Barn 24 (Mai 2009): Geobeirianneg, Anifail Tir Sych, Stormydd Haul

Mae cred gynyddol ymysg gwyddonwyr, a minnau yn eu plith, ei bod bellach yn rhy hwyr i atal newidiadau sylweddol yn hinsawdd y blaned. Bydd ein hwyrion yn dihuno i ddaear bur wahanol i’n daear ni. Rhaid dysgu byw gyda chynnwys blwch Pandora.  Yng Nghymru, efallai y bydd hyn yn haws ei wneud nag mewn sawl rhan arall o’r byd. Os oes ffenestri yn y nefoedd, cawn weld ! Ond nid esgus i laesu dwylo ar ein hymdrechion i ddadwneud drwg y ganrif a hanner diwethaf yw hyn. Ymysg y cynlluniau i dynnu deuocsid carbon o’r awyrgylch mae gweithgareddau dadleuol a fedyddiwyd yn “Geo-beirianneg”, sef ceisio yn fwriadol newid yr amgylchedd – techno-fix – ar raddfa sylweddol. Un syniad yw bod modd symud CO2 o’r awyr a’i gloi yn nyfnderoedd y môr, lle, yn nhreigl amser, bydd yn troi yn galchfaen.  Gwaddod sgerbydau a chregyn biliynau o blanhigion microsgopig sydd wedi marw a suddo i’r gwaelodion yw pob calchfaen – megis haenau ardal ogofau de Cymru, creigiau Eglwyseg  a rhannau o sir Fôn. Ffurfir yr haenau hyn dros gyfnodau daearegol o filiynau o flynyddoedd – ond cred rhai bod modd cyflymu’r broses yn sylweddol. Rhônt eu gobaith yng nghefnforoedd dyfnion y de. Yno mae tyfiant y planhigion yma, sy’n troi COyn gemegolion organig trwy ffotosynthesis, wedi’i gyfyngu gan ddiffyg maethynnau eraill – yn arbennig, haearn.  Trwy daenu haearn ar ffurf  doddadwy i’r môr byddai’r planhigion planctonaidd yn ffynnu – proses a elwir yn “bloom”. Yn eu tro byddai’r rhain yn marw a’u cyrff yn suddo i’r dyfnderoedd i’w troi yn ffosiliau calchfaen. Yn adroddiad 2001 y pwyllgor rhyngwladol ar newid hinsawdd (IPCC) crybwyllir y byddai 300,000 tunnell o haearn yn tynnu 800 miliwn tunnell o garbon o’r atmosffer – tua chwarter yr hyn sy’n bodoli yng nghylch carbon y moroedd ar hyn o bryd. Yn 1993 a 1995 gwnaed dau arbrawf, IronEx 1 a 2, lle tywalltwyd tua hanner tunnell o haearn dros ryw 30 milltir sgwâr. Er y gwelwyd cynnydd yn y plancton, aneglur oedd y canlyniadau.  Yn awr mae canlyniadau cyntaf arbrawf mwy wedi ymddangos. Taenwyd 6 tunnell dros ryw 110 milltir sgwâr yn Ne’r Iwerydd gan dîm LOHAFEX o’r India a’r Almaen.  Cafwyd y bloom disgwyledig, ond yn lle suddo i’r dyfnderoedd, fe’i llarpiwyd gan heidiau o gramenogion copepod microsgopig. Yn eu tro bwytawyd y rhain gan gorgimychiaid ac ymuno â chadwyn fwyd pysgod mawr a morfilod. Ofer fu’r arbrawf, felly, a rhyddhawyd yr holl garbon yn ôl i’r awyr trwy resbiradaeth.  Nid yw pethau’n argoeli’n dda i’r “ffisig” geo-beiriannyddol hwn.

Calchfaen dyfnderoedd y môr oedd diddordeb LOHAFEX, ond tywodfaen o ffurfiwyd yn nyfroedd bas a glannau’r tir lle heddiw y mae canolbarth Wisconsin yw diddordeb y daearegydd James Hagadorn o Goleg Amherst.  Yn y garreg, a ffurfiwyd rhwng 510 a 490 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gwelodd olion traed ffosil  cramenogyn – sgorpion y môr – o’r enw Protichnites. Enghraifft o’r camrau cyntaf gan anifeiliaid y môr i goncro’r tir sych wrth i’w cynefin newid o un i’r llall yn gyson. Ond, i lên-ladrata o Superted, nid Protichnites cyffredin mohono ! Roedd rhywbeth rhyfedd am yr olion. Roeddent wedi’u hystumio i un ochr ac yr oedd ôl fel petaent yn llusgo rhywbeth. Esboniad Hagadorn yw eu bod yn llusgo cragen wag yn llond o ddŵr ar eu holau – mewn modd tebyg i’r cranc meudwyol heddiw. Yn wir, mae’r olion yn debyg iawn i’r rhai a grëir gan y cranc hwnnw.  I’r gwrthwyneb i nofiwr tanddwr, yn mynd â’i gyflenwad o awyr mewn tanc, roedd y creaduriaid yma yn mynd â’u cyflenwad dŵr i’w canlyn mewn cragen fechan wrth fynd am dro i’r tir sych. Roedd hefyd yn eu gwarchod rhag effeithiau niweidiol ymbelydredd uwch-fioled yr haul.

