Do mi fu’n aeaf oer – yn swyddogol. Dros Ragfyr bu’n 0.9ºC yn oerach na’r cyfartaledd ers 1961. Gobeithio eich bod wedi cofio bwydo’r adar. Mae cynnal tymheredd eu cyrff, sy’n sylweddol uwch na’n tymheredd ni, yn hanfodol iddynt. Yn ddiweddar cyhoeddwyd papur yn Nature a oedd yn disgrifio effaith oeri rhannau arbennig o ymennydd adar bach ac yna nodi eu hymarferion canu. O ganlyniad ‘roedd y diwn a grëid yr un fath ag arfer – ond ‘roedd yn arafach. Wrth gwrs, fel arfer mae proses homeostatig yn cynnal tymheredd pennau’r adar yn gyson – ac ni welwn yr effaith ar fore oer yn yr ardd. Pwrpas yr arbrawf oedd ceisio deall sut roedd yr adar yn amseru pethau. Bellach gwyddom fod y rhannau o’r ymennydd a dadansoddwyd yn cynnwys math o “fetronom”. Hefyd, gwelwyd bod grwpiau gwahanol o gelloedd yn ymwefru ar adegau gwahanol yn y gân. Digon posibl bod system debyg yn ein pennau ni – sy’n rhoi ystyr arbennig i’r ymadrodd “cool it” pan rydym yn siarad yn rhy gyflym!
Rhywsut neu’i gilydd mae holl adar ein hardal yn gwybod sut i ddod o hyd i’n bwrdd bwydo ni. Mae’n syndod sut mae modd iddynt greu mapiau o’r fro yn eu pennau. Fy ffefryn, o hyd, yw Telor y Cnau. Mae hwn hyd yn oed yn gallu gyrru’r Robin ar ffo – hyd nes daw’r gwiwerod. Ond stori arall yw honno. Bu dau adroddiad diweddar sy’n dangos sut yr ydym ninnau, hefyd, yn gwella ein hymwybyddiaeth o’r byd o’n cwmpas. Mae’r cwmni satnav sy’n marchnata’r Tom-tom wedi darganfod defnydd newydd i’r dechnoleg. Tros Ewrop mae modd iddo fesur pa mor gyflym mae ffonau symudol yn symud (ym mhocedi eu perchnogion, wrth gwrs). O’r wybodaeth hon mae modd canfod ym mha le mae’r jamiau traffig. Mater bach yw bwydo’r wybodaeth hon mewn eiliadau yn ôl i’r Tom-tom ar y dashfwrdd i rybuddio’r gyrrwr i osgoi’r tagfeydd gwaethaf.
Llai gwamal, efallai, yw’r defnydd diweddaraf mae Google Flu Trends – rhan ddyngarol o’r cwmni gwe enwog – yn ei wneud o’n holl logio am wybodaeth. Trwy fapio’r holl ymholiadau dyddiol dros y byd am y ffliw a sut i’w thrin, mae modd dyfalu lle mae’r rhan fwyaf o’r ffliw ar unrhyw bryd. Profwyd cywirdeb y drefn trwy gymharu’r canlyniadau ag ystadegau o adroddiadau doctoriaid. Y gobaith yw bod system Gŵgl yn dipyn cyflymach, ac y gallai fod o fudd mawr i ymateb yn sydyn i epidemigau’r dyfodol i’w hatal rhag troi’n bandemig.
Ond nid ffliw bandemig laddodd deulu o Eulau yn yr Almaen ryw 4600 o flynyddoedd yn ôl yn ystod Oes y Cerrig. Pan ddarganfuwyd eu gweddillion yn 2005 gwelwyd holl olion gyflafan. Roedd pen saeth ym meingefn un wraig ac olion trawiadau bwyell ar freichiau a phenglogau’r rhai eraill. Roedd 13 o gyrff i gyd mewn pedwar bedd. Yr hyn a gyfiawnhaodd gyhoeddir darganfyddiad mewn cylchgrawn tra uchel ei barch oedd cydberthynas y pedwar corff a gwraig – a dau blentyn. Trwy ddadansoddi DNA’r esgyrn gwelwyd bod y plant yn cario DNA mitocondria’r wraig a chromosom Y y gŵr. Dyma enghraifft gynnar o dystiolaeth dros y teulu niwclear. Maen debyg nad yw’n amlwg pa bryd yn esblygiad dyn yr ymddangosodd y patrwm hwn o fywyd teuluol, pwnc sy’n gymaint o destun trafodaeth yn y byd sydd ohoni.
Chwilio am deulu o fath gwahanol yw diben nifer o ddefnyddwyr gwasanaethau cyswllt megis Facebook. Y mae cyfrifiad-grŵp cymdeithasol Bebo yn pelydru negeseuon tecst a lluniau tuag at Gliese 581c (newydd ei darganfod y mae’r blaned hon ac mae’n debyg o ran maint i’r ddaear ac yn 20 blwyddyn goleuni i ffwrdd oddi wrthym) ond y mae cyd-gadeirydd y mudiad SETI wedi awgrymu pam nad ydym hyd yma wedi derbyn negeseuon tebyg o’r gofod. Ers 1960 mae seryddwyr wedi chwilio am dystiolaeth o fywyd deallus yn holl sŵn naturiol radio sy’n cyrraedd y ddaear o’r gofod. Mae’n debyg bod sawl darllenydd Barn ymysg y 5 miliwn ohonom a roddodd fenthyg amser sbâr ein cyfrifiaduron i SETI@home. Ond er gwaethaf 19 biliwn awr o brosesu signalau, hyd yma ni welwyd yr un neges ddiamwys. Y paradocs yw bod hyn er gwaethaf yr ymddengys yn llawer sicrach bob blwyddyn bod bywyd deallus yn debygol o fod yn bur gyffredin yn y bydysawd. Nawr mae Claudio Maccone yn cynnig esboniad. Ar y ddaear, eisioes gyda’n technoleg ifanc, mae mwy a mwy o bwyslais ar “encriptio” negeseuon. Pa ryfedd, felly, y byddai unrhyw wareiddiad mwy datblygedig yn defnyddio system telathrebu a fyddai’n anodd iawn ei chanfod – heb sôn am ei deall. Ei awgrym yw defnyddio system fathemategol newydd i hidlo’r signalau a ddaw o delesgopau radio newydd a gwblheir yn 2012. Er, mae’n eithaf sicr mai cynnig miliynau o ddoleri gan ryw weddw gwleidydd o ryw Nigeria ecstragalactig, neu gynnig amheus i warchod eich cyfrif HSBC fyddai’r negeseuon cyntaf i’w canfod. Meddyliwch – sbam o’r gofod hefyd !