Barn 25 (Mehefin 2009): Telesgopau Herschel a Phlank, Ysgrifen hynafol

Dros y blynyddoedd collwyd sawl lloeren ddrud wrth i’n roced Ewropeaidd ni,  Ariane 5, fethu. Yn 1996 aeth clwstwr o loerennau a lansiwyd i fesur amgylchedd ffisegol y ddaear ar goll ar ôl gwall cyfrifiadur. Costiodd ¬315 miliwn i’w hail lansio yn 2000. Yn 2002 ffrwydrodd lansiad masnachol gan ohirio lansiad Rosetta i ymweld â chomed a’i dadansoddi ar gost o ¬100 miliwn.  Ond ganol Mai eleni aeth popeth yn iawn wrth i ddwy loeren wyddonol gwerth dros ¬2 biliwn gyrraedd orbit yn ddiogel. Roedd bron modd clywed ochenaid o ryddhad miloedd o wyddonwyr ledled y byd, gan gynnwys nifer ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn rhan o’r ddau brosiect.

Telesgopau gofod newydd yw’r lloerennau a enwyd ar ôl dau o enwogion Ewrop – William Herschel a Max Planck. Darganfyddwr y blaned Wranws a goleuni isgoch y gofod oedd Herschel, tra ystyrir mai Planck sefydlodd wyddor y cwantwm ac mai ef yw un o ffisegwyr pwysicaf yr 20fed ganrif. Telesgop Herschel yw’r fwyaf erioed i gael ei anfon i’r gofod – 3.5 metr o led, o’i gymharu â 2.4 metr yr Hubble enwog. Bydd yn mapio’r gofod sydd i’w weld yng ngolau isgoch (sy’n esbonio’i henw).  Mae holl leithder yr awyr sy’n cuddio’r ddaear rhag y goleuni hwn yn rhan o’r broses sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r effaith tŷ gwydr sy’n pennu’n hinsawdd. Bydd Herschel yn llenwi’r bwlch olaf hwn yn sbectrwm ein darlun o’r gofod. Wrth edrych trwy’r cymylau nwy a llwch sy’n gorchuddio galaethau a sêr bydd yn dangos sêr ar foment eu geni a dilyn hynt bywyd galaethau gan gynnwys ein galaeth ni – y Llwybr Llaethog. Bydd yn dangos inni ddigwyddiadau dros dri chwarter hanes y bydysawd yn ôl – oes fwyaf toreithiog geni sêr. Bydd hyn yn ein  galluogi i ddeall yn well darddiad ein daear a system yr haul.

Hefyd yn driw i’w enw bedydd, bydd Planck yn dadansoddi natur defnydd y bydysawd ei hun. Yn 1965 darganfuwyd olion fflach y “Glec Fawr” a gychwynnodd, mae’n debyg, y bydysawd o’n cwmpas. Ar ôl 13.75 biliwn o flynyddoedd mae hon wedi pylu’n sylweddol! Ond mae yno o hyd yn gefndir microdon ysgafn. Yn ddiarwybod, bu’r rhai hŷn ohonom yn ei gweld yn rheolaidd fel y “sŵn” ar sgrin teledu heb ei diwnio. Ni ddaw’r hyn a welwn heddiw o’r cychwyn cyntaf, ond o ryw 380,000 o flynyddoedd wedi hynny. Cyfnod hir i ddyn, efallai, ond moment yn hanes amser.

Wrth edrych ar lun microdon y bydysawd mae modd dysgu am yr hyn ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw. Dros y blynyddoedd gwthiwyd ein damcaniaethau yn ôl i funudau, eiliadau ac yna ffracsiynau o eiliadau cyntaf hanes amser a’r bydysawd. Bellach mae damcaniaethau ag iddynt sylfaen tystiolaeth yn mynd yn ôl i gyfnod 10-34 eiliad ar ôl y cychwyn (can mil, miliwn, miliwn, miliwn, miliwn, miliynfed ran o eiliad), pan nad oedd y bydysawd i gyd ond 10-20 maint proton. Yno credir y bu moment pan chwyddodd y bydysawd ar gyflymder llawer cyflymach na goleuni – rhywbeth sy’n groes i’r syniad na all dim symud yn gynt na goleuni. Yn ôl y ddamcaniaeth dylai bod modd gweld tystiolaeth am y broses hon ym manylion y cefndir microdon. Er mor bell yn ôl, bu’r hyn a ddigwyddodd yn ystod y foment hon yn dra phwysig i ni. Dyna pryd, fel mewn crochan o uwd ar y tân, yr ymddangosodd y ”lympiau” a aeth ymlaen i ffurfio galaethau, sêr, planedau a phobl. Heb y digwyddiad hwn ni fyddai’r bydysawd yn ddim ond niwl tenau o ronynnau, heb hyd yn oed atomau ynddo.

