Barn 26 (Hâf 2009): Gwreiddyn Iaith, Adeiladu Organau, Teithio Gwyrdd, Gwlithyn Arswydus

O holl anifeiliaid y ddaear, dim ond pobl sy’n siarad; hynny yw, os ydych yn fodlon diystyru campau cyfeillion y Dr Doolittle.  Gosoda hyn sialens sylweddol i’r rhai sy’n ceisio deall sylfeini bio-moleciwlar lleferydd. Nid oes modd gwneud yr arbrofion arferol i ddarganfod swyddogaeth genyn arbennig; er enghraifft, trwy’i ddileu neu’i or-gyflyrru mewn anifail arbrofol megis llygoden.  Yn 2001, wrth astudio genynnau teulu o Brydain a oedd yn dioddef anhawster iaith, darganfuwyd mwtan arbennig mewn genyn o’r enw Foxp2. “Genyn Iaith” oedd yr enw a roddwyd arno a bellach ystyrir ei ymddangosiad yn bwysig yn hanes esblygiad diweddar dynoliaeth.  Nid yw eto’n hysbys beth yn union y mae Foxp2 yn ei wneud, ond ymddengys ei fod yn galluogi’r broses o greu’r sain – yn rheoli’r aparatws, fel petai – yn hytrach na datblygu’r ddealltwriaeth o’r geiriau. Er bod genynnau cyfatebol mewn anifeiliaid, nid oedd y mwtaniadau sydd mor niweidiol mewn dyn i’w gweld yn yr un anifail arall.  O ganlyniad nid oedd modd eu dadansoddi. Felly, beth mewn anifail sy’n cyfateb i siarad ? Am beth y byddai’r ymchwilwyr yn ei edrych ? Bellach mae tîm o Athrofa Esblygiad Anthropoleg, Leipzig, wedi gosod y genynnau dynol hyn mewn llygod labordy a’u bridio. Gwelwyd newidiadau dadlennol yn strwythur ymennydd ac yn ymddygiad y llygod. Effeithiwyd ar rannau o’r ymennydd sy’n gyfrifol am ddysgu symud. Mewn llinosiaid arbrofol, mae diffyg arall yn yr un math o enyn yn eu hatal rhag medru copïo caneuon adar eraill. Credir bod Foxp2 yn fodd i greu patrymau’r meddwl sy’n cydlynu symudiadau’r ysgyfaint, corn gwddf, tafod a’r gwefusau – cam unigryw yn esblygiad dyn. Gan fod modd gweld yr un fersiwn o Foxp2 mewn DNA a burwyd o ffosiliau dyn Neanderthal gwyddom i’r cam hwn ddigwydd cyn i ddyn modern a’i frawd Neanderthal fynd eu ffordd eu hunain dros 500,000 o flynyddoedd yn ôl.

Maes arall lle mae dyn yn manteisio ar anifeiliaid yw trawsblannu organau. Bellach mae’n gyffredin defnyddio meinweoedd moch i drwsio falfiau diffygiol calonnau a darnau o berfedd mochyn fel clytiau i drwsio pothelli, herniau a gewynnau pobl. Ond erys problem ymwrthiant gydag eitemau mwy cymhleth megis calon, afu neu aren gyfan. Mae system imiwnedd dyn yn adnabod y celloedd trawsblanedig fel ymosodiad estron ac yn eu lladd. Mae hyn hefyd yn wir, fel arfer, am drawsblaniadau organau dynol. Heddiw mae dros 100,000, yn America yn unig, yn aros yn obeithiol am drawsblaniad calon.  Ymgais Doris Taylor a’i thîm o Brifysgol Minnesota i ddatrys y broblem hon yw stripio’r holl gelloedd byw o’r organau trwy ddefnyddio ensymau nid annhebyg i’r rhai a ddefnyddir mewn powdwr golchi biolegol. Cysgod o’r organ, sef y sgaffald gewynnog sy’n dal y celloedd at ei gilydd, a adewir ar ôl. Yna  “gwisgir” yr olion yma â bôn gelloedd o gorff y claf sydd i dderbyn y trawsblaniad. Ni fydd y celloedd yma yn estron ac ni ddylent ennyn adwaith imiwnolegol. Y rhyfeddod yw bod y bôn gelloedd yn medru ymateb i giwiau ar y “cysgodion” organ a thyfu i fod y math iawn o gell yn y lle iawn – boed wythïen, gyhyr neu groen.   Yn atgof o olygfa agoriadol enwog nofel Aldous Huxley,  Brave New World, gwelir yn y labordy  yn Minnesota resi o boteli, pob un yn cynnwys calon llygoden yn curo wedi’i chysylltu â chyflenwad o waed artiffisial.  Mae Taylor wedi profi fod modd i’r organau hyn fyw am ychydig heb gael eu gwrthod yng nghyrff llygod. Y cam nesaf fydd eu gwneud yn ddigon cryf i bwmpio gwaed a chymryd lle’r galon wreiddiol. Ond nid defnyddio calonnau anifeiliaid mewn pobl yw’r nod – ond ei gwneud hi’n bosibl defnyddio pob calon sydd wedi’i rhoi ar ôl marwolaeth dyn fel sylfaen i galon newydd wedi’i hadeiladu o gelloedd y claf sy’n ei derbyn.  Defnyddio “cysgod” calon un dyn i greu calon newydd bersonol i un arall.

