, R.Muntifering, A.Fangmeier (2009) Effects of elevated CO2 on grain yield and quality of wheat: results from a 3-year free-air CO2 enrichment experiment. Plant Biology 11 (S1), 60-69 doi: 10.1111/j.1438-8677.2009.00230.x
Wolfram Schlenkera, Michael J. Roberts (2009) Nonlinear temperature effects indicate severe damages to U.S. crop yields under climate change. PNAS 106(37), 15594–15598 doi: 10.1073/pnas.0906865106