Efallai hefyd y bydd manylder Planck yn ein galluogi i weld tystiolaeth uniongyrchol i Real Sanctaidd arall y cosmolegwyr, sef bodolaeth bydysawdau eraill, cyfochrog â’n bydysawd ni. Mae’r ddamcaniaeth hon wedi codi cwestiwn ieithyddol athronyddol eisoes. Ystyr y gair ”Universal” yw ”popeth”. Eisoes bathwyd y term ”Multiverse” yn Saesneg ar gyfer y casgliadau yma o ”bopethau”. Nid wyf eto wedi cael amser holi fy nghyfaill, y Dr. Bruce Griffiths, am y gair yn y Gymraeg – anfonwch awgrymiadau at Barn!  Os nad oedd lansiad Mai 14 yn ddigon o ddiwrnod i’r brenin i seryddwyr, y diwrnod cynt, tynnwyd telesgop gofod Hubble i howld y wennol ofod Atlantis er mwyn gwneud y gwaith trwsio a thwtio diweddaraf. Bydd hyn yn ei wella ac yn ymestyn ei fywyd rhyfeddol am ychydig flynyddoedd eto. Yn drist, braidd, un o’r gwelliannau fydd gosod braced a ddefnyddir, pan ddaw’r amser, i’w dynnu o’i orbit i’w ddiwedd tanllyd uwchben un o gefnforoedd y byd.

Gwrthrychedd mathemateg sydd wrth wraidd ceisiadau’r ffisegwyr i ddeall tarddiad amser a’r bydysawd. Yn y cylchgrawn Science yn ddiweddar bu erthygl yn defnyddio mathemateg i ymchwilio un o “hen ieithoedd diflanedig teulu dyn”.  Mae dros ganrif a chwarter ers y cafwyd y disgrifiad cyntaf o arysgrifau o ddyffryn yr Indws ym Mhacistan sy’n dyddio yn ôl dros 4000 o flynyddoedd. Perthyn yr arysgrifau annealladwy hyn i wareiddiad enwog Harappa a Mohenjo-daro, dinasoedd diflanedig sydd ddim ymhell o’r ymladd heddiw ar ffin Affghanistan.  Er nad oes neb yn dadlau nad dyma’r ysgrifen gynharaf,  mae cryn ddadlau a ydyw’n cynrychioli iaith o gwbl. Cred y mwyafrif mai cyfres o luniau crefyddol ydynt.  I geisio torri’r ddadl mae Rajesh Rao o Brifysgol Washington wedi defnyddio mathemateg i ddadansoddi trefn y “llythrennau”. Mae’n dadlau ei bod yn wir yn dilyn patrwm iaith – ac yn fathemategol yn debyg ei threfn i’r Sanscrit. Mae’r llythrennau’n fwy trefnus, ac yn debycach i iaith, na dilyniant DNA ond yn llai felly nag iaith gyfrifadurol Fortran. Y gobaith yw dod o hyd i ryw garreg Rosetta lle bydd modd dehongli’r iaith wrth ochr un arall. Yn y cyfamser mae lluoedd yr unfed ganrif ar hugain yn yr un ardal yn ceisio darganfod iaith gyffredin am resymau arall. Weithiau mae’n haws ateb dirgelion dyfnaf y bydysawd na dirgelion cydberthynas pobloedd. Efallai y dylwn ddilyn esiampl y Bardd Cwsg a defnyddio telesgop !