Pan ysgrifennai Aldous Huxley ei nofelau’n rhybuddio am beryglon Datblygiad i gymdeithas, ni sylweddolwyd ar y pryd y niwed materol yr oedd dynoliaeth yn ei wneud i’n byd. Mae’n debyg, erbyn heddiw, Gaia yn hytrach na Marx (Lenina yw enw un o gymeriadau Huxley) fyddai sylfaen nofel o’r fath. A minnau’n ceisio mabwysiadu ambell arferiad “gwyrdd” fe’m synnwyd wrth ddarllen adroddiad am ddrwg-ddylanwad gwahanol ffyrdd o drafnidiaeth. Yn yr adroddiad o Brifysgol Berkeley dangosir nad yw defnyddio’r rheilffyrdd ond ychydig bach yn llai niweidiol i’r amgylchedd na hedfan. Cyfrifwyd holl “gylch bywyd” y ddau ddull, gan gynnwys sawl teithiwr a gariwyd gan bob cerbyd yn ystod ei oes ynghyd â’r holl allyriadau a grëwyd wrth adeiladu a chynnal y trac, y ffyrdd a’r meysydd awyr. Yn achos trenau, mae’r adeiladau, y trac a’r holl bŵer i’w cynnal yn creu mwy o allyriadau na’r trenau eu hunain. Cadarnha’r adroddiad mai ceir yw’r dull mwyaf niweidiol i’r amgylchedd o symud pobl – ac eithrio  bysiau pan fônt yn teithio yn ystod oriau heb fod yn oriau brig.

Wrth gwrs a hirddyddiau hâf wedi cyrraedd, gwell fyddai anghofio am deithio ac ymlacio a  sylwi ar y pethau o’n cwmpas. Mewn erthygl ddiweddar yn y New Scientist, rhestrwyd rhyw ddeg o anifeiliaid nad oedd neb wedi sylwi arnynt o’r blaen. Ymhlith creaduriaid egsotig megis Pysgodyn Dracula Byrma, neidr leiaf y byd (Barbados) a phry-pric hiraf y byd (Borneo) ‘roedd gwlithen a ddarganfuwyd yng Nghaerdydd a Chaerffili – er y tybir ei bod wedi cyrraedd ein gwlad ni mewn baw ystlumod yn gymysg a giwano o Asia. Yno y gwelir ei pherthnasau agosaf. Creadures pur anghynnes yw hon, sy’n hela gwlithod eraill a mwydod ar hyd eu tyllau cul cyn eu trywanu â’i dannedd miniog a’u llyncu’n fyw. Disgrifia Bill Symondson a Ben Rowson, o’r Brifysgol a’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yr anifail fel un sydd mor wyn fel ei bod yn disgleirio, megis drychiolaeth. A’i henw, rhag ofn ichwi daro arni yn yr ardd, yw Selenochlamys ysbryda ! Enghraifft unigryw, efallai, o ddisgrifiad Cymraeg mewn enw ffurfiol Lladin. Rhowch wybod imi os oes enghreifftiau eraill.