Yn anffodus, nid yw holl gregyn y môr yn debygol o warchod ein cymdeithas holl-ddibynnol ar gyfrifiaduron a chyflenwadau cymhleth o drydan  rhag allyriadau o fath arall o’r haul.  Mae i’r haul ei dymhorau – rhai tymhestlog a rhai tawel. Pery’r cylch rhyngddynt tuag un mlynedd ar ddeg. Yn ystod y cyfnodau tawel ychydig yw’r brychau haul ac mae wyneb yr haul yn debyg i fôr tawel heddychlon.  Ar hyn o bryd dyma’r sefyllfa. Yn wir mae’r haul gyda’r tawelaf y bu ers canrif. Ond ar ddiwedd y cyfnod hwn bydd cynnwrf yng ngwyneb yr haul gyda stormydd magnetig yn rhwygo’r wyneb. Gellir gweld y stormydd mwyaf o’r ddaear – y brychau haul, gyda defnydd, cannoedd o weithiau maint y ddaear, yn ymgordeddu ohonynt.  Mae lluniau fideo ohonynt yn neidio o’r wyneb ac yn dilyn y meysydd magnetig yn ôl i’r haul yn aml i’w gweld ar raglenni teledu am wyddoniaeth yr haul. Ond o bryd i’w gilydd, megis chwip yn cracio, mae un ohonynt hyn yn chwipio o wyneb yr haul ac yn anfon pelen o ddefnydd yr haul allan i’r gofod. Os trewir y ddaear gan un o’r rhain, fel sy’n digwydd o bryd i’w gilydd,  mae’r effeithiau yn ddramatig. I’r llygad fe’u gwelir fel sioe o’r Aurora borealis – goleuadau’r gogledd. Yn 1859 y digwyddodd  y mwyaf ohonynt y gwyddom amdano, lle gwelwyd yr Aurora yr holl ffordd i’r cyhydedd.  Yn ystod Digwyddiad Carrington, fel y’i gelwir, ymyrrwyd gryn dipyn ar rwydweithiau telegraff y byd wrth i’r meysydd magnetig anwytho’r gwifrau. Mesurwyd ei gryfder with i lawer o fagnetomedrau cyntefig oes Fictoria fynd y tu hwnt i’w terfynau. Ym mis Mawrth 1989, yn Quebec Canada, collodd 9 miliwn o drigolion y dalaith eu cyflenwad o drydan am 9 awr wrth i storm lawer llai anwytho’r grid trydan nes y bu i wifrau’r gorsafoedd trosglwyddo doddi.  Mae llawer o’r datblygiadau diweddar ym myd telathrebu ar y ddaear ac yn y gofod (GPS er enghraifft), a’n dibyniaeth gynyddol arnynt,  wedi digwydd yn ystod cyfnod o haul tawel. Yn y blynyddoedd i ddod cawn gyfle i weld pa mor agored ydym i effeithiau storm fawr. Cred rhai y gall storm felly ddinistrio holl strwythur telathrebu ac egni gwledydd fel yr Unol Daleithiau a Tsieina.  Un anhawster, ymysg lluoedd, yw nad yw’n hawdd darogan pryd y daw’r belen blasma i gyfeiriad y ddaear. Ar noson Rhagfyr 16 y llynedd, trawyd y ddaear gan belen a oedd yn rhy fach i greu difrod. Yn ystod y diwrnod cynt roedd dwy loeren – a elwir yn STEREO (Solar Terrestrial Relations Observatory) – wedi ei gweld ar ei ffordd o’r haul. Mae dwy loeren STEREO yn amgylchynu’r haul; un o flaen y ddaear, a’r llall y tu ôl iddi. Roedd modd, felly, iddynt greu delwedd stereo o’r belen blasma. O’r ddelwedd bu modd cyfrifo ei llwybr.  Er bod angen gwella ar feddalwedd y system hon fe’i gwelir fel cyfraniad sylweddol i amddiffyn systemau trydanol ac electronaidd y ddaear. Bydd gan beirianwyr ledled y byd 24 awr i osod eu systemau yn y modd mwyaf diogel. Efallai bydd angen diffodd systemau’r holl wledydd am noson – ond byddai hyn yn osgoi niwed a fyddai’n cymryd blynyddoedd i’w drwsio. Bydd perygl y cylch nesaf ar ei waethaf yn ystod nosweithiau gwanwyn a’r hydref 2012 – gwell cael y lamp Tilley yn barod, jest rhag ofn.